91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwenno Elis Hodgkins a Maldwyn John. (Lluniau: Gerallt Llewelyn)Camp a Rhemp -
Chwerthin o'r cychwyn
  • Adolygiad Rhodri Ll. Evans o Camp a Rhemp gan Tony Llewelyn. Bara Caws. Llangefni. Nos Iau, Ebrill 6, 2006.


  • Dwi'n eistedd yn rhes gefn neuadd Ysgol Gyfun Llangefni ac yn difaru gwneud hynny, gan fy mod i'n gorfod codi fy mhen dros y môr o bennau er mwyn gweld y llwyfan.
    Mae'r lle'n llawn dop - o bobl ifanc a hÅ·n.

    Mae 'na bum stôl wag ar y llwyfan ac am eiliad, dwi'n gorfod atgoffa fy hun nad mewn consart An Evening with The Osmonds ydw i, ond yn disgwyl yn eiddgar i weld perfformiad diweddara Theatr Bara Caws - comedi Tony Llewelyn, Camp a Rhemp.

    Chwerthin o'r cychwyn
    Mae'r golau'n cilio ac rydym yn cael ein plymio i dywyllwch dudew ond wedi ychydig eiliadau o ansicrwydd, mae'r llwyfan yn goleuo i ddangos pum cymeriad yn eistedd ar y stoliau - a naci, nid yr Osmonds sydd yno. A dyma ddechrau ar y perfformiad.
    Ac ar y chwerthin.

    Mae Liz (Nia Williams) yn gweithio yn lanhawraig yn nhŷ Carol (Gwenno Elis Hodgkins) a Gwyn (Maldwyn John) ac mae Hiwi (Eilir Jones), ei gŵr, yn llnau ffenestri.
    Er yn amlwg dlotach na'u cyflogwyr, mae Lis a Hiwi'n ddedwydd eu byd ac mae pob eiliad yng nghwmni ei gilydd yn gyfoeth o fwrlwm llon.

    Nid felly gyda Carol a Gwyn. Mae oerfel llethol yn cydfyw â hwy a bellach, trip campio yn Ffrainc yn 1979 yw eu hatgof olaf o hapusrwydd.

    Mae eu mab yn caru gyda'i gariad (yn Ffrainc) tra bo Carol yn eistedd yn ei gwely'n disgwyl galwad ffôn ganddo. Mae Gwyn yn cysgu yn stafell y mab - stafell efo 'singyl bed 'di gyfro fo sdicyrs Man U, yn sbïo ar bapur wal Action Man...'. A hynny ar noson eu pen-blwydd priodas.

    Yng ngeiriau Gwyn, mae 'na 'rwbath yn blydi rong!'.

    Trefnu gwyliau
    Yn y cyfamser, mae Hiwi wedi trefnu gwyliau campio i Liz a fynta' ac mae gweld y ddau'n mwynhau eu hunain ac yn byw bywyd i'r eithaf yn peri i Carol ddyheu am rywbeth tebyg.

    Trannoeth, mae hi'n cyrraedd gwersyll campio. Mae Gwyn wedi trefnu'r cyfan ac mae'n benderfynol fod Carol am fwynhau'r 'gwyliau'.

    Wyn Bowen Harries a Nia WilliamsI'r perwyl hwn, mae'n gofyn am help Keith (Wyn Bowen Harries), gofalwr y safle, ac o'r eiliad gyntaf honno, mae'r cynllun perffaith, neu'r 'plan' chwedl Gwyn, yn dechrau dadfeilio'n racs a'r 'camddeall' yn dechrau...

    O ia, does dim eisiau dyfalu'n ddwys pwy sydd yn y babell nesa ...

    O'r cychwyn cyntaf, mae'r gynulleidfa'n glanha chwerthin ac mae'r ffaith fod y cymeriadau'n ymwybodol o'r gynulleidfa yn ychwanegu at y doniolwch.

    Mae'r sgript lafar yn gwneud defnydd helaeth o chwarae ar eiriau ac yr ensyniadau (innuendos) a'r 'camddeall' yw cryfderau mwyaf y ddrama - maent yn hollbresennol heb fod yn fwrn nac yn ormod ond yn gweddu'n naturiol i sefyllfaoedd y cymeriadau.

    Ac maent yn atgoffa rhywun o'r ffilmiau Carry On... heb y noethni (sori, gyfeillion).

    Hoffais yn fawr y gerddoriaeth ar ddiwedd y golygfeydd - techneg seml ond effeithiol i osod y sylfaen ar gyfer yr olygfa nesaf.

    Peidio â chwerthin
    Er mai comedi ydi hon, mae rhai darnau ohoni'n sy'n peri i'r gynulleidfa beidio â'u chwerthin...a gwrando.

