|
Marat - Sade Adolygiad o addasiad Cymraeg o ddrama Peter Weiss
Adolygiad Glyn Evans o Marat - Sade. Cynhyrchiad myfyrwyr Adran Gyfathrebu Prifysgol Cymru Bangor o ddrama Peter Weiss wedi ei haddasu i'r Gymraeg gan Nic Ros.
Bu hen garchar Biwmares yn lleoliad effeithiol ar gyfer perfformiad myfyrwyr Cwrs Cyfathrebu Prifysgol Bangor o ddrama ysgytwol Peter Weiss, Marat - Sade.
Ers ei pherfformio gyntaf yn 1964 bu Marat Sade - neu, a rhoi iddi ei theitl llawn, Erlyniad A Llofruddiaeth Jean Paul Marat, Wedi'i Pherfformio Gan Gleifion Ysbyty Meddwl Charenton Dan Gyfarwyddyd y Marquis De Sade- yn garreg filltir theatrig fel yr enghraifft enwocaf o'r hyn sy'n cael ei alw yn theatr creulondeb lle mae gair ac emosiwn yn cordeddu'n ddidostur i greu profiad i'w gofio.
Dianc rhag Natsïaid Yn Almaenwr o dras, daeth Weiss, i amlygrwydd ddechrau'r chwedegau yng Ngorllewin yr Almaen.
Ym Merlin y'i ganwyd, yn 1916, lle'r oedd ei dad yn berchen ffatri deunyddiau a'i fam yn actores.
Ond, a'i dad o dras Iddewig, ffodd y teulu i Loegr yn 1934 yn sgil twf Natsïaeth gan symud wedyn i Sweden yn 1939 ac yno y treuliodd Weiss weddill ei fywyd a dod yn un o ddinasyddion y wlad.
Arlunio yn gyntaf Arlunwaith oedd ei ddiddordeb celfyddydol cyntaf gan ddod dan ddylanwad swrealwyr fel Salvador Dali a Max Ernst.
Dilynodd y dylanwadau hynny ef pan drodd ei olygon at y theatr ac mae hynny i'w weld yn holl gysyniad yr enwocaf o'i ddramâu, Marat - Sade
Yn wir, nid yn unig yr oedd hon yn garreg filltir artistig yn hanes Weiss ond yn garreg filltir hefyd o ran cynnwys gwleidyddol a'i ddaliadau sosialaidd.
Yn her Byddai Marat - Sade yn her i unrhyw gwmni a rhaid edmygu myfyrwyr Bangor am ymdaflu i'r her honno a gwneud hynny dan amgylchiadau mor 'arbrofol' trwy hepgor y dull traddodiadol o berfformio ar lwyfan.
Drama wedi ei lleoli yn seilam neu wallgofdy Charenton yn Ffrainc toc wedi'r Chwyldro Ffrengig ydi Marat - Sade a hynny'n rhoi'r cyfle i Weiss drafod yr hyn a alwodd ef mewn cyd-destun arall yn "bob eithafrwydd a syniad gwyllt heb orfod gofyn beth maen nhw'n ei olygu."
Ffaith a ffantasi Disgrifiwyd hi fel cyfuniad o ffeithiau hanesyddol ac o ffantasiâu dramatig a hynny yn ychwanegu at yr haenau o ystyron a dehongliadau.
Cyflwynwyd haen newydd i 'gynhyrchiad Carchar Biwmares' Nic Ros a ddewisodd leoli'r ddrama yn adran y merched yng ngwallgofdy Charenton.
Merch. Felly, sy'n chwarae rhan Marat.
Lle go iawn Ond cymerwn gam yn ôl cyn troi at hynny er mwyn egluro fod Charenton yn wallgofdy go iawn yn cael ei redeg gan yr Abbe Coulmier a hoffai feddwl amdano'i hun fel un blaengar yn ei driniaeth o gleifion salwch meddwl.
Hoffai wahodd pwysigion lleol yno i ddangos iddyn nhw ei therapïau ar waith.
Un o 'gleifion' enwocaf y sefydliad oedd y Marquis de Sade wedi ei garcharu yno yng nghanol y gwallgofiaid am "beryglu moesau'r cyhoedd".
Cychwynnodd y ddrama Gymraeg yng nghyntedd carchar Biwmares - a gynrychiolai Charenton - gyda Coulmier (Dafydd Wyn Jones) a'i staff yn ein croesawu yno a'n gwahodd i gael ei harwain o gwmpas y sefydliad, cyfarfod rhai o'r cleifion a gweld yr hyn a dybiai ef oedd yn waith da ac arloesol a wnaed gyda hwy.
I gyd yn fechgyn tal, trwsiadus yn nillad y cyfnod, roedd ffurfioldeb y croeso yn y lled dywyllwch yn effeithiol iawn.
Er y gallai'r profiad annisgwyl hwn o orfod crwydro i fyny ac i lawr grisiau cerrig, culion, o gell i gell, fod wedi peri ansicrwydd ymhlith rhai sydd wedi arfer bod yn gynulleidfa oddefol gweithiodd yn ddigon da gan lwyddo i greu'r syniad o anesmwythyd o fod ymhlith pobl yr oeddem yn ansicr ohonyn nhw ac a allai fod yn beryglus.
Ychwanegai agwedd led ddifrïol, led ysgafn, y gwarchodwr tuag at y cleifion at yr awyrgylch.
