| |
|
Holl Liwie'r Enfys Tyfu yn y wlad
Adolygiad Gwyn Griffiths o Holl Liwie'r Enfys gan Sharon Morgan.
Darlun o fywyd merch o'r wlad yn tyfu'n y Pumdegau a'r Chwedegau yw Holl Liwie'r Enfys.
Gwaith ar ffurf clytwaith hudolus o bortreadau llafar, ac ambell gân, wedi eu sgrifennu gan yr actores ddawnus Sharon Morgan sy'n eu cyflwyno gydag awch ac afiaith.
Mae'n gynhyrchiad sy'n seiliedig ar atgofion teuluol a phrofiadau personol Sharon.
Dim ond pymtheg Gresyn mai pymtheg yn unig oedd yn Chapter (nos Sul, Gorffennaf 31, 2005) i wylio gwaith a pherfformiad y gallai cynifer ohonom blant y wlad o'r cyfnod gobeithiol, hyderus, yna uniaethu ag ef.
'Does bosib bod holl Gymry Caerdydd eisoes yn yr Eisteddfod!
A fu cenhedlaeth a welodd ac a brofodd gymaint o newid? Tybed pryd y gwêl cenhedlaeth arall gyfnod mor deg a chyfartal ei chyfleoedd ag a gafod y plant a anwyd yn y cyfnod yna?
Mae cymeriadau Sharon Morgan weithiau'n ddoniol, weithiau'n drist - ond nid anghyfarwydd - i blant y cyfnod.
Y wraig tÅ· sy'n gwneud bwyd yn ddi-baid a'i wthio yr un mor frwd ar bob ymwelydd. Yr hen ferch yn byw gyda'i brawd ar y fferm unig a'r stori iddi unwaith roi genedigaeth i faban mewn bwced.
Y pwysau ar y plentyn i wneud yn dda yn yr ysgol a mynd i weithio yn y banc lle y mae'n sych a chynnes. Swydd naw tan bump a does dim tywydd mewn banc.
Dyhead rhieni - a dyhead y plentyn, hefyd - i dorri'r llinyn gyda gorffennol caled, aml ddigysur.
Breuddwydion newydd Fe ddaw Bill Haley, a roc'n'rôl, â breuddwydion newydd.
Y poeni am ffasiwn, wedyn. Eisiau "corff lan a lawr a dim bronne". "Mae bronne o'r ffordd, maen nhw'n pallu sefyll yn llonydd."
Rhaid cydymffurfio, rhaid bod fel pawb arall. Esgus bod yn llawn hyder; ond gwneud popeth fel pawb arall yw'r nod.
Mae'r Gymraeg, "fel glaw mân", bob amser yna, capel a 'steddfod, ond yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.
Yna mae Sian o'r Barri yn dod i'r ysgol a mae hi'n "rili Welsh", mae hi'n dweud "dringo" yn lle "cleimo" a "neidio" yn lle "jwmpo".
Daw'r Gymraeg mâs "yn yr agored" gyda dyfodiad Sian. Ac mae Gwynfor yn digwydd a chanu pop yn Gymraeg.
Dylan yn falch Rywbryd o fewn hyn i gyd mae'r ferch yn mynd i ysgol ramadeg y merched i fyd o God Save the Queen a Jerusalem a "never brush your hair in public".
Am y portreadau o'r athrawesau - buasai Dylan Thomas yn falch o'r rhain.
Y dyfalu maleisus diniwed o ble cafodd yr athrawes bioleg y sbesimens sydd yn y poteli yn ei labordy. Yr athrawes Saesneg aristocratig a'r athrawes Gemeg, hon yw'r diafol.
Gwych o ddarlun o fywyd, dyheadau a ffantasïau merch ifanc yn tyfu mewn cyfnod. Darn o gelfyddyd, yn wir.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|