|
Plas Drycin Mae'n ffars - y farchnad dai yng Nghymru trwy lygaid Gwyneth Glyn
Bydd un o bynciau mwyaf llosg a dadleuol y Gymru gyfoes yn cael ei drin mewn "ffordd ysgafn tu hwnt" mewn drama newydd.
Awdur cynhyrchiad diwedaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru. yw un o'n sgrifenwyr ifanc mwyaf cyffrous, Gwyneth Glyn.
"Gan mai pwnc canolog Plas Drycin yw'r farchnad dai mae'r ddrama'n anorfod yn delio â chyflwr y farchnad mewn ardaloedd gwledig - ond mewn modd ysgafn tu hwnt," meddai am y ddrama sydd wedi'i lleoli mewn plasty gwledig sydd ar werth.
Mae'r cymeriadau yn cynnwys gwerthwr tai brwdfrydig, cwpl amheus sydd â diddordeb mewn prynu'r eiddo, archeolegwr ar bigau'r drain, a "llosgwr tai haf wedi drysu'n lân gyda'r sefyllfa".
Anhrefn a hwyl "Mae hyd yn oed y tÅ· ei hun yn cyfrannu tuag at yr anhrefn sy'n dilyn," meddai'r awdur, Gwyneth Glyn.Disgrifwyd y ddrama fel cyfuniad o gyd-ddigwyddiadau, camddealltwriaeth a phenderfyniad di-ildio.
Mae Gwyneth Glyn, 25 oed, yn hanu o Lanarmon ger Chwilog yng Ngwynedd ac ers graddio yng Ngholeg Iesu yn Rhydychen dychwelodd i Gymru i ddilyn gyrfa fel sgriptiwr radio a theledu, fel awdur, fel cyfarwyddwr drama, fel bardd ac fel dramodydd.
Darlledwyd a llwyfannwyd ei dramâu a chyhoeddwyd ei nofelau a ysgrifennwyd ar gyfer plant a phobl ifanc.
Plas Drycin yw ei drama gomedi gyntaf ar gyfer y llwyfan.
"Mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn ei ystyried ei wneud ers talwm," meddai Gwyneth, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon.
"Diolch i Theatr Genedlaethol Cymru daeth y cyfle i wireddu hynny'n gynt yn hytrach na'n hwyrach."
Yr actorion Mae cast Plas Drycin yn cynnwys rhai o actorion comedi blaenaf Cymru.
Mae Sue Roderick yn adnabyddus am ei rhannau mewn comedïau ar y teledu yn ogystal â'i rhan fel Cassie yn Pobol y Cwm.
Yn ymuno â hi mae un arall o actorion comedi mwyaf profiadol Cymru, Wynfford Ellis Owen.
Aelodau eraill o'r cast yw Jonathan Nefydd ac actorion craidd Theatr Cenedlaethol Cymru, Owen Arwyn, Rhian Blythe, Carys Eleri Evans a Dave Taylor.
Cyfarwyddwr Plas Drycin yw un arall o actorion teledu, radio a llwyfan Cymru, Valmai Jones.
Y daith Mae taith chwe wythnos Plas Drycin yn cychwyn yn Theatr Gwynedd Bangor, Ionawr 19-22, 2005, gan ymweld wedyn â: Theatr Sherman, Caerdydd ar Ionawr, 27-29, 2005;
Theatr Mwldan, Aberteifi ar Chwefror 2-4;
Canolfan Gelfyddydau, Aberystwyth, ar Chwefror 8-9;
Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog, ar Chwefror 17-18;
gan ddod i ben yn Thetar Elli, Llanelli, Chwefror 24-25. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30.
Trydydd cynhyrchiad Hwn yw trydydd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru.Y cynhyrchiad cyntaf oedd drama Meic Povey, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi ac wedyn bu cynhyrchiad dadleuol Cefin Roberts o Romeo a Juliet a feirniadwyd yn hallt gan Ceri Sherlock a gododd gwestiynau ynglŷn â holl fodolaeth y cwmni newydd a rhan Cefin Roberts fel cyfarwyddwr artistig.
Am y cynhyrchiad diweddaraf hwn dywedodd Elwyn Williams, rheolwr marchnata y cwmni: "Dyma'r tro cyntaf i ni lwyfannu comedi ac rydym yn edrych ymlaen yna arw. Mae'n argoeli'n berfformiad digri tu hwnt."
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|