Gwahoddiad i wylio Diwedd y daith oedd capel bychan y gwallgofdy lle'n gwahoddwyd gan Coulmier i wylio criw o gleifion benywaidd yn perfformio, fel rhan o'u therapi arloesol, ddrama a sgrifennwyd ac a gynhyrchwyd gan de Sade (Dafydd Rhun).
Ac yr oedd hyn, cofier, yn rhywbeth a ddigwyddai'n go iawn yn y Charenton go iawn.
Mae'r ddrama a berfformir i ni yn nrama Weiss yn ymwneud â llofruddio un o arweinwyr y Chwyldro Ffrengig, Jean-Paul Marat (Lois Cernyw) yn ei fath gan leian o'r enw Charlotte Corday (Ann Barker) oedd o blaid y frenhiniaeth.
Gydol y perfformiad mae 'Marat' mewn bath o ddŵr yng nghanol y llawr.
Mae'n hanesyddol gywir i Marat gael ei lofruddio gan Corday yn ei fath ond yn achos y perfformiad hwn mae'r bath hefyd yn rhan o therapi dŵr newydd Coulmier i helpu'r ferch sy'n chwarae rhan Marat.
Syniadau chwyldro Wrth i'r perfformiad fynd rhagddo buan iawn y sylweddolwn fod hwn, o safbwynt de Sade, yn llawer iawn mwy na chyfle i gynnig therapi ond, yn hytrach, yn gyfle iddo ef ddefnyddio'r cleifion i roi llais i'w syniadau ei hun ynglŷn â rhyddid, chwyldro, hawliau'r bobl a hyd yn oed natur gwallgofrwydd ei hun.
O flaen ei lygaid - a ger ein bron ni y bobl bwysig y mae wedi eu gwahodd i weld ei ddulliau arloesol o drin cleifion yn gweithio - gwêl Coulmier y cyfan yn datod ac yn chwalu allan o reolaeth a hynny yn ei orfodi i dorri ar draws y perfformiad sawl tro mewn ymgais i ffrwyno de Sade cyn i'r cyfan droi'n afreoleidra llwyr.
Ar yr un pryd mae hi'n troi'n ddadl syniadau rhwng de Sade a Marat a'r cyfan yn creu awyrgylch o densiwn wrth i Coulmier a de Sade golli gafael ar y sefyllfa a'r cleifion yn troi'n fwy a mwy bygythiol a gorffwyll wedi eu tanio gan syniadau.
Mor agos Ychwanegir at y tyndra hwnnw gan ein bod fel cynulleidfa mor agos ac mor glos at y perfformwyr. Ni yw'r 'bobl bwysig' yn eu canol ac yn darged uniongyrchol rhai o sylwadau'r cleifion.
Mae'r diweddglo yn bwerus, treisgar ac ysgytwol.
Rheswm da Gwnaed defnydd ardderchog o'r awyrgylch a gynigiai hen garchar Biwmares - yn enwedig o safbwynt y sain y gellid ei gynhyrchu yno. Nid gimic oedd perfformio yno - yr oedd pwrpas i'r peth.
Roedd y sgrechiadau, a'r synau eraill 'all-lwyfan', yn iasol o effeithiol.
Efallai y gallwyd fod wedi gwneud mwy o anniddigrwydd Coulmier wrth iddo weld y perfformiad yn llithro o'i reolaeth - ond gan ei fod ef yn eistedd y tu cefn i gynulleidfa'r capel tebyg nad amharodd hynny yn fawr ar fwynhad neb.
Perfformiadau Cafwyd perfformiad unigol canmoladwy gan Lois Cernyw er gwaethaf ei anghyfforddusrwydd o fod yn chwarae rhan Marat mewn bath o ddŵr!
Yr oedd yn dra effeithiol yn newid ei hwyliau, oherwydd ei pharanoia, a'i gwahanol ddulliau o ynganu geiriau Marat yn adlewyrchu ei chyflwr mewnol ei hun fel claf.
Yr un modd Ann Barker fel Corday oedd ar adegau yn addfwyn ar adegau yn sinistr - yn glaf ac yn gymeriad mewn drama.
Er mai rhan ymylol oedd iddi hi fel rhan o gorws effeithiol tynnodd Elin Davies sylw fel Francesca, merch y stryd yn dioddef o un o glefydau ei bywoliaeth.
Bu sawl ysgytwad ddramatig yn ystod y perfformiad - mewn gair a gweithred - ond yn ogystal a bod yn her i berfformwyr a chynhyrchydd mae Marat - Sade yn her i gynulleidfa nid yn unig o ran syniadaeth ond o ran ei hadeiladwaith.
Mae'n galw am fwy nag un gwrandawiad.
Gyda'r cymhlethdod hwnnw mewn golwg byddai wedi bod yn gaffaeliad cael rhaglen ar gyfer y perfformiad gyda rhywfaint o gyflwyniad i'r gwaith a'i gysyniadau ac yn nodi, wrth gwrs, pwy chwaraeai y gwahanol rannau.
Roedden nhw a'r cynhyrchydd yn haeddu cydnabyddiaeth am roi inni brofiad i gnoi cil arno.
Cysylltiadau Perthnasol
|
caernarfon welais yr ddrama ac oedd yn un dda iawn
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|