| |
|
Taith Ysgol Ni Drama o le a chyfnod gwahanol
Adolygiad Alwyn Gruffydd o Taith Ysgol Ni. Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Talaith y Gogledd. Theatr Gwynedd Bangor, 19, Gorffennaf, 2007.
Mae'n rhyfedd fel y gall celfyddyd, boed yn llyfr, cân, drama neu lun ddiffinio cyfnod yn oes rhywun.
Cri cenhedlaeth Wrth ddwyn i gof ddechrau Wythdegau'r ganrif ddiwethaf a chyfnod polisïau economaidd andwyol Margaret Thatcher a'i Llywodraeth byddaf yn cael fy atgoffa'n ddi-feth o gyfres deledu anfarwol Alan Bleasdale, Boys from the Blackstuff. Dyma oedd realiti diweithdra a'r anobaith ddeuai yn ei sgil.
Daeth cri ingol a chyson y prif gymeriad Yosser Hughes am unrhyw fath o waith - "Gissa' Job" - yn gri cenhedlaeth gyfan.
Trigolion ardaloedd dosbarth gweithiol dinas Lerpwl yw cymeriadau Alan Bleasdale a dyma hefyd fu cynfas ffrwythlon un arall o ddramodwyr Glannau Mersi, Willy Russell.
Does yna neb bron sydd heb glywed am o leiaf un darn o'i waith. Cafodd ei ddrama gerdd, Blood Brothers glod o bob cwr, ac addaswyd ei ddramâu llwyfan, Educating Rita a Shirley Valentine, yn ffilmiau llwyddiannus.
ffilm deledu Ond addasiad ar gyfer llwyfan o ffilm deledu Willy Russell yw dewis cynhyrchiad cyntaf ers ugain mlynedd Talaith y Gogledd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Mae Our Day Out (1976) ym ymdrin â thaith bws disgyblion difreintiedig, anllythrennog ac anystywallt un o ysgolion cyfun canol dinas Lerpwl i Gastell Conwy am y dydd.
Dan yr wyneb Ar yr wyneb mae'n ddrama sy'n cofnodi rhialtwch pobl ifanc yn cael diwrnod i'r brenin - mae pawb fu ar daith ysgol erioed yn gallu uniaethu â hynny.
Ond o dan yr wyneb mae yna anesmwythyd creulon wrth i'r disgyblion sylweddoli eu caethiwed i'w sefyllfa drist ac mai'r daith o bosib fuasai pinacl eu bywydau diwerth.
Yn y cyfieithiad Cymraeg, Trip Ysgol Ni, gan Bethan Gwanas, Ynys Enlli yw diwedd y daith.
Teitl difflach braidd - ac anghywir - a doedd yr iaith wallus ddim wedi'i chyfyngu i'r teitl ac ar adegau roedd absenoldeb y rhagenw blaen yn y perfformiad yn Theatr Gwynedd ym Mangor yn merwino'r glust ond ni wn ai'r cyfieithiad ynteu cyfarwyddid roed i'r actorion ifanc fu'n gyfrifol.
Ar ôl dweud hynny cafwyd perfformiadau digon derbyniol gan y cast o 21 gyda Steffan Parry, oedd yn chwarae rhan Mr Edwards yr athro cas - neu Edi Bêr chwedl y disgyblion - a Lynwen Edwards, sef Mrs Hughes yr athrawes glên, yn cario llawer iawn o bwysau'r cynhyrchiad.
At ei gilydd cafwyd perfformiadau clodwiw gan y ddau a bydd portread Steffan Parry o Mr Edwards yn crafangu ar ei bedwar ar ben dibyn yn aros yn y cof.
Cafwyd cameo cwbl nodweddiadol o yrrwr bws gan Dylan Parry.
O ran y disgyblion daeth Garmon Rhys (Iws) a Casi Wyn (Carol) i'r brig. A dweud y gwir roedd datganiad Casi Wyn a'i llais unigryw o unig gân y cynhyrchiad yn un o'r nodweddion mwyaf canmoladwy.
Ond teilyngdod hefyd i'r gweddill.
Acenion amrywiol Un gair bach arall am y cast.
Gyda'r aelodau wedi'u tynnu o bob cwr o'r Gogledd roedd hi'n bleser amheuthun clywed y gwahanol dafodieithoedd naturiol gyda'i gilydd ar lwyfan. Tafodiaith Sir y Fflint un funud - De Meirionnydd y funud nesaf - heb sôn am acen amlwg y dysgwyr.
Profiad gwerth chweil ac yn cyfiawnhad di-ddadl dros benderfyniad yr Urdd i atgyfodi'r Theatr Ieuenctid.
Cyfarwyddwr Trip Ysgol Ni oedd Iola Ynyr o Gwmni'r Frân Wen ac roedd y set yn syml ac aml-bwrpas.
Yn eu tro bu'r sgaffaldiau ar y llwyfan yn fws, cwch a chlogwyn. Di-rwysg ond effeithiol.
Fodd bynnag, bydd y lluniau ar y sgrîn deledu uwchben y llwyfan yn parhau'n ddirgelwch!
Siawns bod lefel deallusrwydd y gynulleidfa'n ddigonol heb yr angen am luniau i gadarnhau golygfa mewn bws, neu ffair, neu ar ynys.
Do a naddo Ond a wnaeth y cyfanwaith argyhoeddi? Wel, do - a naddo.
Fel cynhyrchiad roedd o'n ddiddrwg, didda. Yn sicr roedd y gynulleidfa o rieni a neiniau a theidiau a modrybedd ac ewythredd aelodau'r cast ddaeth i Theatr Gwynedd wedi eu boddhau acrwyf innau'n rhannu'r bodlonrwydd hwnnw.
Ond tybed a oedd y ddrama ei hun yn rhy uchelgeisiol? I ddechrau, mae cefndir y ddrama wedi'i gosod yn solet yn Lerpwl gyda phobl y ddinas yn rhan annatod ohoni.
Yn ail, mae'n trethu'r dychymyg rhywsut tadogi'r fath anobaith a geir yn y ddrama wreiddiol i ddisgyblion yma yng Nghymru - a disgyblion Cymraeg eu hiaith yn fwyaf arbennig.
Ond yn drydydd mae One Day Out yn ddrama, fel Boys of The Blackstuff, yn perthyn i gyfnod sydd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl bellach. Efallai mai addasrwydd y ddrama yw gwendid Trip Ysgol Ni, nid y cynhyrchiad drwyddo draw.
Rhagor am daith 2007 Cwmni Theatr ieuenctid yr Urdd
|
Anhysbys Lynwen Roberts oedd yn chwarae rhan Mrs Hughes NID Lynwen Edwards.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|