    Wedi'r cyfan, mae'n anodd peidio a sôn am ddadfeiliad priodas heb fod yn ddifrifol a dwys, dydi? Mae'r 'sobri' hwn yn fodd effeithiol o dorri ar y doniolwch - dim ond am ennyd - cyn dychwelyd yn ôl i'r sgript ffraeth.

    Dwi'n edrych yn fy llyfr nodiadau a gweld graff (ia, graff) blêr ar y dudalen o'm blaen.
    Ar echelin x, mae 'Jôcs budr' ac ar echelin y, mae 'Amser'.
    Mae llinell y graff yn gyson. Hynny yw, cyn i chi orfod tyrchu'n yr atig am eich llyfrau Lefel O Gwyddoniaeth, yr hyn dwi'n ei olygu ydi bod y jôcs yn mynd yn futrach fel yr â'r sioe yn ei blaen.

    Ond hoffwn danlinellu hyn - nid sioe 'fudur' yn steil y sioe glybiau ydi'r ddrama yma. Helynt yn y campMae yma stori ddoniol a rhan annatod o'r stori yw'r innuendo. Mae'n rhaid i mi gyfadda' ei bod yn braf gweld PAWB yn chwerthin - o'r bobl ifanc yn y gynulleidfa, i'r rhai hŷn - a hynny ar jôcs 'modern' hefyd.
    Yn wir, sut allent beidio?

    Drama wirioneddol ddoniol, hollol haeddiannol o neuadd lawn gyda'r actio'n wych a'r sgript yn dwyllodrus o grefftus.

    Os am noson o hwyl a chwerthin, yna cerwch i weld Camp a Rhemp. Chewch chi ddim eich siomi.

    A dyma fi - yn eistedd yn y rhes gefn ac yn ceisio'r crynhoi'r ddrama mewn un gair...yn meddwl a chraffu...ac yna...eureka!...Campus!

    Y daith
    Dyma fanylion y daith gyda phob perfformiad yn cychwyn am 7.30 ar wahân i berfformiad wyth o'r gloch yn Neuadd Llanofer, Caerdydd.
  • Nos Fawrth 4 Ebrill, Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Doc.: 01758 704088
  • Nos Ferch. 5 Ebrill, Neuadd Dwyfor
  • Nos Iau 6 Ebrill, Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni Gareth: 01248 421660 neu 07766241786
  • Nos Wener 7 Ebrill, Neuadd Goffa Amlwch Ian 07919205217 neu Corwas 01407 830277
  • Nos Sad. 8 Ebrill Theatr Twm o'r Nant, Dinbych Siop Clwyd (01745) 813431 neu 01745 812349
  • Nos Fawrth 11 Ebrill, Canolfan Bro Aled, Llansannan Rhiannon: 01745 870244
  • Nos Ferch. 12 Ebrill, Theatr Gwynedd, Bangor Swyddfa Doc: 01248 351708
  • Nos Iau 13 Ebrill, Theatr Gwynedd, Bangor Swyddfa Doc: 01248 351708
  • Nos Fawrth l8 Ebrill, Neuadd Buddug, Y Bala Siop Awen Meirion (01678) 520658
  • Nos Ferch. 19 Ebrill, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes Owain: 01286 880518 neu 07768668016
  • Nos Iau 20 Ebrill, Theatr John Ambrose, Rhuthun Ffion Clwyd: 07702048184
  • Nos Wener 21 Ebrill, Canolfan Gymuned Llanrwst Menter Iaith Conwy (01492) 642357 neu siop Bys a Bawd, Llanrwst
  • Nos Sad. 22 Ebrill, Neuadd y Banw, Llangadfan Carol Morgan 01938 820212
  • Nos Fawrth 25 Ebrill, Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Linda Brown: 01286 676335
  • Nos Ferch. 26 Ebrill, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Gwen Edwards: 01766 830435
  • Nos Iau 27 Ebrill, Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron Swyddfa Doc: 01570 470697
  • Nos Wener 28 Ebrill, Neuadd Llanofer, Caerdydd Swyddfa Doc: 02920 304400
  • Nos Sad. 29 Ebrill, Neuadd Llanofer, Caerdydd Swyddfa Doc: 02920 304400

  • Cysylltiadau Perthnasol



    cyfannwch

    Gwen ac Angharad
    Drama a pherfformiad grêt! Pawb yn mwynhau, ac yn cael ei diddanu yn ddi-baid, gyda sgript ddoniol ac actorion ddoniolach fyth!!!! Noson o hwyl ynddi hun, gwerth mynd i weld 'CAMPWAITH' ar lwyfan byw, edrych ymlaen i weld y sioe nesaf!



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý