|
Cymru Fach Gordd mewn siop llestri
Adolygiad Alwyn Gruffydd o Cymru Fach gan Wiliam Owen Roberts. Theatr Gwynedd, Bangor. Nos Sadwrn, Mawrth 11, 2006
Bu dychan â'i le amlwg yn ein llenyddiaeth dros y canrifoedd. Onid oedd y beirdd yn feistri ar y grefft o dynnu blewyn o drwyn y sawl a'u cynddeiriogwyd?
Bu'r dramodydd yntau yn aml "yn nes na'r hanesydd" wrth ymdrin, â'i dafod yn ei foch, â digwyddiadau'r dydd a'u heffeithiau.
Cofiwch i Saunders Lewis fynd i ddŵr poeth cyfreithiol wrth i'w ddrama ddadleuol, Exelsior, frathu'n rhy agos at y byw.
Yn yr un modd mae cynhyrchiad diweddaraf Scriptcymru, Cymru Fach gan y dramodydd toreithiog Wiliam Owen Roberts, yn gorwedd yn solet yn yr un dosbarth anrhydeddus.
Y cocynau hitio Fel y mae teitl y ddrama'n awgrymu yr hen genedl fach yma sydd o dan y chwyddwydr a'r cocynau hitio, yn ddisgwyliedig bron, yw'r cyfryngau, academia, hunanoldeb gwleidyddol, gwacter cymdeithas, ac, wrth gwrs, sbin.
Mae pawb dan ei lach felly. O Fwrdd yr Iaith i'r Brifysgol ac o gynhyrchwyr rhaglenni teledu i'r Cynulliad.
Ni chyfeirir at unrhyw unigolyn yn benodol o ran enw na gweithred yn Cymru Fach, ond mae rhywun yn adnabod y teip rhywsut.
Y prifathro coleg sy'n rhannu graddau am ffafrau rhywiol; y canwr pop sy'n godro pwrs y wlad ar gynllun diwerth a'r gwleidydd hunanol, hunanbwysig a diegwyddor.
Ein bogel ein hunain Edrych ar ein bogel ein hunain unwaith eto, meddech chi.
Wel ia, a pham lai.
Os na chawn ni'n hunain wneud hynny yna'n sicr nid oes gan neb arall yr hawl i roi eu trwyn i fewn i'n carped bag cenedlaethol.
Ond yr hyn sy'n gwneud dychan llwyddiannus yw ei ddeifioldeb a'i gynildeb.
Ni ellir honni am funud bod Cymru Fach yn rhoi llawer o bwys ar y naill elfen na'r llall a does dim dal yn ôl wrth i olygfa ar ôl golygfa ymdebygu i ordd mewn siop lestri.
Bron na theimlwn yr ordd fy hun ar adegau wrth i'r ergydion gael eu saethu fel pe byddent o un o beiriannau dieflig Richard Gatling ei hun.
Yr hyn yw Cymru Fach mewn gwirionedd yw "whinge" neu hyd yn oed "rant" hen ffasiwn, sy'n iawn yn ei le ond nad yw, efallai, at ddant pawb.
Digon o ryw Rhywbeth arall nad yw at ddant pawb - er, yn sicr, yn iawn yn ei le - yw rhyw, ac mae digon o hwnnw yn Cymru Fach - gormod o bosib gan golli pob effaith o'r herwydd.
Allan o ddeg golygfa i gyd mae yna weithred rywiol graffig o amlwg mewn pump ohonynt gydag awgrym gref o'r un peth mewn un olygfa arall.
Buasai Monica Lewinski'n uniaethu'n hawdd ag un rhan o'r ddrama hon!
Ofn chwerthin? Ond y mae yna hiwmor hefyd er ei syched. Gallech daeru bod y gynulleidfa y bûm i'n rhan ohoni yn Theatr Gwynedd ofn chwerthin ar adegau ond roedd yna linellau gwirioneddol ddigri yn Cymru Fach na chafodd ymateb teilwng.
Mae yna ddeg cymeriad a'r rheini i gyd yn cael eu chwarae'n effeithiol odiaeth gan bedwar actor - pob un yn llwyddo i greu cameo taclus o bob cymeriad yn ei dro.
Yr hen law yn eu plith oedd Gwyn Vaughan-Jones a chafwyd perfformiad clodwiw arferol ganddo fo drwyddi draw.
Wyneb cyfarwydd arall oedd y drawiadol Ffion Dafis. Unwaith eto cafwyd perfformiad haeddiannol er i ambell air fynd ar ddifancoll yn enwedig wrth iddi chwarae rhan y butain a'r weinyddes, Kerry-Ann.
Y llithro dros eiriau oedd gwendid mwyaf Siôn Pritchard hefyd.
Er mai brychau prin oedd y rhain drama i'w chlywed yn ogystal â'i gweld yw Cymru Fach. Mae'n hawdd iawn colli perlau gan mai bron na ddywedwn mai drama radio yw hi yn y bôn.
Y pedwerydd actor yw Sara Lloyd ac roedd pob gair ganddi fel cloch. Perfformiadau canmoladwy fel Avril ac fel Alison a rhaid llongyfarch y pedwar actor gogleddol fel ei gilydd ar ei hacenion deheuol. Nid camp fechan yn sicr.
Pa arwyddocâd? Guto Humphreys yw Cynllunydd y Set ac ni allaf yn fy myw a gweld beth oedd arwyddocâd y stondin deudwll oedd at y llwyfan gydol y perfformiad - stondin fu'n gyfrwng i arddangos pen ôl noeth yn ogystal â gweithredu fel ffug ddrych.
Ond ar ôl dweud hynny mae'n anodd dychmygu'r math o set fuasai'n addas ar gyfer Cymru Fach.
Wedi'r cwbl, mae deg golygfa mewn deg man gwahanol - er ei bod hi'n wir fod gwely o rhyw fath yn linyn sy'n cydio'n y rhan fwyaf o'r golygfeydd.
Ond, wrth gwrs, nid oes angen set o gwbl mewn drama radio!
Anghysurus Beth bynnag ei chyfrwng nid yw Cymru Fach yn ddrama gysurus.
Yn hynny o beth llwyddodd yn ddigamsyniol.
Mae rhwystredigaeth yr awdur yn amlwg wrth iddo geisio ymdopi'n feddyliol â'r Gymru sydd ohoni.
Wrth gwrs bod gwendidau ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel sydd ym mhob man - heb ei fai, heb ei eni - a diolch i ddrama fel hon am eu hamlygu. Dyna, wedi'r cwbl, yw gwerth dychan.
Mae hi'n arferiad bellach i Sgriptcymru gyhoeddi eu cynyrchiadau ac nid yw Cymru Fach yn eithriad.
Ond pwy yw'r ddau yn y llun ar glawr y cyhoeddiad yn ogystal ag ar ddeunydd hysbysebu'r ddrama?
Yn sicr nid yr actorion mohonynt. Efallai bod ychydig o werth i sbin wedi'r cwbl.
Cysylltiadau Perthnasol
Cymru Fach - y ffilm (2008)
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|