| |
|
O'r Neilltu Golwg dywyll arall
Adolygiad Siwan Haf o O'r Neilltu gan Gwmni Theatr 3D
Wedi gweld Cabaret Whales yn cael ei pherfformio yn yr un theatr (neu stiwdio) yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd wythnos ynghynt, ni ellir fod wedi cael gwrthgyferbyniad mwy - o ran arddull, cynulleidfa a goleuo.
Fel rhan o Å´yl Ddrama Angerdd sydd wedi cael ei chynnal yng Nghaerdydd dros yr wythnosau diwethaf, perfformiwyd trydydd prosiect gan gwmni dair graddediges o Brifysgol Aberystwyth - cwmni Theatr 3D: O'r Neilltu.
Dyma eu hail gynhyrchiad gwreiddiol gyda rhai aelodau newydd yn eu cast o gymharu â'r ddwy flaenorol.
Stori Dyma ddrama sy'n archwilio perthynas deuluol trwy gyfrwng meddwl gwib a gwallgof y fam, pan fo teulu yn ymgasglu ar achlysur 'dathlu' marwolaeth eu mam-gu.
Trafodir pynciau tabŵ yn y ddrama hon, a hynny'n effeithiol iawn: - llosgach rhwng brawd a chwaer (a'r fam yn amlwg wedi cau ei llygaid i hyn dros y blynyddoedd gan na allai weld drwg yn Dewi),
- salwch meddwl y fam (roedd y dewis o wneud iddi fwyta rice krispies gan yfed dŵr yn ffordd wahanol a gwreiddiol o ddangos gorffwylledd y fam, rhaid dweud!),
- cam-drin meddyliol, ffraeo rhwng teulu
Croeso i fyd teulu 'arferol' dosbarth canol Cymreig felly!
Actio Roedd perfformiad pawb yn ganmoladwy iawn - Nia Wyn Jones fel y fam, Trystan ab Ifan yn bwerus iawn fel y mab hynaf, Dewi; Hannah Wyn Jones yn actio rhan y ferch hynaf Kate, Catrin Wyn Jones fel Miriam a Beca Lewis Jones yn ymddangos am y tro cyntaf gyda'r cwmni yn actio rhan y ferch ieuangaf Elin yn naturiol iawn.
Roedd yr actio pan oeddent yn blant yn rhagorol, yn enwedig felly yr olygfa rhwng Miriam a Dewi.
Goleuo Gall y goleuo fod wedi pylu mwy ar yr ochrau o bosib gan ei fod yn amharu ychydig o weld yr actorion eraill yn eistedd ar yr ymylon yn ystod monolog y fam,ond, wrth gwrs, gellir dadlau fod hyn yn rhan glyfar o'r cyfarwyddo - gan neb llai na 'Gaz' o Rownd a Rownd! - sef bod aelodau'r teulu ar 'ymylon' meddwl bregus eu mam.
Roedd y sioe sleid ar y cychwyn yn ffordd effeithiol ac emosiynol o 'ch denu i mewn i'r stori.
Ddim yn eglur Ar ddiwedd y ddrama, rhaid imi gyfaddef nad oedd hi'n eglur i mi pwy oedd y cymeriad a ddaeth i weld y fam.
Os mai'r ferch ieuengaf oedd hi, yna pam ei bod mor ddi-emosiwn?
Os gwarchodwraig gymdeithasol, pam roedd hi wedi gwisgo union fel y ferch ieuangaf?
Mae'n dda gallu trafod a chodi cwestiynau ar ddiwedd drama, ond nid os yw'n eich gadael yn anniddig ac eisiau gwybod mwy!
Wedi gorffen? Wedi tri chwarter awr, doedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa fechan ddim yn siŵr os oedd y ddrama wreiddiol hon wedi gorffen ai peidio: arwydd da os oedd rhai am weld mwy, arwydd drwg i'r rhai oedd eisiau cael mwy am eu £6!
Roedd y sgwennu yn dda iawn, er yn rhagweladwy ar brydiau.
Rydym ni fel Cymry yn sobr am weld yr ochr dywyll i bethau - y prif reswm o bosib, am ei bod yn haws gan lenorion Cymru sgwennu trasiedi na chomedi? (ond mae hon yn drafodaeth arall!).
Rhaid dweud, er i mi fwynhau'r ddrama fer hon, dwi yn edrych ymlaen at weld drama Gymraeg hapus.
Bydd yn ddifyr os mai felly y bydd prosiect nesa cwmni Theatr 3D.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|