|
Llyfr Mawr y Plant Adolygiad Alwyn Gruffydd
Adolygiad Alwyn Gruffydd o Llyfr Mawr y Plant. Cynhyrchiad Theatr Bara Caws ar y cyd â Theatr Gwynedd a Galeri. Perfformiad cyntaf yn Theatr Gwynedd, nos Sadwrn, Hydref 4, 2008.
O Barc Asterix i Lyn y Felin
Yn fy oed a'm hamser ymwelais, megis plentyn, â Pharc Asterix ar gyrion Paris. Yno ceir pob mathau o weithgareddau ac atyniadau'n gysylltiedig â chreadigaeth hynod yr awdur René Goscinny a'r artist Albert Uderzo.
Cyfieithwyd eu llyfrau a bellach ceir hanesion y Galiad bach anorchfygol yn herio holl rym yr ymerodraeth Rufeinig yn bron bob iaith yn y byd - gan gynnwys yn y Gymraeg diolch i weledigaeth Gwasg y Dref Wen.
Ond un o uchelbwyntiau fy ymweliad â Pharc Asterix oedd mynychu amffitheatr awyr agored yno a'm cael fy hun ymysg plant o bob cwr. Beth bynnag eu hiaith, hil, cred neu liw roedd eu croeso i ymddangosiad eu harwr Asterix ac yn arbennig ei gyfaill triw ac annwyl, Obelix, yn unfryd a digymell.
Cymwynas ddigymar
Dyna'n union fel ag yr oedd hi yn Theatr Gwynedd Bangor ar noson gyntaf cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws - cynhyrchiad sydd wedi'i selio ar gymwynas ddigymar J O Williams a Jennie Thomas i lenyddiaeth plant Cymru, sef dim llai na Llyfr Mawr y Plant.
Ni chredaf i mi erioed weld cymaint o ystod oedran mewn un cynulleidfa. Roedd yno bobl ifanc - rhai'n ifanc iawn - a phobl hÅ·n - rhai'n hen iawn.
Ond o ystyried i gyfrol gyntaf Llyfr Mawr y Plant weld golau dydd bron i 80 mlynedd yn ôl roedd pawb yno wedi gallu profi gwefr plentyn o fyseddu rhwng cloriau un os nad mwy o'r tair cyfrol terfynol ac yn uniaethu'n syth ag anturiaethau Wil Cwac Cwac, Siôn Blewyn Coch, Cochyn y Wiwer ac eraill. Roedd y cymeriadau'n adnabyddus i bawb yno.
Sioe gredadwy Ar ôl dweud hynny nid gorchwyl hawdd yw trosglwyddo cymeriad llenyddol i'r llwyfan - wedi'r cwbwl rydan ni i gyd â'n drychlun ein hunain. Ond mae'r clod diamwys y tro yma i'r sgriptwr Gareth F Williams a'r Cyfarwyddwr, Tony Llewelyn, am eu llwyddiant yn troi eiconau llenyddol yn sioe lwyfan gredadwy, ddifyr ac odiaeth o ffyddlon i'r gwreiddiol.
Roedd hyd yn oed hunllef ysgytwol Eban Jones yn llawn mor ddychrynllyd!
Sioe, medda fi.
Wel ia, oherwydd mai cymysgedd o sioe gerdd a phantomeim gyda phinsied bach o hen, hen, ddull chwarae anterliwt yw'r cynhyrchiad.
Y llefarydd, sy'n clymu'r cwbwl at ei gilydd, yw'r cymeriad hoffus hwnnw, Twm Larwm, a chwaraewyd mor ddeheuig a doniol ag arfer gan Eilir Ffarmwr Ffowc Jones.
Plentyndod Y thema, os thema hefyd, yw plentyndod a'n gallu ni i gyd, beth bynnag ein hoedran, i ddychwelyd yn feddyliol, beth bynnag, i'r dyddiau dedwydd hynny.
