| |
|
Digon o'r Sioe Gwledd gymysg Glanaethwy
Adolygiad Catrin Jones o Digon o'r Sioe, gan Ysgol Glanaethwy. Theatr Gwynedd. Ebrill 1, 2006.
Pan glywais fod Ysgol Glanaethwy am greu perfformiad a fyddai'n rhoi blas o gynyrchiadau'r gorffennol roeddwn yn edrych ymlaen at wledd o ganeuon theatrig.
Bu'r ysgol yn llwyfannu sawl cynhyrchiad llwyddiannus dros y blynyddoedd ac ar ôl denu cynulleidfaoedd i Theatr Gwynedd dros y pymtheng mlynedd diwethaf roedd hi'n addas iawn edrych yn ôl eleni.
Gan fy mod wedi gweld nifer o sioeau'r gorffennol ac yn hoff iawn o ganeuon y sioeau cerdd edrychwn ymlaen at glywed rhai o'r hen ffefrynnau. A chyda'r deunydd hysbysebu yn addo "cyfle i ail-fyw rhai o uchafbwyntiau'r blynyddoedd a fu, ail brofi rhai o glasuron sioeau cerdd y West End a hefyd blasu rhywfaint o waith diweddara'r ysgol" roedd yn argoeli'n dda am noson hwyliog.
Byd y sioeau Roedd naws byd y sioeau i'w deimlo o'r dechrau gyda'r cyfeilydd ar y piano yn ein diddanu wrth inni ddod i mewn i'r theatr.
Dechreuodd yr hanner cyntaf gyda gwledd o'r sioeau a chawsom berfformiadau o Cwsg Osian o Nia Ben Aur ac Er Hwylio'r Haul o'r sioe o'r un enw.
Yna daeth I Got Rhythm o Crazy for You, Mister Cellophane o Chicago a dwy gân o 3-2-1 sef Weithiau a Iesu Yw.
Cafwyd caneuon o gynyrchiadau'r ysgol yn y gorffennol hefyd gan gynnwys cân o Chwain a Magdalen.
Daeth y rhan gyntaf i ben gyda Fan Acw, cyfieithiad o'r gân enwog From a Distance oedd yn gân bwerus i gloi'r hanner cyntaf.
Tipyn o syndod Wedi mwynhau'r rhan gyntaf roeddwn i'n edrych ymlaen at weld pa ffefrynnau oedd yn ein haros yn yr ail ran. Ond cefais dipyn o syndod nad cân o unrhyw sioe oedd y dewis cyntaf ond Cân Mair, carol sy'n cael ei chanu ar gryno ddisg yr ysgol.
Ond cafwyd perfformiad arbennig gyda llais yr unawdydd, Mirain Haf, yn gweddu'n berffaith i'r gân.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud i mi gael fy siomi wedyn pan ddaeth Cefin Roberts i'r llwyfan a dweud nad caneuon o'r sioeau cerdd fyddai'r ddwy nesaf ychwaith ond caneuon y bydd yr ysgol yn eu canu yn Yr Eidal ymhen ychydig - y gyntaf yn gân glasurol a'r ail yn gân tafod yn y boch am fyd opera a chanu ffug.
Er bod y perfformiadau'n safonol a thipyn o chwerthin ymhlith y gynulleidfa yn ystod yr ail gân, Italian Salad teimlaf i'r newid amharu ar rediad y cynhyrchiad.
Yn wir, digwyddodd yr un peth hefyd yn y rhan gyntaf gydag eitem dawnsio disgo yng nghanol y caneuon o'r sioeau.
Byddai wedi bod yn well cadw at y thema Digon o'r Sioe yn fy marn i gan i'r symud oddi wrth hynny amharu ar naws y cynhyrchiad fel cyfanwaith.
Yn ôl i Gymru Ar ôl cael ein tywys i'r Eidal daethom yn ôl i dir Cymru gyda Nos Da Nawr o Dylsecsia a detholiad o ganeuon Ryan Davies.
Yn dilyn hynny daeth amryw o ganeuon o'r jazz i'r cyfoes gyda chân o'r sioe Chwain, sef Dim Lle i Ferch, yn sôn am fyd y theatr ac nad oedd lle i ferched ar y llwyfan yn y gorffennol, a chân o'r sioe Rent a Swn y Jazz o Chicago.
Daeth y noson i ben gyda pherfformiad arbennig o Rhythm y Ddawns, o Sweet Charity sy'n ddewis poblogaidd gan gorau ac a oedd yn ddiweddglo gwych i'r noson, a'r perfformwyr yn llawn "asbri yn y galon ac ynni yn y traed" yng ngeiriau'r gân.
Digon o amrywiaeth Rhaid canmol yr holl berfformiadau, roedd y canu'n wych a'r symud yn ychwanegu at hynny a chafwyd sawl cân gofiadwy.
Yn sicr roedd digon o amrywiaeth o'r llon i'r lleddf, o'r araf i'r hwyliog a'r gynulleidfa i'w gweld yn mwynhau'r arlwy.
Hefyd, rhaid canmol perfformiadau'r unawdwyr oedd yn hynod o broffesiynol.
Roedd safon y cyfeilio hefyd yn rhagorol ac yn sylfaen gadarn i'r cynhyrchiad.
Dim rhaglen Yn anffodus doedd dim rhaglen ar werth er y byddai un wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn inni wybod pa ganeuon a berfformiwyd ac o ba sioeau y daethant.
Roedd rhai o aelodau'r ysgol yn enwi rhai ohonynt er mwyn pontio rhwng y golygfeydd a gwnaed hyn gyda llawer o'r caneuon Cymraeg, ond nid gyda phob cân o'r sioeau Saesneg.
Yn yr ail ran daeth Cefin Roberts i'r llwyfan sawl tro i egluro cefndir rhai o'r caneuon ac ychwanegodd y manylion hynny at fy mwynhad. Trueni na chafwyd hynny gyda chaneuon y rhan gyntaf.
Ond wedi dweud hynny dim ond diffyg bychan oedd hynny mewn cynhyrchiad gwefreiddiol a oedd yn deyrnged deilwng iawn i waith yr ysgol dros y degawd a mwy ers ei ffurfio.
Edrychaf ymlaen at fwy o gynyrchiadau safonol yn y dyfodol.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|