| |
|
Johnny Delaney Cynulleidfa yn ei dagrau
Adolygiad Gwyn Griffiths o gynhyrchiad Cwmni'r Fran Wen o Johnny Delaney Theatr yr Urdd, Caerdydd. 12 Mawrth 2008.
Y mae'n ffaith, yn ôl a ddywedwyd wrthyf gan rywun sy'n gweithio ym maes hawliau dynol, mai plant y gymuned o Deithwyr Gwyddelig yw'r rhai sy'n cael eu hesgeuluso fwyaf o blith pob grŵp ethnig lleiafrifol.
"Nhw, mae'n debyg," meddai, "yw'r plant dan fwyaf o berygl o bawb yn ein cyfundrefn addysg."
Mwyaf anweledig Dywedir, hefyd, mai y Teithwyr yw'r grŵp mwyaf "anweledig" o'r holl gymunedau ethnig.
"Too often out of sight and out of mind," meddai ffynhonnell arall.
Ni chofiaf erioed weld perfformiad theatrig a enynnodd gymaint o dristwch a dicter ynof â Johnny Delaney gan Cwmni'r Frân Wen.
Mae'r ddrama, a sgrifennwyd ac a gynhyrchwyd gan Iola Ynyr, yn ddarn syml o theatr ond yn costrelu peth wmbredd o bŵer, tyndra ac emosiwn.
Fe'i seiliwyd ar ymchwil na fedrai fod ond y mwyaf anodd a sensitif i ymgymryd ag e.
Mae'n amlwg i deulu Johnny ymddiried yn llwyr ynddi a rhoi pob cymorth iddi. Gwnaeth ddefnydd helaeth o eiriau'r diffynyddion a bargyfreithiwr yr erlyniad a roedd y llwyfannu yn briodol o syml a chynnil.
Ymosod Lladdwyd Johnny yn Ellesmere Port pan ymosodwyd arno gan lanciau lleol ar 28 Mai, 2003, bythefnos cyn ei ben-blwydd yn 16.
Yr oedd yn byw gyda'i rieni mewn gwersyll swyddogol yn Lerpwl, gwersyll wedi'i neilltuo ar gyfer Teithwyr. Wedi mynd i ymweld â ffrind mewn gwersyll answyddogol yn Ellesmere Port oedd e pan ymosodwyd arno gan y llanciau lleol.
Er gwaethaf dadleuon Heddlu Sir Gaer a Gwasanaeth Erlyn y Goron a thystiolaeth amryw fod hwn yn ymosodiad hiliol penderfynodd y Barnwr Richards mai ffrwgwd rhwng dau griw o lanciau oedd o a dynladdiad, nid llofruddiaeth oedd y ddedfryd.
Rhoddwyd pedair blynedd a hanner o garchar yr un i'r ddau euog a chawsant eu rhyddhau, un wedi dwy flynedd a hanner a'r llall ymhen dwy flynedd.
Anodd cytuno Yng ngeiriau Chris Myant o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru a arweiniodd drafodaeth fer wedi'r perfformiad, nid peth hawdd oedd cytuno gyda'r barnwr.
Nid ef yn unig oedd mewn penbleth.
Yr oedd nifer o'r plant yn y gynulleidfa - rwy'n tybio bod rhai o gymuned y Teithwyr yn bresennol - yn eu dagrau ac yn mynegi eu hannealltwriaeth o ddedfryd y barnwr yn groyw a ffyrnig.
"Y mae'n ddrama sy'n agos iawn atom ni sy'n gweithio yn y maes anodd hwn," ychwanegodd Mr Myant.
Yn y de "Cafodd y perfformiad hwn ei weld ledled y gogledd ond buaswn yn falch iawn pe byddai modd i gynulleidfaoedd ac ysgolion yn y de - yn enwedig yn Abertawe - ei gweld."
Yr oedd achos llys yn ymwneud â Theithwyr yn Abertawe i fod i gychwyn yng Nghaerdydd ar ddydd y perfformiad ond bu raid gohirio oherwydd salwch un o'r cyfreithwyr.
Ategwyd ei awgrym y dylai'r ddrama gael ei gweld gan gynulleidfa ehangach gan ŵr o Loegr sydd hefyd yn gweithio ym myd hiliaeth a hawliau dynol.
Yr oedd y perfformiad yn un o ddigwyddiadau Dydd y Cenhedloedd Unedig wedi ei drefnu gan Brosiect Croeso a bu dau ddigwyddiad yn ystod y bore yn adeilad y Cynulliad.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
|
|