| |
|
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr Oriau olaf Hedd Wyn
A hithau'n 90 mlynedd ers marwolaeth Hedd Wyn mae drama newydd amdano yn cael ei llwyfannu gan Llwyfan Gogledd Cymru.
Drama sy'n codi cwestiynau dadleuol ynglÅ·n ag ennill y gadair enwocaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Yn wir, cred rhai, gan gynnwys y dramodydd, pe na bai wedi marw, na fuasai wedi ennill y gadair - mai cynllwyn gwleidyddol a'i wobrwyodd!" meddai llefarydd ar ran Llwyfan Gogledd Cymru.
Awdur Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr ydi'r prifardd Iwan Llwyd ac yn y ddrama mae'n olrhain oriau olaf Bardd y Gadair Ddu yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc.
Ac yn cymryd rhan yn y ddrama bydd Huw Garmon sydd eisoes wedi chwarae rhan Hedd Wyn, yn y ffilm amdano a enwebwyd am un o wobrwyon yr Oscars yn 1992.
Codi cwestiwn Bydd y ddrama newydd gan Iwan Llwyd, yn codi'r cwestiwn tybed a fyddai Hedd Wyn wedi ennill yr un enwogrwydd oni bai am amgylchiadau trist ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.
Mae'r ddrama'n holi hefyd a fyddai Hedd Wyn, petai wedi goroesi'r rhyfel a dychwelyd yn ôl i Gymru, wedi bod mor bwysig i ni fel cenedl ag ydyw.
Holir hefyd beth oedd dylanwad comiwnyddiaeth ar Hedd Wyn.
Disgrifir y ddrama fel un am orthrwm ac effaith rhyfel ar gelfyddyd a chymdeithas; un gref a hynod amserol yn y byd rhyfelgar sydd ohoni.
"Mae Cymru yn hoff o greu mythau cysurus ar gyfer ei hunain. Tybiaf fod y mythau weithiau yn cymylu gwironeddau anghysurus. Mae'r cwmni yn falch i lwyfannu ymdrech gan y dramodydd i dreiddio at galon y gwir," meddai.
Y cyfarwyddwr yw Ian Rowlands a chymerir rhan gan Huw Garmon, Huw Llyr a Rhian Blythe.
Y daith Bydd y daith yn cychwyn yn Theatr Gwynedd, Bangor, Mawrth 2 a 3 gan ymweld wedyn â: Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Mawrth 6 Theatr Ardudwy, Harlech, Mawrth 8 Theatr Elli, Llanelli Mawrth 10 Canolfan Hamdden, Llanfair Caereinion Mawrth 12 Galeri, Caernarfon, Mawrth 15. Clwyd Theatr Cymru, Mawrth 16. Neuadd Gyhoeddus, Llanrwst, Mawrth 17. Chapter, Caerdydd, Mawrth 19 - 20. Neuadd y Pentref, Trawsfynydd, Mawrth 22.
Cysylltiadau Perthnasol
Sylwadau Vaughan Hughes
|
Ste Rule Wrecsam Ardderchog - Mwynheues i'r ddrama yn fawr iawn. neis i weld huw, huw a rhian ar ol y sioe hefyd :)
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|