| |
|
TÅ· ar y Tywod Cwmni cenedlaethol yn canmol ymateb cyn cychwyn ar daith newydd
Mae Cwmni Theatr Genedlaethol newydd Cymru wedi canmol y ffaith i hyd at 10,000 o bobl ddod i weld ei berfformiadau blwyddyn gyntaf.
Yr oedd y cynhyrchiadau yn cynnwys drama rymus Meic Povey, Yn debyg iawn i ti a fi, a chynhyrchiad Cymraeg dadleuol o Romeo a Juliet William Shakespeare.
Gwelwyd y flwyddyn yn dirwyn i ben gyda drama Gwyneth Glyn, Plas Drycin - comedi am yr argyfwng tai mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd y cwmni yr wythnos hon mai 66% o seddi prif theatrau Cymru a werthwyd ar gyfer y perfformiadau.
"Mae ein polisi gwreiddiol o fynd â'n cynyrchiadau cyn agosed â phosib at ein cynulleidfa wedi bod yn allweddol i'n llwyddiant," meddai Cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru, Lyn Jones.
"Bellach, flwyddyn yn ddiweddarach, gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol gan wybod yn iawn fod gennym gynulleidfa deyrngar a chref, Gymru benbaladr," ychwanegodd.
Cyhoeddwyd hefyd mai cynhyrchiad nesaf y cwmni fydd TÅ· ar y Tywod gan y diweddar Gwenlyn Parry - "un o ddramodwyr mwyaf cynhyrchiol ac amrywiol Cymru'r ugeinfed ganrif".
Llwyfannwyd Tŷ ar y Tywod gyntaf ym 1968. Mae'n ddrama sy'n cael ei chymharu a dramodwyr fel Harold Pinter ac Eugéne Ionesco.
Bydd yn cychwyn ar daith chwe wythnos o Gymru yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, Ebrill 21-23, 2005 gan ymweld wedyn â: Theatr Gwynedd, Bangor (Ebrill 27-29, 2005); Theatr Lyric, Caerfyrddin (Mai 4, 2005); Canolfan Gelfyddydau Taliesin Abertawe (Mai 6-7, 2005); Theatr Mwldan, Aberteifi (Mai 13-14 Mai); Theatr Ardudwy, Harlech (Mai 17-18, 2005); a Theatr Sherman, Caerdydd, (Mai 26-28, 2005).
Drama gerdd Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i lwyfannu drama gerdd yn ddiweddarach yn y flwyddyn wedi'i selio ar ddiwygiad Evan Roberts , 1904/05.
"Fe gymrodd hi amser hir a chryn ddyfalbarhad i wireddu'r freuddwyd o theatr genedlaethol Gymraeg, ond mae'r ymateb a gawson ni dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos yn glir fod galw am ddatblygiad o'r fath," ychwanegodd Lyn Jones.
"Rwy'n hyderus y bydd y fenter yn tyfu o nerth i nerth fel y byddwn ni sy'n aelodau'r Bwrdd Rheoli yn ogystal â'r tîm awyddus o actorion a'r rhai sy'n gweithio'r tu ôl i'r llwyfan yn ymateb yn gadarnhaol i'r sialens," meddai.
Er bod bencadlys Theatr Genedlaethol Cymru yn Llanelli ar hyn o bryd bydd yn symud i ganolfan gelfyddydau newydd yng Ngholeg y Drindod pan fydd honno wedi'i chwblhau.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru'n cyflogi deg o bobl amser llawn gan gynnwys tîm o bedwar o actorion craidd ifanc.
Y Cyfarwyddwr Artistig yw Cefin Roberts sy'n cael ei ddisgrifio mewn datganiad gan y cwmni fel gŵr "hynod dalentog".
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|