|
Branwen Cwlwm Celtaidd - cwlwm brau
Adolygiad Alwyn Gruffydd o Branwen. Llwyfan Gogledd Cymru. Theatr Gwynedd, Bangor.
BRANWEN
Ar hyd yr oesoedd ni fu'r berthynas rhwng y Gwyddyl a'r Cymry yn un y gellid ei galw'n un gyfforddus.
Wedi'r cwbl onid er mwyn ein hamddiffyn ni rhag ymosodiadau o'r gorllewin y teithiodd Cunedda a'i Feibion yma o'r Hen Ogledd?
Onid gelyniaeth bur o du'r Cymry Anghydffurfiol a wynebai Blant Mair, fel y'u gelwid, ddihangodd i Gymoedd y De rhag angau Newyn Mawr eu gwlad eu hunain?
Ac onid y Gymraeg a siaradai rhai o'r milwyr mewn lifrai'r 'Brits' a gerddai strydoedd y Falls, y Divis a'r Ardoyne am dri degawd a mwy?
Cariad yn blodeuo Wrth gwrs cafwyd eithriadau wrth i gyfeillgarwch, a chariad weithiau, flodeuo rhwng unigolion o'r ddwy ochr i'r Môr Celtaidd.
Dysgodd rai ohonom ni'r Wyddeleg fel y dysgodd nifer o Wyddelod y Gymraeg ond at ei gilydd edrych o bell a hynny gydag amheuaeth gynhenid fu hanes y Cymro a'r Gwyddel erioed ac nid oes gwell stori i gyfleu'r amheuaeth honno wy nac ail gainc y Mabinogi.
Fel y gŵyr y cyfarwydd mae Branwen Ferch Llŷr yn stori o frad, mae'n stori o chwerwder, mae'n stori eithriadol o drist a diobaith hefyd yn y bôn. Ond oes ganddi neges i'n dyddiau ni?
Go brin. Er, ar ôl dweud hynny, fe ellid ei defnyddio fel sail i alegori fodern gan edrych eto, gyda thafod yn y boch, ar ein perthynas gyda'n cefndryd Celtaidd.
Ar y cyd A dyna i raddau geir yng nghynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru neu'n hytrach y cynhyrchiad ar y cyd diweddaraf rhwng y cwmni o Gymru a Chanolfan Gelfyddydau Project yn Nulyn.
Cofiwch i'r ddau gydweithio'r llynedd hefyd gyda Fron-goch.
Ysgrifennwyd 'Branwen' ar y cyd gan y Cymro, Ifor ap Glyn, a'r Gwyddel, Darach Ó ScolaÃ, a chyfarwyddwyd y ddrama ar y cyd rhwng Ian Rowlands, y Cymro, a Darach Mac Con Iomaire, y Gwyddel.
Cyd-gynhyrchiad o'r iawn ryw felly. Ond yr eironi yw mai cyd-gynyrchiadau o'r byd teledu yw cocyn hitio mwyaf Branwen - ar yr wyneb beth bynnag.
At ei gilydd Ynddi cawn Mari, Cymraes nodweddiadol stormus, emosiynol ac ansicr o Gaerdydd (Ffion Dafis) a Séan, Gwyddel nodweddiadol hunangyfiawn, parablus ac alcoholaidd o Gonamara (Stephen Darcy) yn cael eu taflu at ei gilydd mewn bwthyn y Swydd Wiclo, i lunio sgript deledu ar gyfer ffilm Gymraeg, Wyddeleg a Saesneg (ar gyfer y farchnad ryngwladol!) wedi'i selio ar chwedl Branwen Ferch Llŷr.
Ond yn ddiarwybod i bawb arall roedd y ddau'n fwy nac adnabod ei gilydd o'u dyddiau'n fyfyrwyr yn Aberystwyth bymtheng mlynedd yn ôl - perthynas a ddaeth i ben yn sur a dweud y lleiaf.
Megis y Franwen chwedlonol collwyd plentyn, fe'i bradychwyd ac nid oedd amser wedi lleddfu mymryn ar y boen.
