|
Hamlet - adolygiad 1 Dan gysgod râs arfau
Bu Gwyn Griffiths yn gweld perfformiad Traws Cymru o gynhyrchiad Michael Bogdanov o gyfieithiad Cymraeg Gareth Miles o Hamlet William Shakespeare yn Y Theatr Newydd, Caerdydd.
Naws filitaraidd, fygythiol, gyfoes, sydd i gynhyrchiad Michael Bogdanov o Hamlet ar gyfer cwmni Traws Cymru.
Mae'n cychwyn gyda sŵn prysur y paratoi wrth i'r milwyr a'u tanciau a'u hoffer grynhoi ar ffiniau Denmarc.
Mae'r sefyllfa wleidyddol yn fregus; tad Hamlet wedi lladd Brenin Norwy mewn rhyfel rhwng y ddwy wlad.
Cymodir Fortinbras, mab Brenin Norwy, a Clawdiws, sy'n llywodraethu Denmarc.
Yna mae Hamlet yn darganfod, drwy Ysbryd ei dad, iddo gael ei ladd gan ei ewythr, Clawdiws, sydd yn awr yn Frenin Denmarc.
Ac yn gofyn i'r gŵr ifanc ddial y llofruddiaeth.
Nid y darlun cyfarwydd o'r Hamlet athronyddol yn cael ei ysu gan amheuon sydd yma - er bod yna lawer o hynny - ond cynhyrchiad sy'n canolbwyntio ar agweddau gwleidyddol y ddrama wrth i'r wlad baratoi am ryfel mewn râs arfau bedair awr ar hugain.
Ymwrthod â chyfrifoldeb Mae'r sefyllfa yn mynd yn fwy bregus o ganlyniad i simsanrwydd Hamlet sy'n ymwrthod â'i gyfrifoldebau ac oherwydd ei berthynas "myfyriwr aeddfed" gydag Offelia, merch bedair ar ddeg oed Poloniws, Prif Gynghorydd y Brenin.
Mae Hamlet yn lladd y Poloniws busneslyd a Chlawdiws yn ei anfon i Loegr gan fwriadu iddo gael ei ladd yno ond y mae'n gweld drwy'r cynllwyn ac y mae Rosencrants a Gildenstern yn cael eu lladd yn ei le.
Mae'n cyfarfod â Fortinbras sydd ar ei ffordd - gyda chaniatâd - ar draws Denmarc i ymosod ar Wlad Pwyl.
Mae Hamlet yn dychwelyd a Chlawdiws yn cynllwynio i'w orfodi i ymladd Laertes, mab Poloniws a brawd Offelia - sydd hefyd yn farw, wedi boddi ei hun o dor-calon.
Yr oedd yr olygfa o'r frwydr gleddyfau a'r gwenwyno yn ardderchog.
Cyrff ym mhobman
Erbyn y diwedd - yn y traddodiad Shakespearaidd - mae cyrff dros bob man, Gertrwd, mam Hamlet oedd wedi priodi Clawdiws; Clawdiws, Laertes achyd yn oed Hamlet ei hun i gyd yn feirw a'r wlad ar drugaredd Norwy.
Cafwyd sawl perfformiad cofiadwy yn y cynhyrchiad, megis Ieuan Rhys yn rhan Rosencrants a Dyfrig Morris fel Gildenstern, dau thyg twp o argyhoeddiad - cyfeillion Hamlet, ond yn ysbïo arno yr un pryd.
Meim Siapaneaidd Un o emau'r perfformiad oedd golygfa'r actorion a berfformiwyd fel meim Siapaneaidd yn yr ail olygfa o'r drydedd act.
Ceir darn gwych o theatr yma lle mae Hamlet, drwy gyfrwng yr actorion, yn datgelu i'w fam Gertrwd ac i Clawdiws ei fod yn gwybod sut y bu i'w dad farw. Yr oedd y ddeialog yma rhwng Offelia a Hamlet yn odidog.
Yr oedd Owen Garmon yn ardderchog fel yr hirwyntog Poloniws, rhwysgfawr a chynllwyngar.
Rhaid canmol perfformiad Catrin Rhys fel Offelia.
O blith nifer o berfformiadau canmoladwy eraill yr oedd Gareth John Bale fel Hamlet a Julian Lewis Jones fel y Brenin Clawdiws, thyg arall oedd yn argyhoeddi.
Bale yw'r unig un nad yw'n chwarae yn y cynhyrchiad Saesneg sy'n rhedeg ochr yn ochr a'r un Cymraeg.
Yn wir, daeth ef i'r rhan yn hwyr yn dilyn anhawster actor arall i chwarae'r rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rhaid edmygu a llongyfarch gwaith yr actorion bob un; yn perfformio'r ddrama yn y ddwy iaith "gefn wrth gefn", camp fawr iawn, goelia i.
Y cyfieithiad O ddiddordeb arbennig yr oedd cyfieithiad Cymraeg newydd Gareth Miles o'r ddrama.
Llifai'n rhwydd ac yr oedd yn hawdd i'w dilyn a bydd llawer yn edrych ymlaen at ei ddarllen wrth eu hamdden gan na ellir llawn werthfawrogi'r gwaith o'i glywed dim ond unwaith ar lwyfan.
Hyderaf y caiff ei gyhoeddi'n fuan.
Smocio Ac un cwestiwn gwamal i fyfyrio drosto am y cynhyrchiad. Pan ddaw'r deddfau newydd ynglŷn â smocio mewn lleoedd cyhoeddus i rym, a ganiateir smocio ar lwyfan?
Y mae llawer iawn o smocio yn y cynhyrchiad hwn!
Ac, o ddifrif, a oedd hynny yn briodol gan nad oes i smocio heddiw y ddelwedd soffistigedig a feddai, dyweder, yn y pumdegau?
Gellir codi'r pwynt hefyd a yw brwydr gleddyfau Hamlet a Laertes yn cyd-weddu'n esmwyth â thanciau a throsglwyddyddion negeseuon lloeren.
Ar y llaw arall, pa ffordd well sydd yna i gyfuno gwenwyno a brwydr?
Un o broblemau gosod hen ddrama mewn diwyg gyfoes, mae'n debyg.
Bydd Hamlet i'w gweld yn y Theatr Newydd Caerdydd tan Dachwedd 12.
Wedyn bydd yn y Torch, Aberdaugleddau, Tachwedd 14 - 16.
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, Tachwedd 17 - 19.
Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, Tachwedd 21 - 24.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad gan Grahame Davies
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|