| |
|
Linda - Gwraig Waldo O lawenydd i dristwch
Adolygiad Gwyn Griffiths o Linda - Gwraig Waldo. Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw. Theatr Crwys, Caerdydd. Mai 19, 2006.
Cefais y teimlad - a mynegodd un neu ddau arall deimladau cyffelyb - i mi fod yn dyst i rywbeth ysgytwol bwysig.
Drama yw Linda am berthynas a phriodas trychinebus o fer Waldo Williams - un o feirdd enwocaf a phwysicaf Cymru yr ugeinfed ganrif - a Linda Llewelyn.
Y cwmni oedd Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw, Ceredigion, a'r lle oedd Theatr Capel y Crwys, Caerdydd - unig ymweliad y cwmni â'r Gymru y tu hwnt i'r fro Gymraeg.
Hwn hefyd oedd perfformiad olaf y daith.
Amryw yn adnabod Yn rhan o batrwm taith a nodweddwyd gan berfformiadau mewn festrïoedd capel a neuaddau pentref dewisodd y cwmni ymweld â theatr fechan y Crwys yn hytrach nag un o theatrau arferol Caerdydd.
Yr oedd honno'n llawn i'r ymylon o bobl, amryw ohonynt yn adnabod Waldo - ac os nad hynny'n adnabod ei fro.
Ffigwr annelwig fu Linda. Gwraig anenwog i ŵr mor enwog. Eto, yr oedd eu perthynas, fel y cyfaddefodd Waldo mewn sgwrs gyda T. Llew Jones ym 1965, yn cynrychioli un o gyfnodau dyfnaf a dwysaf ei fywyd.
Dim ond dwy flynedd Cyfnod yn cychwyn gyda llawenydd mawr eu carwriaeth a'u priodas ond yn gorffen gyda'r cyfnod o dristwch affwysol a ddilynodd ei marwolaeth o ddarfodedigaeth wedi dim ond dwy flynedd o ddedwyddwch priodasol.
Dyna gwmpas drama ardderchog Euros Lewis, drama sy'n bwrw goleuni newydd ar farddoniaeth Waldo Williams a, greda i, ar ei gyfriniaeth.
Merch o'r Maerdy, Rhondda Fach, oedd Linda Llewelyn ac ar wyliau ym mro mebyd ei rhieni y cyfarfu â Waldo.
Mae yma asbri a llawenydd dau ifanc mewn cariad. Y cyfarfod wrth yr iet - "iet again", meddai Waldo! Y beicio egnïol drwy'r wlad.
Bwgan y rhyfel Ond mae rhyfel yn fwgan - fel cawr mawr du hunllefau ei blentyndod ym Mynachlog-ddu - a chysgod dros y cyfan.
Yr oedd Waldo'n wrthwynebydd cydwybodol ac yr oedd y boen a enynnai erchyllterau dyn at ddyn yn ei sigo i'w sodlau.
Cafodd ei erlid o'i swydd yn brifathro dros dro Cas-mael gan Awdurdod Addysg Sir Benfro, nid un o'r awdurdodau tebycaf o gydymdeimlo â heddychwr.
Hynny er ei fod yn 35 oed ac yn rhy hen i orfod mynd i'r rhyfel. Beth bynnag, cafodd swydd athro Saesneg yn Ysgol Botwnnog a pharhaodd gwynfyd ei fywyd a'i berthynas â Linda.
Yna daeth diwedd ar yr asbri a'r llawenydd. Canfuwyd bod Linda'n dioddef o'r ddarfodedigaeth. Trodd y ddawns o lawenydd yn dristwch truenus. Ni chafwyd y gyfrol farddoniaeth a fwriadodd i groesawu Linda o'r ysbyty. Aeth tair blynedd ar ddeg heibio cyn cyhoeddi Dail Pren sy'n arwydd o faint yr ergyd a gafodd pan fu farw'i wraig ifanc.
Clyfrwch tawel Mae i'r ddrama lawer iawn o glyfrwch disylw. Gwelwn gyfriniaeth Waldo ochr yn ochr â sylwadau gwerin gyffredin ei fro, weithiau'n cydymdeimlo'n annwyl garedig; ambell dro'n greulon.
Cawn gymhariaeth gyfrwys o stori Waldo a Linda gyda'r chwedl Roegaidd Orpheus ac Eurydice. Mae yma ddefnydd celfydd o ddawns a symud.
Rwy'n tybio mai Euros Lewis oedd cyfarwyddwr yn ogystal ac awdur y ddrama ac os hynny, haedda ddwywaith y clod.
Rhaid rhyfeddu sut y llwyddodd i dynnu'r holl ystyron cudd allan o gerddi Dail Pren. Tybiais iddo ddod o hyd i'r cerddi a sgrifennodd Waldo i Linda ond a gollwyd - neu a ddinistriwyd ganddo - wedi ei marw.
"Mae'r cyfan yn Dail Pren, dim ond darllen rhwng y llinellau," meddai Euros Lewis wrthyf.
Prif ysbrydoliaeth y ddrama, ychwanegodd, yw'r gerdd Cwmwl Haf, ac un gerdd arall, nas cyhoeddwyd, a sgrifennodd i Linda wedi ei marw.
Y Cwmni Gair yma am Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw, gan mai hwn oedd y tro cyntaf imi weld cynhyrchiad o'i waith.
Fe'i sefydlwyd y llynedd gyda'r bwriad o ail egnïo'r ddrama yn nghadarnleoedd y Gymraeg yn y gorllewin a'r canolbarth.
Y nod yw cyflwyno dramâu cyfoes a chlasurol mewn festrïoedd a neuaddau pentref.
Os yw'r ddrama a welais yn Theatr y Crwys ar Fai 19 yn llinyn mesur, edrychaf ymlaen at deithio'n ôl i'r gorllewin yn unswydd i weld cynyrchiadau'r cwmni - a hynny'n fuan.
Cysylltiadau Perthnasol
Bywyd a gwaith Waldo Williams
|
|
|
|