|
Fron-goch Bae Guantanamo Cymru - yng nghynefin Bob Tai'r Felin! Adolygiad Alwyn Gruffydd
Adolygiad Alwyn Gruffydd o Fron-goch Llwyfan Gogledd Cymru Ardal Fron-goch ger Y Bala yng Ngwynedd. Dyma fro Bob Roberts Tai'r Felin, dyma fro'r chwisgi Cymreig ac, wrth gwrs, dyma Fro Tryweryn.
Ond go brin bod yr wybodaeth honno o unrhyw bwys i'r 1,800 o Wyddelod gafodd eu cludo yno gyda thrên ym mis Mehefin 1916.
Roedd meddyliau'r rheini ar dynged eu gwlad eu hunain.
Cwta ddeufis ynghynt bu nifer fawr ohonynt - er nad bob un o ddigon - yn rhan o Wrthyfel y Pasg yn Nulyn.
Roeddynt yn dystion wrth i fargyfreithiwr ifanc - ac aelod o Orsedd y Beirdd - Pádraig Pearse, sefyll wrth fynedfa prif lythyrdy Iwerddon a chyhoeddi i'r byd sefydlu Poblacht na hEireann - Gweriniaeth Iwerddon.
Chwim a didostur Bu ymateb yr awdurdodau Prydeinig yn chwim a didostur.
Ymhen pythefnos dienyddwyd Pearse, ei frawd, Willie, ac 13 o arweinwyr eraill y Gwrthryfel.
Ar ben hynny cadwyd unrhyw un yn cael ei amau o gyfrannu, hyrwyddo neu gynorthwyo'r chwyldro o dan glo, heb ddwyn achos cyfreithiol yn eu herbyn.
Y rhain oedd i gyrraedd Fron-goch.
Camgymeriad a bendith I'r awdurdodau Prydeinig bu cadw'r gwrthryfelwyr i gyd gyda'i gilydd yn gamgymeriaid tactegol erchyll - i'r Gwyddelod bu'r penderfyniad yn fendith ysgubol.
Oherwydd yn Fron-goch y plannwyd hadau Iwerddon Rydd.
Roedd cymaint o gyffelyb fryd yn yr un unfan yn gyfle euraid i gynllunio, cynllwynio a pharatoi ar gyfer dydd eu rhyddhau o gaethiwed.
Ymhlith y carcharorion roedd unigolion oedd i chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch dros ryddid gan gynnwys neb llai na Michael Collins ei hun.
Does ryfedd i Fron-goch ennyn y teitl Prifysgol y Chwyldro. Yn wir, bedair blynedd yn ddiweddarach, pan roedd rhyfel annibyniaeth Iwerddon ar ei anterth, roedd wyth allan o 13 o aelodau prif gyngor Oglaigh na hEireann (yr IRA) yn raddedig o'r Brifysgol honno.
Mynd dan groen Does dim dadl felly ynglŷn â chyfraniad yr ardal ddiarffordd yma ym Meirionnydd i hanes ein cefndryd Celtaidd ond llai clir fu effaith presenoldeb y Gwyddelod arnom ni'r Cymry.
Ceisio mynd o dan groen yr agwedd honno o'r bennod hynod yma yn hanes y ddwy wlad wna cynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru, Fron-goch (teitl amlwg, ta be?).
Lladd ei hun Yr awdur yw'r Prifardd Ifor ap Glyn sydd wedi seilio'r cynhyrchiad ar gymeriad o gig a gwaed fu â rhan amlwg ym mywyd y Gwyddelod yn Fron-goch.
Roedd y Dr David Peters yn feddyg teulu yn Y Bala ac fe'i penodwyd yn swyddog meddygol i'r gwersyll. Drwy ei lygaid a'i ymarweddiad o cawn brofi'r agwedd glasurol Gymreig pan ddaw hi'n fater o drafod y berthynas waedlyd rhwng Lloegr ac Iwerddon.