Clodwiw Ar noson gyntaf taith Branwen yng Nghymru (bu taith yn Iwerddon yn barod) yn Theatr Gwynedd, Bangor, cafwyd perfformiadau clodwiw gan Ffion Dafis a Stephen Darcy.
Yn yr un modd Dafydd Dafis fel y cynhyrchydd teledu cartwnaidd bron ei ymarweddiad, a BrÃdÃn Nic Dhonncha fel gwraig gwynfanus a thrallodus Séan - y ddau gymeriad naill ai'n ceisio dechrau teulu neu'n ceisio cynnal un.
Syrthio i bydew Yn anffodus - ac yn siomedig braidd - nid yw'r sgript yn deilwng ohonynt ac yn hynny o beth collwyd cyfle.
Werth i bopeth o driniaethau IVF i agwedd y 'Gardai' tuag at yfed a gyrru erbyn hyn gael eu trafod syrthiodd y cwbl i bydew melodramatig wrth i Mari ei chloi ei hun yn y lle chwech a wrth i Séan ddioddef pigiadau o euogrwydd am yr hyn a wnaed ac am yr hyn a wneir ganddo.
Ni wnaeth barn Séan y dylid manteisio ar y cyfle i edrych ar chwedl Branwen drwy lygaid Matholwch (brenin Iwerddon) unrhyw les ac roedd ei awgrym y dylid cyflwyno'r cymeriadau ar ffurf ddychanol y Manga Siapaneaidd yn 'dop-hat' ar y cwbl!
Taflodd y sgript ei gysgod dros y llwyfannu hefyd. Mae'n rhaid wrth y deunydd crai os yw'r cynhyrchiad i daro deuddeg ac mi daerwn weithiau bod blas y Manga wedi treiddio o'r sgript i'r cynhyrchiad ei hun.
Efallai bod hyn y fwriadol ond os felly yna roedd o'n fwriad cynnil dros ben.
Aml gyfryngol Gwnaed defnydd helaeth o'r dulliau aml-gyfryngol diweddaraf yn Branwen i gyfleu lleoliad, awyrgylch ac ambell gyffelybiaeth.
Bu'r rhan fwyaf o'r dulliau yma'n effeithiol tu hwnt ond yr oedd yna achosion lawn mor aneffeithiol hefyd yn enwedig yr olygfa yn y car.
Fel Fron-goch drama dairieithog yw Branwen gyda'r Cymry a'r Gwyddelod yn siarad y lingua franca tra bo'r Wyddeleg a'r Gymraeg yn cael eu dangos mewn Saesneg ar sgriniau ar y llwyfan.
Ond o mae'n rhaid bod yn ochelgar. Nid yw lamb's prick yn swnio'r un fath rhywsut!
Cafwyd enghreifftiau tebyg yn y Wyddeleg hefyd ond gellid fod wedi gallu osgoi'r 'embaras', chwedl Ifas y Tryc, pe bae'r Wyddeleg wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg a'r Gymraeg i'r Wyddeleg. Ond, er mwyn ein cyfeillion uniaith debyg...
Cwlwm Celtaidd Daw'r Branwen i ben gyda datganiad o ffydd bod yna'r fath beth â Chwlwm Celtaidd ac yn cael ei ymgorffori, mae'n debyg, mewn cyd gynyrchiadau llwyfan neu deledu.
Efallai i hynny fod yn wir yn achos Fron-goch oherwydd yr arwyddocâd amlwg a ffeithiol iddi i Gymru ac Iwerddon - ond nid felly Branwen.
Wedi'r cwbl, nid yw'r enw na'r chwedl amdani'n golygu dim i Wyddel.
Y Daith: Tachwedd 8-9, 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor
Tachwedd 14-15 - Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Tachwedd 18 - Theatr Elli, Llanelli
Tachwedd 22 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Tachwedd 24 - Theatr Ardudwy, Harlech
Darlith a Symposiwm
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Glyn Jones
Fron-goch - adolygiad
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|