| |
|
Marat - Sade Perfformio mewn carchar
Bydd criw o fyfyrwyr Cymraeg yn mynd i garchar ar gyfer perfformio drama.
Ac os yw'r lleoliad yn anarferol mae'r ddrama ei hun hefyd yn un o'r rhai mwyaf anghyffredin a sgrifennwyd erioed.
Bydd yr actorion yn chwarae rhan preswylwyr gwallgofdy yn perfformio drama dan arweiniad un o gymeriadau mwyaf dadleuol Ffrainc, y Marquis de Sade.
Er mwyn cael awyrgylch mor debyg a phosibl i un gwallgofdy Ffrengig yn 1808 bydd myfyrwyr Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor yn perfformio Erlyniad A Llofruddiaeth Jean Paul Marat, Wedi'i Pherfformio Gan Gleifion Ysbyty Meddwl Charenton Dan Gyfarwyddyd y Marquis De Sade yn hen garchar Biwmares.
Theatr creulondeb Addaswyd drama chwyldroadol Peter Weiss - y cyfeirir ati fel Marat-Sade - i'r Gymraeg gan Nic Ros, pennaeth Adran Gyfathrebu y coleg.
"Mae'n siŵr fod hon yr enghraifft enwocaf o'r hyn sy'n cael ei alw yn theatr creulondeb - mae hi'n eithafol ac yn emosiynol iawn. Yn gwasgu ar y synhwyrau," meddai.
Yr hyn sy'n ei gwneud Marat-Sade yn ddrama gwir gyfareddol yw'r ffaith mai drama o fewn drama yw hi a'r gynulleidfa heddiw yn cynrychioli cynulleidfa o bwysigion a wahoddwyd i wallgofdy Charenton i weld cynhyrchiad de Sade.
Dyna pam y bydd awyrgylch drawiadol hen garchar Biwmares yn haen mor bwysig o gynhyrchiad Nic Ros a pherfformiad y myfyrwyr.
"Mae rhai o'r myfyrwyr eu hunain wedi teimlo'n ofnus ac yn annifyr wrth ymarfer yno," meddai Nic Ros.
Crwydro'r carchar Ac er bod y rhan fwyaf o'r cyflwyniad wedi ei ganoli yng nghapel y carchar bydd yr actorion a'r gynulleidfa yn crwydro'r carchar hefyd yn efelychu cynulleidfa de Sade dan arweiniad Monsieur Coulmier, pennaeth y gwallgofdy.
"Oherwydd hyn rhaid cyfyngu ar nifer y gynulleidfa - dim ond rhyw 40 - ond bydd hynny hefyd yn ychwanegu at yr awyrgylch a'r effaith," meddai Nic Ros.
Gwnaeth drama Peter Weiss argraff ar hyd a lled Ewrop lle'i disgrifiwyd fel un o orchestion mwyaf arloesol theatr yr ugeinfed ganrif nid yn unig oherwydd yr amryfal haenau sydd i'r cynhyrchiad ond oherwydd y syniadau a wyntyllir.
Er wedi ei lleoli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae'r ymdriniaeth o syniadau yn ymwneud a natur chwyldro a chyflyrau meddwl a gwallgofrwydd yn gwbl berthnasol hyd yn oed heddiw.
Ffeithiau hanesyddol Mae ffeithiau hanesyddol gywir wrth wraidd Marat-Sade: Bu de Sade yn un o breswylwyr gwallgofdy Charenton wedi ei gaethiwo am beryglu moesau'r bobl.
Ac yr oedd yn sgrifennu a chynhyrchu dramâu yn ystod ei arhosiad yno a'r preswylwyr eraill yn actio ynddyn nhw.
Y mae testun y ddrama a gynhyrchir gan de Sade o fewn drama Peter Weiss yn berson hanesyddol hefyd. Yn un o arweinwyr y chwyldro Ffrengig lladdwyd Jean-Paul Marat yn ei fath yn 1793 gan leian o'r enw Charlotte Corday oherwydd ei bod yn ofni ei ddylanwad ar y bobl.
Ym Marat-Sade mae de Sade yn cyflwyno ei ddrama gerbron cynulleidfa ddethol sy'n cynnwys pennaeth Charenton, Monsieur Coulmier, a'i wraig a'i ferch sydd heb sylweddoli pa mor ddychanol gignoeth a chwyldroadol yw cynhyrchiad de Sade.
Mae'r cyfan yn magu arwyddocâd ychwanegol o gofio mai gwallgofiaid yn cynnwys rhai yn dioddef o baranoia a sgitsoffrenia yw 'actorion' de Sade.
Merched yn unig At hyn oll mae Nic Ros wedi cyflwyno haen newydd arall yn ei addasiad Cymraeg ef.
"Yr ydw i wedi gosod cynhyrchiad de Sade yn asgell y merched yn y gwallgofdy felly, merch, fydd yn chwarae rhan Marat," meddai.
"Yn unig ddynion sy'n ymddangos yn y ddrama ei hun felly yw gweithwyr yr ysbyty.
"Mae'r cyfan yn creu sefyllfa fregus a chwyldroadol iawn gan fod gan de Sade agenda wrth gyflwyno'i berfformiad ond Coulmier yn synhwyro y byddai'r marched yn haws eu trin.
"Mae'n bosib y rhagwelir diweddglo chwyldroadol i'r cynhyrchiad gan de Sade, ond beth yn union fydd canlyniad corddi dyfroedd dwfn y cleifion?" ychwanegodd.
- Perfformir y cynhyrchiad Cymraeg o Marat - Sade am dair noson Ebrill 27-29 yng Ngharchar Biwmaris ond gyda chyfyngiad ar nifer y gynulleidfa dylid cysylltu rhag blaen ag Amgueddfeydd ac Orielau Môn i sicrhau tocynnau.
01248 724444/810921
i weld y lluniau.
|
|
|
|