|
Sundance Yn y tawelwch
Adolygiad Dr Diarmait Mac Giolla ChrÃost o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Sundance gan Aled Jones Williams.
Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, Mawrth 22 2006.
Beth yw arwyddocâd tawelwch? The world of our fathers resides within us. Ten thousand generations and more. A form without history has no power to perpetuate itself. What has no past can have no future. At the core of our life is the history of which it is composed and in that core there are no idioms but only the act of knowing and it is this we share in dreams and out. Before the first man spoke and after the last is silenced forever. Yet in the end he did speak....(Cormac MacCarthy).
Uchelgais y ddrama Sundance yw gofyn y cwestiynau mwyaf hanfodol ynglŷn ag iaith, ac er ei gwendidau fel gwaith celfyddydol mae'n llwyddo i archwilio mewn modd pwrpasol rai o'r themâu pwysicaf yn hyn o beth.
Yr her Mae natur yr her sydd yn wynebu iaith, yn ôl Sundance, yn driphlyg sef ystyr, erydu a cholled; ac o'r rhain colled yw'r mwyaf.
Mae'r ddrama yn agor gyda golygfeydd o'r ffilm High Plains Drifter wedi'u taflunio ar y set. Ac yna, yn nes ymlaen yn y perfformiad y mae golygfeydd tyngedfennol o High Noon yn ymddangos ar y llwyfan yn yr un modd.
Yr hyn sydd yn awgrymog yn y berthynas rhwng y ddrama a'r ffilmiau yw'r tawelwch, sef absenoldeb iaith, sydd yn diffinio'r ddwy ffilm a'r cymeriadau eiconaidd a chwaraewyd gan Clint Eastwood a Gary Cooper.
Er pŵer a nerth y ddwy ffilm hyn fel datganiadau celfyddydol o arwyddocâd iaith y mae Sundance yn cynnig persbectif ar iaith sydd yn groes i'r gweithiau hyn.
Geiria sy'n 'nal i hefo'i gilydd...fel seffdi pins...naci, fel lasdig bands...Am 'y mod i'n medru deud petha dwi'n gwbod mod i yma... y mae Owen Arwyn, unig chwaraewr y ddrama, yn ei gynnig inni mewn perfformiad grymus.
Hynny yw, oherwydd iaith y mae'r bod dynol wedi'i ryddhau o dawelwch anferthol y byd materyddol a thrwy iaith y mae'r bod dynol yn mynnu bodolaeth unigryw ac unig ymhlith holl greadigaethau'r byd byw.
Nifer o oblygiadau Ond os ydym am gymryd y gosodiadau hyn, mewn perthynas â thawelwch ac iaith, o ddifri a chymryd eu bod nhw wedi'u bwriadu gan y dramodydd, yna mae nifer o oblygiadau i'r ddrama.
Yn gyntaf, mae modd dehongli tawelwch fel rhesymeg derfynol iaith yn ei chyflwr puraf, mwyaf ystyrlon oherwydd ar ôl perffeithrwydd beth arall sydd i'w ddweud? Yn ail, mae tawelwch yn profi bod gwerth y weithred yn fwy na gwerth y gosodiad geiriol. Nid yw siarad am y byd yn ei newid ond, yn hytrach, dim ond trwy weithredu bydd hynny yn digwydd. Yn drydydd, tawelwch yw canlyniad dibrisio a dad-ddyneiddio iaith yn sgîl y ganrif ddiwethaf. Nid oes yna farddoniaeth ar ôl Auschwitz medd Adorno.
Yn hyn o beth, felly, mae'r Gymraeg a'r diwylliant y mae hi'n gynnyrch ohono ar drothwy'r ffin hon rhwng iaith a thawelwch, a hynny ar sawl lefel.
Nid yn unig y mae'r tensiwn hwn yn adlewyrchu'r rhwyg creadigol a dinistriol sydd rhwng theatr y testunol a'r perfformiadol o fewn diwylliannau llai yn gyffredinol ond y mae, yn ogystal, yn emblematig o gyflwr y Gymraeg yn benodol o safbwynt ieithyddol a chymdeithasegol.
Mae'r iaith, i aralleirio Steiner, yn wynebu Apollyn ac mae'r newid yn un ieithyddol a chymunedol.
Dwy ffordd ymlaen Ac yn ôl Steiner nid oes ond dwy ffordd ymlaen: To a writer who feels that the condition of language is in question, two essential courses are available: he may seek to render how own idiom representative of the general crisis, to convey through it the precariousness and vulnerability of the communicative act; or he may choose the suicidal rhetoric of silence.
Yn Sundance mae'r dramodydd yn ymladd â'r ddwy ond, erbyn y diwedd, mae'r dewis wedi'i wneud.
Wrth i'r Gymraeg ddod gartref, ys dywed yr ôl-fodernwyr, ai tawelwch felly yw'r unig opsiwn?
Nid o reidrwydd.
Fel y mae Nuala Nà Dhomhnaill yn awgrymu yn wyneb yr un distryw, mae gobaith: Cuirim mo dhóchas ar snámh i mbáidÃn teangan.....féachaint n'fheadaraÃs cá dtabharfaidh an sruth é, féachaint, dala Mhaoise, an bhfóirfidh inÃon Fhorainn? . . . I place my hope on the water in this little boat of the language.....only to have it borne hither and thither, not knowing where it might end up; in the lap, perhaps, of some Pharaoh's daughter.
Mae'r Dr Diarmait Mac Giolla ChrÃost yn ddarlithydd yn ac yn awdur Language, Identity and Conflict(Routledge, 2003) ac The Irish language in Ireland from goÃdel to globalisation (Routledge, 2005).
Cysylltiadau Perthnasol
Mwy am y cynhyrchiad
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|