| |
|
Teulu Pen y Parc Dafliad carreg o ganolbwynt Caerdroia, sy'n cael ei lwyfannu gan Llwyfan Gogledd Cymru, mae olion hen gartref Thomas a Margaret Morris - Pen y Parc, lle magodd y ddau 14 o blant.
Wedi ei feddiannu heddiw gan ddalien poethion, chwyn a mieri, yr oedd yr hen dÅ· cipar ar un adeg yn gartref i naw o ferched a phump o fechgyn - gyda'r tÅ· agosaf filltiroedd i ffwrdd.
Deg o'r 14 o blant sy'n dal yn fyw heddiw - ac ymwelodd rhai ohonyn nhw â safle'r hen gartref ar gyfer y cynhyrchiad o Caerdroia (yn y lluniau).
Bu rhai o'r gynulleidfa a ddaeth i gymryd rhan yng Nghaerdroia yn ddigon ffodus i gael rhannu eu hatgofion o fywyd ym Mhen y Parc yn y Pedwar a'r Pumdegau.
Dyma rai o'r pethau oedd ganddyn nhw i'w ddweud:
- Yr oedd y cartref bron a bod yn hunangynhaliol gyda phob math o gnydau fel tatws a moron a ffa yn cael eu codi ar y tir.
- "Yn blant mi fyddan ni'n hel llys ar y mynydd ac wedi hel rhyw bedair basgedaid yn mynd a nhw i Landudno i'w gwerthu ar y prom i wneud dipyn o bres," meddai Nesta.
- Yr oedd enwau i'r caeau o gwmpas y tÅ·.
Cae Cefn Tŷ Cae Ffynnon oedd yn cael ei adnabod hefyd fel Cae Ucha. Cae Tap - gyda phibell yn rhedeg iddo yn cario dŵr o'r ffynnon. Cae Bonion - lle'r oedd coed wedi eu cwympo a dim ond y bonion ar ôl.
- Coed fyddai'n cael eu llosgi i wresogi'r tÅ· - yr oedd hi'n 1945 cyn i'r teulu ddechrau llosgi glo am y tro cyntaf.
- Roedd yr ysgol fyddai'r plant yn ei mynychu dair milltir i ffwrdd - ac er gwaethaf y tywydd yn y gaeaf byddai'n rhaid mynd yno. "Mi fyddai Mam yn rhwymo sachau am ein coesau rhag yr oerni. Ond weithiau mi fyddai yna bigau o rew ar y rheini erbyn inni gyrraedd yr ysgol ac mi fydda ni'n gorfod sefyll o flaen y tân i'w dadmer," meddai Rose.
- Byddai'n rhaid cario blawd ar gyfer pobi yr holl ffordd o Lanrwst i fyny i'r mynydd.
- Un tro prynodd eu tad geffyl - ond fu hwnnw fawr o gymorth ar y fferm. "Yn gyntaf, ar ôl inni ollwng y ceffyl i'r cae fedra ni mo'i ddal o wedyn, roedd o'n rhedeg i ffwrdd. Ac ar ôl inni ei gornelu yn y diwedd dwi'n ein cofio un tro yn rhoi trol wrth y ceffyl ar gyfer mynd i hel coed. Ond wedi inni lwytho'r drol roedd o'n gwrthod symud o gwbl ac mi fu'n rhaid inni ei ollwng yn rhydd a thynnu'r drol ein hunain," meddai Nesta.
- Yn 1953 y gadawodd y teulu Pen y Parc. Bu eraill yn byw yno wedyn ond pan ddaeth y tir yn dir coedwigaeth dymchwelyd y tÅ· - ond drwy gamddealltwriaeth y digwyddodd hynny meddai'r merched.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Caerdroia
Mwy am Caerdroia
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|