| |
|
Myfyrwyr o Goleg y Drindod Myfyrwyr ar daith ddramatig Profi'r wefr o gyfansoddi, llwyfannu a pherfformio
Y maen arferiad i fyfyrwyr o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, deithio gyda sioe lwyfan o gwmpas Cymru Yma, y mae un or myfyrwyr yn son sut yr aeth pethau gydar sioe ddiweddaraf dros yr wythnosau diwethaf..
Y maen arferiad i fyfyrwyr o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, deithio gyda sioe lwyfan o gwmpas Cymru.
Yma, y mae un or myfyrwyr yn son sut yr aeth pethau gydar sioe ddiweddaraf dros yr wythnosau diwethaf.
Yn ystod fy nwy flynedd yn fyfyrwraig ar y cwrs Theatr, Cerdd ar Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod yr ydym wedi teithio o amgylch Cymru gyda dwy sioe - Cymry Xpres a Pwythau.
Eleni roeddem ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, rhywbeth gwreiddiol wedii lunio gennym nir myfyrwyr.
Mae digon o wahanol agweddau ir cwrs, yn amrywio o waith perfformio, yr ochr dechnegol ar gwaith o greur sioe.
Gwnaethom benderfynu ar y dechrau fod pawb oedd yn dymuno cymryd rhan yn mynd ati i roir sioe wrth ei gilydd.
Dechreuodd y sgription syth bin gyda pawb oedd yn credu fod ganddynt rywbeth iw gynnig yn cyfarfod yn gyson i drafod syniadau.
Fel yr oedd yr amser yn mynd yn ei flaen roedd y tîm sgriptio yn mynd yn llai er mwyn gallu canolbwyntio ar rai syniadau au datblygu.
Wedi inni benderfynu ar y syniad ar gyfer y sioe, roedd pethaun rhedeg yn llyfnach ac or diwedd, roedd y sgript gyflawn yn barod ir perfformwyr fynd ati i ymarfer.
Roedd yr ymarferion yma yn cael eu cyfarwyddo gan ein darlithydd drama, Delyth Mai, ar ochr gerddorol gan bennaeth y cwrs, Marian Thomas.
Roedd yn rhaid trafod sut yr oedd cerddoriaeth a dawns yn mynd i asion ddrama.
Ar sail ein profiad or sioeau cynt yr oeddem yn gwybod fod y cynulleidfaoedd yn hoffir gymysgedd rydym yn ei gynnig.
Rhyw fath o sioe gerdd oeddem nin anelu ati a chan fod digon o dalent gerddorol ar gael ymysg y myfyrwyr penderfynwyd ar ddefnyddio cerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd gan rai or myfyrwyr sydd am arbenigo mewn cerdd.
Amrywiair gerddoriaeth o ganu ysgafn, roc a jazz, oedd - gobeithio - yn gymorth i ddatgelu mwy am y cymeriadau au rhan yn y sioe.
Fel yr oedd yr amser yn mynd yn ei flaen ar sioe yn dechrau siapio, roedd angen dechrau cynllunio set, goleuo a gwisgoedd.
Roedd y criw technegol yn cyfarfod yn yr ymarferion i greu cynllun ar gyfer y sioe. Roedd yna hefyd dîm gwisgoedd i ddehonglir cymeriadau a darganfod gwisgoedd a cholur ir perfformwyr.
Gan mai cymryd rhan yn wirfoddol yn y sioe yr oeddem ni ac nad oedd yn orfodol fel rhan on cwrs gradd doedd yna fawr o gyllideb ar gael ac felly bun rhaid inni ddefnyddion pennau i osgoi costau uchel.
Fe wnaethom ni ddysgu llawer or sioeau blaenorol gan obeithio peidio ag ailadrodd rhai or camgymeriadau.
Gan mai un or anawsterau a gafwyd yn y gorffennol oedd y mannau perfformio penderfynwyd, eleni, gyfyngur perfformiadau i dair theatr - y Chapter yng Nghaerdydd, yr Halliwell yng Nghaerfyrddin a Theatr Gwynedd ym Mangor.
Credaf i hyn fod yn beth ddoeth gan inni arbed costau teithio a hefyd cawsom y fraint o berfformio yn Theatr Gwynedd i theatr oedd bron yn llawn - rhywbeth nad ywn codin aml iawn y dyddiau yma!
Yn awr bod y daith drosodd, rydym nin gobeithio y bydd y tradddodiad o deithio sioe yn parhau yng Ngholeg y Drindod gan roi cyfle i fyfyrwyr y cwrs feithrin a dangos eu doniau. gan Elin Meirion.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|