|
Mythau Mawreddog y Mabinogi Aolygiad o gynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Adolygiad Nic Ros o Mythau Mawreddog y Mabinogi gan Manon Eames. Cynhyrchiad dwyieithog Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cyfarwyddwr, Tim Baker. Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Medi 6, 2008.
Mab a merch yn meddiannu'r mythau Mythau Mawreddog y Mabinogi yw ffrwyth cyntaf Tim Baker, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Clwyd a chyn gyfarwyddydd Theatr Gorllewin Morgannwg, fel pennaeth newydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Yn dilyn teyrnasiadau Firenze Guidi a Greg Cullen, dyma'r dwylo Cymreiciaf ar lyw Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Dyma hefyd ymdrech efallai i bontio eithafion cymharol y ddau yna. Rhwng arbrofion gofod a phroses Guidi, a'i hamarch cymharol at y testun, a chefndir Cullen a oedd, fel dramodydd yn gyntaf, yn dechrau os nad yn gorffen gyda'r gair ysgrifenedig, y mae anian theatrig Baker, ac mae ei gynlluniau at y dyfodol sy'n cynnwys ysgrifenwyr ifainc, yn ddychmygus ac uchelgeisiol.
Uchelgais theatrig Arwydd o uchelgais theatrig yw dewis chwedlau sy'n llawn creaduriaid a bydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd fel ei gilydd ac yn cael eu britho gan drawsffurfiannau gwahanol.
Ni ellir glynu wrth naturiolaeth yma. Waeth ba mor werthfawr yn llenyddol yw fersiwn Saunders Lewis o Blodeuwedd, nid yw'n gallu ein digolledu am yr hud a'r dirgelwch sydd wrth wraidd y stori.
Yma mae'r pwyslais bron yn llwyr ar y bobl ifanc i ddangos bodau a bydoedd newydd, a thalp gweddol sylweddol o'u hamser hyfforddiant wedi ei dreulio ar goriograffio'r anifeiliaid a chreaduriaid. Amser gwerth chweil heb os.
Y dehongliadau haniaethol yma oedd un o uchafbwyntiau'r cyflwyniad caboledig hwn, gyda chynhyrchiad ysblennydd Terry Hands o Equus yn Theatr Clwyd yn 1997 yn ddylanwad tebygol o ran y symudiadau a chynlluniau'r penwisgoedd.
Yn wir, ac eithrio'r penderfyniad i geisio rhyw fath o realaeth ar gyfer ambell ymladdfa, llwyddiant digamsyniol oedd y symud barddonol a disgybledig.
Y llwyfan Syml - ac eto trawiadol - yw'r cynllun llwyfan, sy'n gymharol wag er mwyn i'r hanner cant o berfformwyr ei feddiannu.
Cylch troi ar ganol y llwyfan yw un o'r ychydig ddyfeisiadau a ddefnyddir. Crëir awyrgylch ar ddechrau'r ddau hanner gyda iâ sych a gwneir defnydd helaeth o gysgodion er mwyn lleihau'r busnes llwyfan: rhaid cofio y cyflwynir pedair cainc yma.
Crogir cefnlen yn arddull Mark Rothko i gyfleu naws niwlog y drydedd gainc ond fel arall llu o bobl ifainc a'u tonnau egni sy'n llenwi'r llwyfan.
Ychwanega'r gwaith technegol at waith y perfformwyr yn hytrach na thynnu'n sylw oddi wrthynt.
Cynhyrchiad arall Wrth ysgrifennu'r adolygiad hwn, rwy'n gwrando yn hollol fwriadol ar Diwrnod i'r Brenin, caneuon Geraint Jarman ar gyfer cynhyrchiad Moving Being o'r Mabinogi yn yr Wythdegau, atgof clywedol o gynhyrchiad uchelgeisiol dwyieithog arall.
Roedd cerddoriaeth yn rhwym o fod yn rhan annatod o gynhyrchiad gweledol a chorfforol ac er nad oedd presenoldeb y caneuon yn fy nhyb i yn ychwanegiad dilys, er gwaethaf eu safon uchel, roedd cerddoriaeth Dyfan Jones yn sail i rai o olygfeydd cryfaf y cynhyrchiad, lle mae'r symud, y gerddoriaeth a'r cynllunio'n uno'n brofiad theatrig llesmeiriol.
Neb yn wael Safon uchel iawn a gafwyd gan y perfformwyr i gyd bron ac er yn berfformiad prynhawn - gydag un nos i ddod - roedd y perfformwyr yn broffesiynol iawn gydag ond ychydig iawn o giledrych tuag at y gynulleidfa er enghraifft.
