| |
|
Yr Argae ar daith Cyfieithiad Wil Sam o ddrama Wyddelig
Mae cyfieithiad Cymraeg gan Wil Sam o ddrama Wyddelig a lwyfannwyd gyntaf yn ystod Eisteddfod Caerdydd i'w berfformio ar hyd a lled Cymru.
Cyd gynhyrchiad yw Yr Argae rhwng Sherman Cymru a Torri Gair a bydd yn ymweld ag Aberystwyth, Caernarfon, Yr Wyddgrug, Aberteifi, Dyffryn Aeron, Pwllheli a Harlech.
Ennill gwobrau
Mae The Weir gan Conor McPherson - y seiliwyd Yr Argae arni - wedi ennill sawl gwobr a pherfformiwyd cyfieithiad W S (Wils Sam) Jones gyntaf yn y Gymraeg yn theatr y Sherman fel rhan o weithgareddau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.
Fe'i disgrifir fel "stori arswyd" wedi'i lleoli mewn tafarn fechan yn Iwerddon ble, yn ôl eu harfer, mae tri hen lanc lleol yn cwrdd am beint a sgwrs.
Ond pan fo Finbar Mack yn glanio nôl yn y dref, yng nghwmni menyw ifanc, sy'n ddieithr i'r ardal, maent oll yn eu tro'n datgelu rhywbeth am eu gorffennol, ac mae'r drafodaeth ychydig yn fwy iasol na'r disgwyl.
Y cyfarwyddwr yw Arwel Gruffydd a'r actorion; Owen Arwyn, Richard Elfyn, Emlyn Gomer, Sara Lloyd ac Ian Saynor.
Y daith Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - 27 Ionawr 7.30pm
Galeri, Caernarfon - 29 Ionawr 7.30pm
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug - 30 - 31 Ionawr 7.45pm
Theatr Mwldan, Aberteifi - 3 - 4 Chwefror 7.30pm
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron - 6 Chwefror 7.30pm
Neuadd Dwyfror, Pwllheli - 11 - 12 Chwefror 7.30pm
Theatr Harlech - 13 Chwefror 7.30pm
Mae'r cwmni'n rhybuddio bod rhegi yn y ddrama.
Adolygiad Alwyn Gruffydd o 'Yr Argae'
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Alwyn Gruiffudd
|
|
|
|