Ar y naill law mae greddf y cwlwm Celtaidd yn mynnu bod y frwydr dros hawliau'r Gwyddelod hefyd yn frwydr i ni'r Cymry, ond ar y llaw arall ni allwn, ar boen ein bywydau, ddatgan hynny'n gyhoeddus rhag troi'r drol yn Lloegr.
Yn achos Dr Peters roedd yn gallu uniaethu â safbwynt y rhai o dan ei ofal ond ar yr un pryd yn eu hamddifadu o driniaeth feddygol. Yn y diwedd bu'r cwbl yn ormod iddo ac fe'i lladdodd ei hun yn nyfroedd afon Tryweryn.
Richard Elfyn sy'n chwarae rhan Dr Peters ac mae'n gwneud hynny'n gynnil ac effeithiol tu hwnt.
Drwg a da Dau gymeriad arall sydd yna yn ymddangos ar lwyfan Fron-goch sef y swyddog milwrol, y Capten Bevan a'r carcharor Malone. Does dim cynildeb yma ac nid yw'r cynhyrchiad yn ymdrechu i guddio pwy o'r ddau gymeraid yw'r dyn drwg a phwy yw'r dyn da.
Mae'r naill yn olrhain ei dras Cymreig i'r Arglwydd Rhys ond wedi bradychu ei enedigaeth fraint am yrfa filwrol.
Mae'r llall hefyd wedi dewis llwybr y bwled a'r gwn ond er mwyn gwarchod ei etifeddiaeth, ei genedl a'i iaith. Mae'r gwrthdaro rhwng y ddau'n fynych a ffiaidd ac mae Michael Atkinson fel y Capten Bevan a Caoimhin O Conghaile, sy'n chwarae rhan Malone, yn porteadu eu cymeriadau'n gredadwy ac ar brydiau'n angerddol.
Lluniau fideo Mae gweddill y cymeriadau'n ymddangos drwy gyfrwng lluniau fideo. Er bod y symud mynych o'r sgriniau'n amharu peth ar rediad y perfformiad mae'r dechnoleg wedi gallogi'r awdur leoli rhai golygfeydd y tu allan i'r gwersyll.
Mae'r dadlau ar lawr TÅ·'r Cyffredin rhwng yr Ysgrifennydd Cartref, Herbert Samuel, a'r aelod seneddol Gwyddelig, Larry Ginnel, yn gweithio'n wych.
Felly hefyd y fam yn Iwerddon yn ysgrifennu at ei mab yn Fron-goch.
Ond efallai bod cynnwys Michael Collins (John Desmond) a Phennaeth Gwersyll Fron-goch, Y Cyrnol Frederick Arthur Heygate Lambert (Peter Lorenzelli) hefyd ar fideo yn or-ddefnydd o'r dechneg.
Ar ôl dweud hynny bydd y dechnoleg yn sicr o olygu arbedion sylweddol mewn costau teithio a llety actorion wrth i Fron-goch deithio theatrau Cymru ac Iwerddon dros yr wythnosau nesaf.
Tair iaith Mae Fron-goch yn ddrama dairieithog. Roedd yn rhaid iddi fod rhywsut. O ganlyniad mae'r lingua franca yn teyrnasu. Ceir cyfiethiadau Saesneg o gyfraniadau Cymraeg Dr Peters a'r Wyddeleg ddaw o enau Malone a'i fam wedi'u taflunio i'r llwyfan.
Bae Guantamano Cymru Mae Fron-goch yn ddrama ysgytwol. Mor hawdd fuasai rhamantu am gyfraniad aruchel y gwersyll i hanes Iwerddon ond llwyddodd Ifor ap Glyn osgoi hynny.
Wedi'r cwbl Fron-goch oedd Bae Guantanamo y dydd. Bae Guantanamo ar dir Cymru ac roedd amgylchiadau truenus yn aros y Gwyddelod ddaeth yno.
Yn Fron-goch mae Malone yn ynganu enw'r pentref fel Ffrangach. Francach yw'r gair Gwyddeleg am lygoden fawr.
Dyma fro Bob Roberts Tai'r Felin, dyma fro'r chwisgi Cymreig ac, wrth gwrs, dyma Fro Tryweryn.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|