Troi cloc Cwm Amser fel petai, sef yr union beth y bu'n rhaid i J.O. Williams a Jennie Thomas ei wneud, bid siŵr, cyn ein cyflwyno gyda hanesion gydiodd yn nychymyg cenedlaethau o blant Cymru.
Gyda hynny mewn cof, yr hyn a geir mewn gwirionedd yn y sioe yw cyfres o olygfeydd - rhai'n gorgyffwrdd - eraill yn sefyll yn solet ar eu pennau eu hunain - ond pob un yn neidio o dudalennau dwy, beth bynnag, o'r tair cyfrol.
I ddechrau daw Wil Cwac Cwac ei hun gydag Ifan Twrci Tenau, Dic Pen Moel, Twm Tatws Oer, Bob Dwdldŵ, Huw Herc a Ned Trwyn Smwt wrth ei gwt.
Roedd eu rhialtwch yn heintus ac erys eu caneuon, Hogia'r Buarth ac wedyn How Di Ho (gyda Tomos a Begw), ymysg y cyfraniadau cerddorol mwyaf cofiadwy'r cynhyrchiad.
Chwaraewyd rhan Wil ei hun yn effeithiol gan un arall o actorion comedi gorau'r ddrama Gymraeg, Iwan Charles.
Pymtheg o ganeuon Yna cawn hanesion y cymeriadau eraill fu'n swyno ein plentyndod gyda chyfeiriadaeth a dyfyniadau cerddi fel Ddim Hanner Da, Pocedi, Guto TÅ· Gwyn a'r Dyn Eira hefyd yn britho'r cynhyrchiad.
Pymtheg o ganeuon i gyd, o eiddo Catrin Edwards, gydag Emyr Rhys yn arwain y pedwarawd offerynnol fu'n darparu'r gerddoriaeth.
Coreograffwyd y sioe gan Cai Tomos ac mae dawn y dawnsiwr ifanc yma o Ddolgellau i'w weld yn treiddio i sawl golygfa.
Ond beth bynnag ei ddawn mae'n rhaid i goreograffydd hefyd gael ei esgyrn sychion a'r tro hwn mae'n rhaid llongyfarch Carys Gwilym a'r fythol ifanc Siân James am eu symudiadau byrlymus a heini.
Yn union Roedd portread Catrin Jane Evans o Siân Slei Bach hefyd yn union fel y bu i mi ddychmygu'r lwynoges erioed ac roedd yr agweddau seicopathig yng nghymeriad Eban Jones yn ddychryn o amlwg ym mherfformiad Neil Williams.
Yr actorion eraill oedd Delyth Eirwyn, Merfyn Pierce Jones, Siwan Llynor, Arwel Wyn Roberts (un o'r lleisiau gorau) a Darren Stokes. Pob un yn rhoi cyflwyniad o safon.
Roedd y gwisgoedd yng ngofal Aimi Hopkins sydd yn ei geiriau ei hun yn y rhaglen wedi "bod yn driw i'r cymeriadau" ond "yn dipyn o benbleth be i neud efo'r cynffonnau". Penbleth neu beidio bu'r cyfanwaith yn drawiadol o addas.
Taro deuddeg Gair bach am y set i gloi. Yn ôl ei arfer llwyddodd y cynllunydd Matrin Morley daro deuddeg unwaith eto gyda set sy'n creu'r awyrgylch a'r naws i'r blewyn.
Bu cyfraniad Martin i'r theatr Gymraeg yn amhrisiadwy. Gan mai fo ddyluniodd y set at gyfer y perfformiad cyntaf erioed ar lwyfan Theatr Gwynedd roedd hi'n gwbl briodol mai fo hefyd ddyluniodd set y perfformiad olaf.
Ewch i weld Llyfr Mawr y Plant, da chi. Mae'n wledd i'r llygad a'r glust. Mae'n falm i'r enaid.
Byddwch yn blentyn unwaith eto.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am 'Llyfr Mawr y Plant'
|
|
|