Adolygiad Glyn Evans o Bryn Gobaith gan Gruffudd Jones. Cwmni Glass Shot. Ar daith drwy Gymru Ebrill a Mai 2008.
Heb os y mae pwnc y ddrama hon yn un y mae gofyn ymdrin ag ef - yn enwedig yn ystod cyfnod yn ein hanes cymdeithasol pan yw henaint a'r henoed yn cael eu hystyried yn "broblem".
Mae'r gair 'baich' yn un sy'n cael ei ddefnyddio'n aml yn y cyswllt hwn - gan y ddwy ochr i'r 'broblem'. Y naill yn ofni y daw yr hen yn faich iddyn nhw a'r henoed yn ofni bod "yn faich".
Yn wir, mae'n syndod nad yw'n bwnc sydd wedi ennyn sylw a diddordeb mwy o ysgrifenwyr Cymraeg ond prin fu'r sgrifennu amdano er bod y ffilmiau teledu, Nel ac Oed yr Addewid lle mae cymeriad Stewart Jones yn cael ei hun mewn cartref henoed, yn gerrig milltir trawiadol.
Mae Bryn Gobaith yn mynd a ni i'r un tir er nad mor drawiadol â ffilm deledu Emlyn Williams. Ond bosib bod cyfyngiadau ariannol ar Gruffudd Jones yr awdur a'r cyfarwyddwr.
Athrawes wedi ymddeol
Er bod tri phrif gymeriad yn Bryn Gobaith dim ond dau sydd ar y llwyfan - Megan, yr hen wraig, (Dora Jones) a'i nai, Dafydd (Dafydd Dafis).
Ond cyn bwysiced cymeriad â'r ddau ohonyn nhw ydi Rhys, mab Megan na ddown i'w adnabod ond trwy gysylltiad Dafydd ag ef.
Athrawes wedi ymddeol ac yn byw ar ei phen ei hun ym Mryn Gobaith ers i'w gŵr farw ugain mlynedd yn ôl yw Megan.
Mae'n wraig annibynnol, yn abl i edrych ar ei hôl ei hun ac yn gwbl o gwmpas ei phethau ar wahân i'r arwyddion henaint a ddaw i ran y rhan fwyaf o bobl fel methu cofio ambell i beth.
Mae'n treulio "hanner yr amser yn crwydro o stafell i stafell yn chwilio am bethau; a'r hanner arall yn trio cofio am beth oeddwn i'n chwilio," meddai.
Ond dydi'r peth ddim yn boen nac yn bryder iddi hi.
Cael codwm
Fodd bynnag, daw tro ar fyd pan gaiff ei gorfodi i adael Bryn Gobaith i gartref gofal yn dilyn codwm ddrwg.
Yno, mae'n dirywio'n sydyn. Yn mynd i'w chragen; a phan ymwêl Dafydd ei nai o Lundain â hi mae hi â'i phen yn ei phlu ac yn hynod o ofnus.
Dafydd yw ei hunig gyswllt â'r byd oddi allan gan fod ei mab wedi troi cefn arni i bob pwrpas gyda'i ddyletswyddau teuluol ei hun yn golygu na all ofalu am Megan ar ei aelwyd ei hun.
Y gwir yw fod Megan wedi ei dympio.
Daw yn amlwg yn fuan; er mai ei mab yw ei pherthynas agosaf, Dafydd yw cannwyll ei llygaid a hynny'n achos tyndra rhwng y ddau gefnder gyda'r mab yn cyhuddo'r nai o ymyrryd a bod yn hunangyfiawn a nawddoglyd.
Mae'r modd y datblygodd y berthynas rhwng Megan a Dafydd yn cael ei olrhain drwy nifer o 'flashbacks' a thrwy gyfrwng y rheini gallwn ninnau gymharu y Megan fywiog, ddeallus, a ymunodd â phrotest menywod Greenham Common er enghraifft, a'r Fegan encilgar sydd bellach ofn ei chysgod ei hun a'i gorffennol yn gawdel dryslyd yn ei phen.
Ddim yn ddieithr
I rai sy'n gyfarwydd â chartrefi preswyl ni fydd y senario yn un ddieithr nac yn un arbennig o eithriadol ac mae'n arwyddocaol mai taith a chynhyrchiad mewn cydweithrediad ag Age Concern yw Bryn Gobaith ac yn rhan o'r hyn sy'n cael ei galw yn Ŵyl Wanwyn y mudiad hwnnw.
Y mae yn gynhyrchiad teimladwy ac y mae ambell i olygfa rymus sy'n elwa o fod yn gynnil hefyd.
Cyfleu "yr angen am urddas, pwysigrwydd atgofion a straeon a'r hyn sy'n cysylltu'r ifanc a'r henoed," ddywedodd Gruffudd Jones fu'n sbardun i'w ddrama - y gyntaf i'w pherfformio gan gwmni Glass Shot sydd wedi gosod iddo'i hun y nod o berfformio "mewn ffyrdd hyblyg, dyfeisgar ac amrywiol."
"Amcan y daith hon yw i gymryd theatr ddiddan, gyffrous a pherthnasol i gymunedau nad ydynt o reidrwydd yn cael y cyfle i brofi hynny yn eu cynefin yn rheolaidd," meddai Rhys Miles Thomas, cyfarwyddwr rheoli Glass Shot.
Yn amlwg, mae'r pwnc a sefyllfaoedd Bryn Gobaith yn rhai dwys - er bod yna fflachiadau o hiwmor hefyd ar y cychwyn fel yr olygfa lle mae Megan yn cwyno am y ffaith fod pobl yn cwyno gymaint am gymaint o bethau.
Ond wrth i'r dwyster ddwysau, fel petai, mae peryg i'r gynulleidfa gael ei llethu ac i'r stori lusgo - yn enwedig gan fod tuedd i fod yn ailadroddus mewn cynhyrchiad sydd weithiau'n ein hatgoffa o theatr mewn addysg.
Ond y mae golygfeydd i sobri rhywun a'n gorfodi i feddwl o ddifrif am bwnc y mae cymaint tuedd i gymdeithas ei wthio i gefn ei meddwl.
Er i straeon am gamdriniaeth syfrdanol gyrraedd y penawdau weithiau dydy gwarth yr esgeulustod tawel hwnnw a'r bygwth cudd a brofir gan rai fel Megan ddim yn gweld golau dydd.
Y gwarth hwnnw - y camdrin nad yw'n gadael cleisiau ar y cnawd ond ar y meddwl yw pwnc difrifol Bryn Gobaith ac er nad yw'n bodloni'n llwyr fel cynhyrchiad theatraidd ni ellir ond diolch am y proc i'n cydwybod.
Gweddill y Daith