| |
|
Fron-goch yng Ngwlad Siec Bydd sioe lwyfan am wersyll carcharorion Gwyddelig yng Nghymru yn cael ei pherfformio mewn gŵyl theatr yng Ngweriniaeth Siec.
"Yn dilyn llwyddiant y cynhyrchiad amlieithog, Fron-goch gan Ifor ap Glyn daeth gwahoddiad i berfformio mewn gŵyl Theatr Ewropeiadd yn Hradec Králové yng Ngweriniaeth Siec fis Mehefin," meddai Cyfarwyddwr Artistig cwmni llwyfan Gogledd Cymru, Ian Rowlands.
Llwyfannau rhyngwladol "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yn hanes y cwmni gan mai un o'n prif amcanion ni yw mynd a chynyrchiadau Cymraeg i lwyfannau rhyngwladol gyda'r bwriad o gyflwyno iddynt ein iaith a'n diwylliant," ychwanegodd.
Y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru sy'n talu am y daith gyda'r ddrama, a berfformiwyd yn Gymraeg, Saesneg a'r Wyddeleg yn wreiddiol, yn cael ei haddasu ar gyfer yr ymweliad.
Ac yn ystod yr hydref bydd y cwmni yn ymweld ag ardaloedd na welodd y cynhyrchiad gwreiddiol yng Nghymru ac Iwerddon.
Ac yn ystod mis Mai bydd rhaglen gan Cwmni Da sy'n cynnwys ymateb cynulleidfaoedd i'w gweld ar S4C.
Mewn drysfaMae cwmni Llwyfan Gogledd Cymru yn un sy'n tyfu mewn poblogrwydd gyda bron i 10,000 o bobol wedi g weld ei sioeau y llynedd.
Cynhyrchiad mewn cydweithrediad a Theatr Labyrinth Synhwyraidd Cynefin fydd un nesaf y cwmni.
Disgrifir Caerdroia fel prosiect celfyddydau cymunedol gyda drysfa neu labyrinth milltir o hyd yn cael ei chgreu yng Nghoedwig Gwydir ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy.
"Yno fe fydd pobol yr ardal yn cydweithio gydag artistiaid , beirdd a storïwyr i greu perfformiadau unigryw yn ystod Gorffennaf i ddathlu treftadaeth naturiol a ieithyddol yr ardal," meddai llefarydd.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|