| |
|
Cysgod y Cryman - barn arall 'Heb fod yn deilwng o ogoniant y nofel'
Crynodeb o sylwadau Paul Griffiths Fel cynhyrchiad sy'n cael ei lesteirio gan set "erchyll" y disgrifiwyd cyflwyniad Theatr Genedlaethol Cymru o Cysgod y Cryman gan sylwebydd theatr Y Cymro yn cael ei holi ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen
Dywedodd Paul Griffiths fod addasiad Sion Eirian yn llwyddo "ac yn darllen yn llyfn" ond na chafodd ei blesio gan fawr ddim o'r addasiad hwnnw fel y'i gwelwyd ar lwyfan.
"Mae'n anodd achos rydych chi eisiau cyfleu moethusrwydd Lleifior ym Mhowys ac wedyn bywyd myfyriwr ym Mangor - ac mae'n anodd cyfleu hynny i gyd - ac yn fy marn i wnaeth y cynhyrchiad yma ddim llwyddo," meddai wrth Gwilym Owen.
Prif gymeriad "Disgrifiodd y set fel un "erchyll sydd yn cymryd y cynhyrchiad drosodd yn llwyr."
Y set, meddai, yw prif gymeriad y ddrama.
"Byddai llwyfan moel wedi bod yn llawer mwy effeithiol," ychwanegodd gan ddweud iddo ef weld addasiadau llawer gwell ar lwyfan cwbl wâg o nofelau mawr fel The Grapes of Wrath.
Eglurodd i set Cysgod y Cryman olygu fod yr actorion yn aml wedi eu gwasgu gymaint ar y llwyfan eu bod yn cael anhawster symud:
"A dyna'r diffyg; doedd yna ddim symud. Roedd hi'n llonydd iawn, yn stiff. Roedd yna ddialogau a dim symud o gwbl rhwng dau gariad yn siarad. Roedd hi'n ara deg, yn stiff ac yn ddiamcan," meddai.
"Collwyd cyfle mawr i greu rhywbeth gwirioneddol theatrig."
Milwr plwm Chafodd o mo'i blesio ychwaith gan y dehongliad o rai o'r cymeriadau gan ddisgrifio Harri Vaughan - sydd i fod yn arwr carismataidd - fel cymeriad tebycach i "filwr plwm" nad oedd yn dod yn fyw ar y llwyfan.
Yr oedd Edward Vaughan, wedyn, yn debycach i was fferm nag i benteulu fferm fel Lleifior.
"Gwylan wedyn, sydd yn hudo Harri i aberthu Lleifior, yn fwy fel caneri," meddai.
"Roedd pob dim yn anghywir - roedd y castio yn anghywir," meddai.
Ond yr oedd ganddo air o gymeradwyaeth i Fflur Medi Owen fel Greta ac i Christine Pritchard, Owain Garmon a Iola Hughes.
Colli cyfle Yr oedd yn feirniadol hefyd fod gormod o ôl Ysgol Glanaethwy ar Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn gyffredinol.
"Mae yna deimlad mai Theatr Genedlaethol Glanaethwy ydym ni'n gael mewn sawl cynhyrchiad," meddai.
"Iawn mae Glanaethwy wedi creu darnau theatrig hynod lwyddiannus ond dydw i ddim yn meddwl mai'r cynhyrchion yma sy'n mynd i roi inni ein theatr genedlaethol. Mae'n rhaid agor y drws," meddai.
"Yr oedd hwn yn gyfle i Cefin Roberts roi ei weledigaeth arbennig ef ei hun o Cysgod y Cryman. Yr oedd yn gynfas eang ac fe fyddem wedi gallu cael addasiad llawer iawn mwy theatrig a phwerus," meddai.
Wrth grynhoi ei sylwadau dywedodd mai cynhyrchiad "saff" oedd hwn, y byddai'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa hÅ·n yn ei fwynhau.
"Ond y nofel fyddan nhw yn ei mwynhau -dydi'r cynhyrchiad yma ddim yn deilwng o ogoniant y nofel a gellid fod wedi cael rhywbeth llawer mwy pwerus," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Eifion Lloyd Jones
Addasu'r nofel - sgwrs gyda Sion Eirian
|
Jane, Casnewydd Mae'n drueni bod angen i adolygydd fod mor gas a defnyddio geiriau eithafol fel "erchyll" wrth roi ei farn. Rwy'n siwr y gellid bod wedi bod yn fwy adeiladol.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|