| |
|
Panto Penweddig 2006 Gwaith caled a hwyl
gan Carys Mair Davies Eleni, yr oeddwn yn un o dîm rheoli Pantomeim Nadolig Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, ac heb os nac oni bai - 'roedd hi'n fraint!!!
Yn hwyl Perfformiwyd stori ddifyr iawn gan rai o ddisgyblion blynyddoedd saith, wyth a naw i weddill y disgyblion a'u ffrindiau brynhawn Mercher, Rhagfyr 20, 2006.
'Roedd llawer o waith i'w wneud mewn ychydig amser gyda'r tîm rheoli wedi cyfarfod bob amser cinio i lunio stori ddiddorol, sgript addas a chymeriadau cofiadwy.
' Roedd hynny ynddo'i hunan yn hwyl gan i lawer o syniadau dwl a dylach gael eu taflu o bob cyfeiriad wrth i'r tîm glosio at ei gilydd.
Dewis actorion Ar ôl cwblhau'r sgript 'roedd hi'n bryd castio'r cymeriadau gyda chyfarfod i unrhyw un o flynyddoedd saith i naw geisio am y prif rannau ynghyd â'r rhannau llai amlwg.
Daeth degau o ddisgyblion brwdfrydig ac eiddgar i'r cyfarfod a dewiswyd cymeriadau drwy gynnal gwahanol ymarferion er mwyn i'r criw rheoli fedru gweld cryfderau a gwendidau pob disgybl.
Yna, aethpwyd ati i roi'r sgript ar lwyfan!! Cymeriadau enwog allan o gartwnau oedd yn y ddrama ac 'roedd hyn yn ei gwneud yn stori ddoniolach fyth.
Chwilio am gneuen Dilynai'r stori daith Shrek, Fiona, Donci a Gwiwer i adfeddiannu cneuen hollbwysig 'Meseia'r Byd'.
Collwyd y gneuen pan gwympodd y wiwer oedd i fod i'w gwarchod i gysgu a chaniatáu i Bad Barry ei dwyn.
Pan ddarganfu Shrek, Fiona, Donci a'r Wiwer fod y gneuen ar goll cychwynnwyd ar y daith hir i chwilio amdani.
Ar y ffordd maent yn cyfarfod Y Chwiorydd Hyll, Robin Hood a'i ddynion, y Pitws, criw YMCA, criw Amarillo, Sïon Corn a'r corachod sy'n ymuno â nhw i chwilio am y gneuen.
Unwaith iddynt gyrraedd Lapland doedd hyd yn oed Sion Corn ddim yn gwybod dim am hanes y gneuen a dechreuwyd colli gobaith.
Ond fel gyda phob stori dda arall mae'r arwyr yn llwyddo ac yn darganfod cuddfan Bad Barry a'ry gneuen.
Cymeradwyaeth a chwerthin Roedd yn banto a enillodd gymeradwyaeth y gynulleidfa oedd yn chwerthin ac yn bloeddio.
Gan fod y gwylwyr yn adnabod yn barod gymeriadau fel Eira Wen, Shrek a Robin Hood, 'roeddent yn gallu uniaethu'n fwy â hwy na phe byddem wedi creu cymeriadau newydd sbon.
Ffactor pwysig arall oedd y gwisgoedd amryliw a chafwyd Donci a Gwiwer hynod gredadwy yn eu gwisgoedd ffwr a Sion Corn effeithiol â'i farf wen hir wedi'i staenio gan ei fantell goch.
'Roedd y chwiorydd hyll cyn hylled ag erioed yn eu colur dros ben llestri a'u boob tubes a'u sgertiau mini disglair!!!
Credaf i'r gwisgoedd wneud y pantomeim yn un cyflawn ac hebddynt ni fuasai'r perfformio gystal.
Tipyn o sylw Cafodd y pantomeim gryn dipyn o sylw. Bu merch o Radio Ceredigion yn recordio rhai golygfeydd a chaneuon ac yn holi rhai o'r tîm rheoli a'r actorion a hynny'n hwb ychwanegol i'r actorion.
Roeddwn ar ben fy nigon o gael helpu i glymu'r holl linynnau ynghyd.
Do, bu'n rhaid ymarfer yn galed ac yr oedd yn straen ar y cychwyn ond - â'm llaw ar fy nghalon - ni fuaswn yn newid unrhyw beth a ddigwyddodd.
Aeth y perfformiad yn dda ac heb os nac oni bai cafodd y gynulleidfa wledd.
Bu'n banto bythgofiadwy a dweud y lleiaf!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|