| |
|
Iesu! - drama newydd Iesu Grist yn ddynes . . .
Dynes fydd Iesu Grist yn nrama ddiweddaraf Aled Jones Williams!
Ond dywedodd y dramodydd nad rhoi sioc i bobl ond eu cael i feddwl yw ei fwriad gyda Iesu! a fydd yn cael ei llwyfannu gyntaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd gan Theatr Genedlaethol Cymru.
"Dwi'n gobeithio; fwy na siocio, gwneud i rywun feddwl ac mae gwneud i rywun feddwl yn bwysicach na rhoi sioc iddyn nhw," meddai ar y rhaglen Wythnos Gwilym Owen ar 91Èȱ¬ Radio Cymru ddydd Llun, Mai 19, 2008.
Pam yn ferch Eglurodd yr offeiriad o Borthmadog, sydd hefyd yn un o ddramodwyr mwyaf blaenllaw Cymru, pam y dewisodd wneud Iesu yn ferch ar gyfer y ddrama:
"Yn gyntaf y llun o Iesu sydd ganddo chi ydi rhyw Ayrian Blonde . . . y gwallt hir melyn, y llygaid glas, tal - ond mae yna rywbeth yn ferchetaidd iawn am hwnna.
"Ac roeddwn i eisiau dilyn y trywydd yna a symud o'r syniad yma o ddyn - er mai dyn ydi Iesu wrth reswm, nid ei ryw o sy'n bwysig ond y cnawd ac felly fe benderfynais ddilyn y trywydd benywaidd sydd yn glir yna.
"A hefyd, mae hwnna yn rhan o symud pobl, eu taflu nhw oddi ar eu hechel - dyn ydych chi'n ddisgwyl, dynes ydych chi'n gael," meddai.
A honno'n ddynes wedi siafio'i phen hefyd o bosib er nad yw'r elfen honno yn y cynhyrchiad wedi ei benderfynu eto.
Person cymhleth "Mae'n berson cymhleth iawn dwi'n meddwl yn yr ystyr beth sydd yn cyflyrru'r Iesu yma.
"Rydan ni'n meddwl am yr Iesu tyner , am yr Iesu llawn cariad - ie, ond dwi'n meddwl bod yna Iesu hefyd sydd yn ymwneud â grym ac am ddisodli un math o rym efo grym arall.
"Dwi'n meddwl ei fod yn berson mwy cymhleth ac ar ôl y dyn - neu'r ddynes - rydw i wedi mynd a be di'r cymhelliad a hwnna ydi'r peth mawr yn y ddrama yma."
Anodd i'w sgrifennu Dywedodd na fu'n ddrama hawdd ei sgrifennu.
"Oherwydd pan ydych chi'n mynd i'r efengylau mae gennych chi bedair stori a'r cwestiwn mawr oedd, a oeddwn i'n mynd i ddefnyddio'r geiriau oedd yna ynteu oeddwn i'n mynd i greu rhywbeth arall ac mi benderfynais ddilyn beth sydd yna ac ar un wedd trio creu efengyl arall.
"[A] beth sydd ganddo chi yn y diwedd ydi dehongliad [ond] fuaswn i ddim mor rhyfygus a dweud 'Yr Efengyl yn ôl Aled ' - ond i fod yn berffaith onest y dehongliad yma o sut yr ydw i yn ymateb felly fy ymateb i ydi hwn," meddai.
"Ar un wedd, drama wleidyddol nid un grefyddol ydi hi," meddai.
Oddi ar eu hechel Ac yn un fydd yn taflu pobl oddi ar eu hechel meddai a dyna pam bod ebychnod ar ôl yr enw Iesu yn y teitl:
"Y syniad oedd, pan ydych chi'n dweud Iesu fel yna mai rheg ydi o ac roeddwn i eisiau efallai taflu pobl oddi ar eu hechel er mwyn gwneud iddyn nhw feddwl dipyn bach . . .," meddai.
"Oherwydd bod Iesu yn ffigwr crefyddol a bod yna rywbeth yn gwbl farwaidd yn y byd crefyddol Cymraeg a hefyd, yn yr ystod ehangach yn Ewrop ac yn y byd, fod crefydd yn rhywbeth treisgar ac yn rhywbeth sydd yn erbyn bywyd ac yn symud o hunan fomwyr i bobl grefyddol sydd yn erbyn pobl hoyw roeddwn i eisiau rhoi rhyw syniad arall nad fel yna mae hi," ychwanegodd.
Dim iod o ddiddordeb Wrth ei sgrifennu dywedodd nad oedd ganddo "iod o ddiddordeb" yn yr eglwysi ond y gymdeithas y tu allan i'r eglwysi ac eisiau iddyn nhw ystyried Iesu fel rhywun gwerth ei ystyried.
"Ac i fod yn berffaith onest naw wfft i'r eglwysi a'r capeli sy gen i ddim iod o ddiddordeb yn fanno ar bobl y tu allan i fanno rydw i eisiau i'r ddrama ddigwydd a bod," meddai.
I brif ddalen 'Iesu'
|
|
|
|