Teg dweud nad oedd neb yn wael - a pha mor aml y gellir dweud hynny pan fo mwy na dwsin ar lwyfan?
Mae pob ohonynt yn haeddu canmoliaeth, a braidd yn annheg fyddai enwi unigolion - ond annhegwch a barn unigol yw natur adolygiad:
Yn y Corws - Y Breuddwydwyr - fe gafwyd ffocws llwyr gydag ambell unigolyn megis Hannah Good a Dafydd-Llyr Thomas yn amlygu'u hunain.
O ran y rhai mwy amlwg, roedd Owain Gwynn fel Pwyll yn gadarn ac aeddfed, a Ryan Lane fel Gwawl yn ennyn dim cydymdeimlad, fel sydd eisiau.
Roedd ymroddiad Gwenllian Higginson wedi tynnu sylw hyd yn oed cyn iddi gamu o'r Corws i roi cig a gwaed i Cigfa.
Siôn Alun Davies fel Gwydion oedd un o uchelbwyntiau clir y pnawn: dyma actor sydd a'i osgo a'i edrychiad yn dwyn i gof Llŷr Ifans, ac sy'n meddu ar egni anarchaidd y brodyr Ifans.
Mae gan y gŵr ifanc yma o Gaerdydd y gallu i ddifrifoli hefyd, ac fe all hynny osgoi iddo gael ei gastio'n feunyddiol fel ffŵl.
Dylid pwysleisio ieuenctid y cast oll, ac mai proses sydd byth yn diweddu yw datblygiad actorion.
Mae'n deg nodi fod gwendid lleisiol mewn ambell le, ond fe all hyn newid yn weddol sydyn gyda rhaglen hyfforddiant drylwyr.
Y Gymraeg Cwyn cyn cloi: ar ei waethaf roedd y defnydd o'r Gymraeg yn ymylu ar docenistiaeth.
Mae'n wir nad oes modd diwallu dymuniadau pawb a bod dwyieithrwydd yn dalcen caled ofnadwy nad yw neb efallai wedi llwyddo i'w dorri yn y theatr Gymraeg ond efallai byddai modd cyflwyno rhai o'r chwedlau yn iaith y nefoedd ac eraill yn y Saesneg - ond byddai hynny wedyn yn golygu castio yn ôl gallu ieithyddol.
Dyma sy'n digwydd, wrth gwrs, wrth gastio yn y theatr broffesiynol.
Mae'r straeon, wrth gwrs, yn rhai Cymraeg ac efallai y byddai cynhyrchiad cwbl Saesneg yn teimlo'n warth ond gydag ailsefydlu / ailwampio Theatr Ieuenctid yr Urdd mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru angen meddwl ynghylch ei chyfrifoldeb at y Gymraeg.
Na, nid oes yn rhaid wrth ddau gynhyrchiad gan ThGIC. Yn sicr roedd Cymry Cymraeg yn gymaint rhan o'r cast ag erioed eleni, a braf gweld hynny.
Mae amserlen y ddau gwmni yn golygu nad oes yn rhaid i'n pobl ifainc ddewis rhwng y ddau, a mae hynny'n bwysig am fod natur y prosiectau'n wahanol.
Gwibio Serch hynny, cynhyrchiad gwefreiddiol a gweledol, a gwibiodd dwy awr a hanner heibio.
Anodd iawn yw cydbwyso proses a chynnyrch wrth weithio gyda phobl ifainc am gyfnod penodol a chymharol fyr ond fe welsom yma dystiolaeth gadarn o waith unigol a grŵp. Mae'n anghredadwy bron mai mewn mis yn unig y crëwyd y cyfanwaith hwn.
Ffodus iawn yw'r bobl ifainc yma o gael treulio amser yn nwylo proffesiynol Baker a'i dîm, a dyma greu uchafbwynt cynnar yn eu gyrfaoedd. Gobeithio y bydd rhain yn parhau i boblogi llwyfannau Cymru, a ni'r gynulleidfa fydd yn ffodus wedyn. Disglair yw'r dyfodol.
Y daith Gwener 5 Medi 1.00pm a 7.30pm - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 01970 623232
Sadwrn 6 Medi 2.30pm a 7.30pm - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 01970 623232
Mawrth 9 Medi 7.30pm - Clwyd Theatr Cymru 0845 330 3565
Mercher 10 Medi 1.00pm - Clwyd Theatr Cymru 0845 330 3565
Gwener 12 Medi 1.00pm a 7.30pm - Sherman, Caerdydd 029 2064 6900
Sadwrn 13 Medi 2.30pm a 7.30pm CIC - Sherman, Caerdydd 029 2064 6900
|
|
|