| |
|
Crash Drama i'r ifanc gan Sêra Moore Williams
Adolygiad gan Glyn Evans
Dim ond saith oedd yn y gynulleidfa ar gyfer Crash yng Nghlwb Rygbi Dinbych - wyth gyda'r adolygydd!
Gerbron cyn lleied mae'n deyrnged i'r tri actor a'u cerddor (Owain Llyr) iddynt berfformio gyda chymaint o arddeliad - go brin iddi fod yn hawdd iddyn nhw gymryd y noson o ddifrif gerbron cyn lleied. Ond fe wnaethon nhw.
Cynhyrchiad i blant ysgol a rhai yn eu harddegau oedd un Sêra Moore Williams i Gwmni Theatr Arad Goch - a dyna oedd hanner y gynulleidfa a oedd i'w gweld yn gwrando'n astud iawn ac yn mwynhau.
Pobl ifanc Yr oedd yn gynhyrchiad addas hefyd i oedolion; yn agor cil y drws ar fywydau pobl ifanc yn eu harddegau - y pethau sy'n eu poeni a'u ffordd o ddygymod a hwy.
Yn parhau ond ychydig dros awr mae'r stori'n tyfu trwy gyfrwng nifer o olygfeydd byrion - teledol eu hyd - rhwng tri chymeriad.
Pwysau teuluol Disgyblion blwyddyn arholiad yn yr un ysgol uwchradd ydi Wes (Dafydd Rhys Evans) , Rhys (Rhys ap Trefor) ac Els (Rhiannon Morgan) sydd yn ganolog i'r stori fel y cyswllt rhwng y ddau gymeriad arall.
Mae'r tri, yn eu gwahanol ffyrdd, yn gwrthryfela ac yn ceisio torri'n rhydd o hualau teuluol.
Daw Els - Elin yn go iawn - a Rhys o 'gartrefi da' ond Wes o deulu mwy anffodus ac wedi torri'n rhydd ar ôl cael ei guro gan ei dad.
Mae'n yfed fodca, yn ymwneud â chyffuriau - ac yn dwyn ceir a'u rasio a hynny'n rhoi i'r ddrama ei theitl.
Mae Els dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad ag ef; yn methu cadw ei dwylo oddi arno; wedi mopio'n llwyr ag ef; wedi ei swyno gan ei ryfyg a'i fenter a'i ddifeindrwydd.
Perthynas ffrindiau gorau ydi un Els a Rhys, o safbwynt Els, ond yn un ddyfnach i Rhys.
Rhys yw'r un y gall Els drafod ei phroblemau ag ef ac mae'n ysgytwad iddi pan yw'r ddau yn ffraeo ac ymbellhau dan ddylanwad difaol Wes.
Yn un sy'n cymryd ei waith ysgol o ddifrif ac yn gobeithio am rhyw fath o ddyfodol iddo'i hun gofidia Rhys fod y ferch y mae am ei chael yn gariad yn caniatáu cael ei hudo ar gyfeiliorn gan Wes anystywallt.
I Wes mae Rhys ac Els fel ei gilydd yn posh ac mae'n rhaid amau ei gymhellion o'r cychwyn ynglÅ·n ag Els.
Arwain hyn oll at wrthdaro rhwng Wes a Rhys sy'n cyrraedd ei benllanw mewn ffeit drawiadol rhwng y ddau.
Cyrraedd y ddrama ei hun ei huchafbwynt ar golgwyn uwchben y môr ond efallai bod hon yn un o'r ychydig olygfeydd y gellid fod wedi ei thynhau.
Hiwmor hefyd Er yn trafod problemau a theimladau digon ysig dydi'r ddrama ddim heb ei hiwmor ac mae dialog slic sy'n argyhoeddi rhwng y cymeriadau.
Wes: Be sy gen ti y pnawn 'ma? Els: Math gynta - be sy gen ti? Wes: Dwi'n mynd i'r dre . . .
Ac meddai Rhys sydd yn cael cysur o fwyta pob math o sothach : "Dwi'n meddwl mod i'n bwlemic - jyst ddim yn gwneud y chwydu bit."
Mae'r sgwrsio, wrth gwrs, yn frith o'r dywediadau hynny sy'n lefeinio iaith pobl ifanc y dyddiau hyn - ti'n sad, get a leiff; no way, whatever ac yn y blaen.
Mae'r tri actor gystal a'i gilydd yn eu gwahanol rannau.
Syml a diwastraff Yn sioe sydd wedi ei chynllunio ar gyfer ymweliadau ag ysgolion ac ystafelloedd cyfyng mae'r llwyfannu syml a diwastraff yn ddigon effeithiol, serch hynny, gyda'r actorion eu hunain yn gosod y props rhwng y golygfeydd - ond byddwn wedi bod yn fwy cyfforddus pe byddai cymeriad nad oedd yn rhan o olygfa allan o'r golwg yn hytrach nag yn eistedd ger ochr y llwyfan yn 'disgwyl ei dwrn' fel petai.
Ond ar y cyfan, ychydig iawn o le sydd yna i weld beiau gyda'r cynhyrchiad hwn ac yr oedd yn drueni i gyn lleied fanteisio ar y cyfle i'w weld yn Ninbych.
Gobeithio y bydd gwell cefnogaeth yn ystod gweddill y daith o amgylch Cymru a diau, mewn perfformiadau mwy niferus y byddai cyfle i ymuno â disgo trawiadol sydd yn y stori.
Dyma weddill y daith: Ionawr 27 Ysgol Gyfun Llangefni. 01248 752939. Ionawr 28, Canolfan Gymunedol Llanrwst. 01492 642357. Ionawr 31 - Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Barri. 01446 720600. Chwefror 1 - Y Ganolfan Gymraeg, Merthyr Tudful. 01685 722176. Chwefror 2 Ysgol Gyfun Ystalyfera. 01792 460906. Chwefror 3 - Yr Urdd, Canolfan y Mileniwm. 02920 635685. Chwefror 4 - Ysgol Gyfun Cymer, Y Rhondda. 01685 882299. Pob perfformiad yn dechrau am 7.30.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|