Gwe o Gelwydd gan Lowri Roberts gyda Carwyn Jones a Tonya Smith. Cyfarwyddwr, Arwel Gruffydd.
Adolygiad: Elliw Iwan
Mae rhywun yn dueddol o fynd i weld dramâu gan awduron newydd/ifanc yn llawn o rhyw fath o ofn ac atgofion o eistedd mewn neuadd bentre' damp yn edrych ar amaturiaid yn dangos eu hunain.
Ond siom ar yr ochr ora ges i nos Iau diwethaf yn Neuadd Llanofer, Caerdydd wrth wylio pedair drama fer gyfoes gan awduron newydd Cwmni Inc.
Roedd set syml Gwe o Gelwydd gan Lowri Roberts yn mynd â ni'n syth i fyd y swyddfa gyda rhyw fath o chwedl Aesop â thro yn ei chynffon mewn drama a oedd yn gipolwg ffraeth ar fywyd dau berson ifanc.
Gallai pawb yn y gynulleidfa uniaethu â'r swyddfa, yr iaith a'r sefyllfa. Dan ni i gyd wedi gweithio gyda phobl debyg a rhai ohonon ni efallai wedi bod mewn sefyllfa debyg.
Stori fawr ar fore dydd Llun gan y clerc ifanc am hanes ei benwythnos - a'i gydweithiwr yn dyfalu ai'r gwirionedd ynteu ffrwyth ei ddychymyg gorfywiog yw'r stori.
Wrth i'r gaseg eira dyfu, mae'r chwerthin yn cynyddu, diolch i'r sgriptio bachog a'r actio cynnil.
Roedd y jôcs yn amlwg ar brydiau ond, o glywed y chwerthin, yn effeithiol iawn. Yr hen rai yw'r gorau!