| |
|
Life of Ryan - and Ronnie Rhwng dau
Adolygiad Gwyn Griffiths o gynhyrchiad Sgript Cymru o Life of Ryan . . . and Ronnie gydag Aled Pugh a Kai Owen. Yr oedd gwylio Aled Pugh yn chwarae rhan Ryan Davies yn Life of Ryan ... and Ronnie yn ysgytwol. Mae'r tebygrwydd rhyngddo a Ryan yn drawiadol i ddechrau .
Ychwaneger at hynny y symud a'r llais ac yr oedd gennych berffomiad syfdranol.
Ond beth am y ddrama ei hun? Drama am ddau y mae llawer yn dal i'w cofio ar lwyfan ac ar sgrîn fach - a rhai wedi gweithio gyda nhw.
Eto, gan i'r bartneriaeth chwalu ym 1974, a marwolaeth Ryan yn ddeugain oed dair blynedd wedi hynny, bydd llawer yn gwylio drama Meic Povey oedd heb eu geni pan oedd y ddau ar eu hanterth.
Her enbyd Dyna her enbyd y dramodydd, plesio'r ddwy gynulleidfa yma.
Cefais i fy mhlesio'n enfawr ond yr oeddwn i o gwmpas yn eu hoes euraidd ac, mewn ffordd fach, ymylol iawn, wedi gweithio gyda nhw.
Yr oedd Ryan yn ddawn amlochrog aruthrol a'r amlochredd hwnnw oedd un o'i broblemau. Gallasai fod yn actor o'r radd flaenaf ar unrhyw lwyfan ond fel digrifwr y gwnaeth ei farc ac yr oedd yn ganwr ardderchog a cherddor aml ei ddoniau.
Cyfansoddodd ganeuon sy'n parhau hyd heddiw'n boblogaidd ymhlith unawdwyr a chorau.
Ronnie hefyd Wedi ei danio â chynifer o ddoniau, rwy'n amau a wyddai ef ei hun i ble'n union i fynd a dyna dyndra mawr y ddrama hon.
Nid nad oedd gan Ronnie Williams ddoniau hefyd a hwyrach nad yw'r ddrama'n gwneud llwyr gyfiawnder â'r person a gofiaf i.
Ond at anghenion llwyfan rhaid creu cymhariaeth a gwrthdaro ac o safbwynt doniau, yr oedd Ryan ar blaned arall.
Cyfyngodd Meic Povey y stori - yn ddoeth iawn - i'r darn hwnnw o fywyd Ryan oedd yn ymwneud â'i bartneriaeth â Ronnie. Partneriaeth a bontiodd y llwyfan a'r teledu yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Ar y llwyfan yr oeddynt yn rhyfeddol lwyddiannus yn y ddwy iaith - er na chawsant, wedi eu cyfres gyntaf ar 91Èȱ¬1, yr un llwyddiant ar y rhwydwaith wedyn.
Mae'r awgrym pam yn y ddrama.
Islais o dyndra Mae islais o dyndra drwyddi. Tyndra'r stafell wisgo sydd weithiau'n berwi trosodd i'r llwyfan, er nad yw'r tyndra llwyfan mor gynnil ag y buaswn yn ei ddymuno.
Tyndra'r gorweithio a'r rhuthro gorffwyll o berfformiadau llwyfan yng Nghymru a Lloegr yn ôl i stiwdio deledu yng Nghaerdydd.
Yr yfed, wedyn, a syrffed ac oedi'r byd teledu oedd yn creu ei densiynau ei hun.
A thensiwn personol Ryan a wyddai fod ganddo'r ddawn i fod yn seren rhyngwladol ond bod Cymru a'i wreiddiau - heb sôn am Ronnie - yn dal gafael ynddo.
Yn ei gadw i droi ymysg doniau llai fel Tony ac Aloma a'r Hennessys.
Yr oedd y clipiau o'r recordiau hynny'n awgrym cynnil iawn o sut berfformwyr oedd yn rhannu llwyfan gyda nhw.
Llawer o'r doniolwch Cawn lawer o'r doniolwch a nodweddai berfformiadau'r ddau, yn arbennig rhan Ryan ynddyn nhw.
Mewn un olygfa mae Ryan yn ymddihatru o'i wisg 'Phylis y barmêd', yn tynnu pâr o sanau o'r bra a'u gwisgo am ei draed tra'n parhau i siarad. Yn union fel yr hen Ryan go iawn.
Wrth i'r ddrama ymadael â Chaerdydd gall y ddau actor ddisgwyl cynulleidfaoedd gyda mwy o gydymdeimlad â rhannau doniol y ddrama.
Tebyg y bydd yr agwedd hon o'r perfformiad yn gwella wrth i amseru'r ddau actor wella hefyd.
Creu campwaith Creodd Meic Povey gampwaith. Gwyddom ei fod yn feistr ar ddeialog yn y Saesneg fel ag yn Gymraeg.
Mae i'r ddrama amryw lefelau a chyfeiriadau cynnil. Mae'n gyrru 'mlaen - mae mynd iddi, a bydd mynd arni, hefyd.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|