O'r boddhaol i'r diflas Delyth Evans Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes Gwynedd, yn pwyso a mesur cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Siwan
Mi es i a dwy ffrind i Theatr Gwynedd ym Mangor i weld Siwan gan Saunders Lewis. Roeddwn wedi clywed dipyn am y ddrama a bod rhagolygon da iawn ar ei chyfer.
Ar y dechrau nid oeddwn yn siŵr iawn sut y byddai'r ddrama yn gallu cael ei llwyfannu gan mai drama radio oedd hi'n wreiddiol ac ni allwn ddychmygu sut byddai'r actorion yn llwyddo i bortreadu'r cymeriadau yn effeithiol.
Ni allwn ddychmygu Ffion Dafis fel Siwan, na Rhys ap Hywel fel Gwilym Brewys ychwaith.
Yn gyntaf daeth Alis Lisa Jên) ar y llwyfan, yn dawnsio yn araf o gwmpas stôI ac yn dal cannwyll yng nghanol y llwyfan.
Set digon syml gyda drych mawr yn y cefndir a stôI yn y canol.
Yna, daeth Siwan (Ffion Dafis) i mewn a chredaf iddi bortreadu Siwan yn dda iawn o'r dechrau a llwyddodd y ddwy ohonynt i wneud yr olygfa gyntaf mor ddiddorol ag oeddent yn gallu.
Gwnaethant hefyd lwyddo i ddangos cyfeillgarwch Alis tuag at Siwan yn effeithiol a chlir iawn.
Cefais fy siomi ar yr ochr orau gyda pherfformiad Rhys ap Hywel fel Gwilym Bewys gan iddo actio ei ran yn dda iawn o ystyried fod y set mor syml a'i ran mor fach.
Ond eithaf siomedig oeddwn i gyda'r dienyddiad. Ni chawsom weld y digwyddiad o gwbwl dim ond clywed "Siwan" yn cael ei weiddi ar dâp.
Byddai wedi bod yn llawer gwell pe byddai'r olygfa yma wedi cael ei dangos er mwyn dod a mwy o uchafbwynt i'r ddrama.
Chwaraeodd Dyfan Roberts ran Llywelyn yn dda iawn, yn union sut yr oeddwn wedi ei ddychmygu - cymeriad cryf iawn.
Credaf mai yma roedd uchafbwynt y ddrama ac roedd y tri actor ar eu gorau gyda'i gilydd ar y llwyfan - er i Ffion Dafis orwneud wrth sgrechian, "Fy melltith arnat Llywelyn!"
Credaf mai'r act wannaf oedd act tri ac fe fyddai wedi bod yn well cael egwyl rhwng yr ail a'r drydedd act er mwyn paratoi'r gynulleidfa at hanner awr o ddiflastod. Roedd y person a oedd yn eistedd wrth fy ymyl yn cysgu!.
Ar y cyfan roedd y ddrama yn weddol.
Credaf i act un fod yn dda iawn, dau yn foddhaol ond y drydedd act y tu hwnt o ddiflas ac yn llusgo.
Credaf mai un peth fyddai'n gallu drysu y gynulleidfa ar y dechrau yw pam mai llun Alis oedd ar y rhaglen gyda'r gair Siwan yn fawr uwch ei phen. Delyth Evans 6(2)