|
Porth y Byddar Cynhyrchiad ar y cyd i gofio boddi Tryweryn
Digwyddiad sydd yn gydradd a llosgi Penyberth yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig yw testun cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer haf 2007.
Bydd Porth y Byddar gan Manon Eames yn olrhain y penderfyniad, union hanner can mlynedd yn ôl, i foddi Cwm Tryweryn a phentref Capel Celyn ger Y Bala yng Ngwynedd i greu cronfa ddŵr ar gyfer dinas Lerpwl.
"Daeth y Mesur Seneddol oedd ei angen i greu cronfa ddŵr i rym ar Awst 1, 1957, er i bob aelod seneddol Cymreig, namyn un, wrthwynebu'r ddeddf," meddai'r dramodwraig, Manon Eames.
"Ond cymerwyd wyth mlynedd arall cyn i'r gwaith o godi'r argae ddod i ben a'r boddi ddechrau," ychwanegodd.
Boddwyd 12 o gartrefi a ffermydd yn ogystal ag ysgol, llythyrdy, capel a mynwent wrth greu'r llyn 800 erw.
Collodd 48 o'r 67 o drigolion eu cartrefi a'u bywoliaeth - pob un ohonyn nhw a'r Gymraeg yn famiaith iddynt.
Yr oedd yn garreg filltir wleidyddol o bwys yn hanes Cymru ac mae graffiti "Cofia Tryweryn" i'w weld o hyd.
"Yn ôl Henry Brooke, y Gweinidog Materion Cymreig ar y pryd, boddi Capel Celyn oedd y dull amlycaf a rhataf o sicrhau cyflenwad dŵr i Lerpwl," meddai cyfarwyddwr Porth y Byddar, Tom Baker.
"Ond cododd y penderfyniad storm sy'n adleisio hyd heddiw ac a arweiniodd at begynnu barn, carcharu a berw cenedlaethol," ychwanegodd.
Cyd gynhyrchiad gyda Clwyd Theatr Cymru fydd Porth y Byddar - yr enw wedi ei gymryd o'r hen ddihareb, "Hir yr erys y mud wrth borth y byddar".
Bu cyfarfod ger y Capel Coffa ar lan Llyn Celyn i nodi'r cyd gynhyrchiad ddydd Mawrth, Mehefin 26, 2007 gyda chynrychiolwyr y ddau gwmni'n bresennol. Cliciwch
Llwyfennir Porth y Byddar yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, Awst 7-10, 2007.
Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o'r gloch gyda pherfformiad ychwanegol, gydag isdeitlau Saesneg, brynhawn Sadwrn, Awst 11, 2007 am 2.30.
Bydd gwasanaeth bws rheolaidd, sy'n rhad ac am ddim, o Faes yr Eisteddfod i'r theatr.
Bydd y ddrama yn mynd ar daith drwy Gymru fis Hydref gydag un perfformiad yn Llundain hefyd.
"Mae'n fraint fawr bod yn rhan o gynhyrchiad sydd wedi'i seilio ar gyfnod mor gyffrous yn ein hanes diweddar," meddai Rheolwr Marchnata, Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
"Mae'n stori cymuned a gollwyd ond gellir dadlau i hynny hefyd esgor ar hunan ymreolaeth a'r sefydliadau gwleidyddol Cymreig sydd gennym heddiw," ychwanegodd.
Cysylltiadau Perthnasol
Pobl Tryweryn
Cofio protestio
Boddi Tryweryn
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|