| |
|
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod Yr anghytundeb yn parhau
Mae cynhyrchiad Cefin Roberts o Romeo a Juliet wedi achosi mwy o gynnwrf yn y theatre Gymraeg nag a welwyd ers tro byd.
Hyd yn oed ymhlith y rhai a fwynhaodd gyflwyniad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yr oedd gwahaniaeth barn ynglÅ·n a'i rinweddau a'i ffaeleddau.
Adlewyrchwyd y gwahaniaeth hwnnw pan ddaeth Paul Griffiths, Eiry Miles ac Arwel Rocet Jones at ei gilydd i drafod y ddrama ar raglen radio Y Celfyddydau a gyflwynir gan Beti George.
Yn cael ei holi ar gyfer y rhaglen dywedodd Cefin Roberts mai un o'i fwriadau ef fel cyfarwyddwr oedd gwneud y ddrama yn "hawdd i'w dilyn" i gynulleidfa ifanc yr oedd yn gobeithio ei denu i'w gweld.
Dewisodd hefyd, meddai, gyflwyno'r ddrama fel alegori.
Darnau Saesneg Yr oedd cytundeb rhwng y tri yn y stiwdio mai camgymeriad oedd cadw rhai darnau Saesneg o fewn y cyfieithiad Cymraeg.
"Aflwydd, be sy'n digwydd rwan," oedd ymateb Paul pan glywodd y geiriau Saesneg cyntaf meddai.
Dywedodd Arwel Rocet Jones ei fod o'n deall y syniad y tu ôl i ddefnyddio'r ddwy iaith ond ychwanegodd nad oedd y syniad wedi ei ddatblygu "yn ddigon cywrain".
"Os am i wneud o roedd yn rhaid iddo fod yn llawer iawn cynilach nag oedd o ac, yn anffodus, pan oeddan nhw'n llefaru'r llinellau Saesneg roedda nhw'n gwneud hynny yn llawer iawn gwell na'r Gymraeg!" meddai.
Canmolodd y symboliaeth a gyflwynwyd i'r ddrama gan fod hynny'n rhoi cyfle i ddod a dimensiwn cwbl Gymreig a Chymraeg i'r cynhyrchiad.
"A dwi'n credu fod Cefin i'w ganmol am hynny - dwi jyst yn cwestiynnu efallai y gellid fod wedi'i wneud mewn ffordd wahanol . . . roeddwn i'n teimlo i fod o wedi'i daflu i mewn i'r pwdin braidd yn hwyr," meddai.
"Ond ella mod i'n gwneud cam mawr iawn, iawn, ag o; ond roeddwn i'n teimlo'i fod o'n syn iad oedd wedi dod yn bur sydyn tua'r diwedd ac nad oedd oedd o ddim yna o'r cychwyn cyntaf ac yn rhan annatod o'r cyflwyniad," ychwaegodd.
Y cyfieithiad Dywedodd Eiry Miles nad oedd hi yn "rhy hoff" o gyfieithiad J T Jones o'r ddrama gan ei feirniadu am fod yn "gymysglyd" o ran arddull. "Weithiau roedd yr iaith yn ganoloesol . . . a'r munud nesaf roedd yna eiriau modern iawn," meddai.
Ond ychwanegodd bod y dewis o ddrama yn un "doeth" gyda'i hapel at yr ifanc ac yn ddewis a allai ddenu pobl i'r theatr na fyddent fel rheol yn mynd yno.
Y set Wrth drafod y set dywedodd Paul Griffiths ei bod yn llawer rhy gymhleth.
Ar ôl dweud iddo gael "gwefr" o'r olwg gyntaf ohoni ychwanegodd, "ond er mor drawiadol oedd o, doedd o ddim yn ymarferol," meddai.
Y perfformiadau Yr oedd gwahaniaeth barn ynglŷn â pherfformiadau unigol.hefyd gydag Arwel Rocet Jones yn cyfeirio'n arbennig at berfformiad Juliet fel un "da iawn".
Disgrifiodd Eiry Miles, hithau, ei pherfformiad fel un "hyfryd".
Ond yn ôl Paul Griffiths: "Fuaswn i ddim wedi syrthio mewn cariad efo Juliet yn ôl y perfformiad welais i . . . hi oedd y gwanaf o'r cast i mi."
Ond canmolodd berfformiad Romeo ac hefyd berfformiad Christine Pritchard fel Y Nyrs a oedd "wedi gafael yn y geiriau a'u taflu nhw allan"
Yr adeg hon y dywedodd Rocet ei fod yn dechrau amau a welodd y tri ohonyn nhw yr un ddrama gan ychwanegu i'r Romeo a welodd ef golli ei egni yn fuan iawn!
Cytunodd Eiry Miles na fwynhaodd hithau berfformiad Romeo o gwbl.
" Dim anwyldeb o gwbl," meddai gan ychwanegu nad oedd sbarc rhyngddo ef a Juliet.
Cyhuddodd rai o'r cymeriadau eraill o lefaru "fel pe na bydden nhw yn deall y geiriau ac awgrymodd y byddai Owain Arwyn wedi bod yn well fel Romeo.
Theatr genedlaethol? Ond doedd neb mor llawdrwm ar y cynhyrchiad ag y bu Ceri Sherlock ar Wythnos Gwilym Owen ac yn Golwg lle dywedodd nad oedd o safon theatr genedlaethol.
"Roeddwn yn teimlo ar y diwedd fod gennym ni theatr genedlaethol," meddai Arwel Jones gan ganmol Cefin Roberts am roi "rhywbeth gwahanol o'n blaenau".
"Mae ganddo fo job anodd denu pobl yn ôl i'r theatr ac os ydi Aberystwyth yn rhyw fath o linyn mesur - sydd wedi bod yn dlawd iawn ei chynulleidfaoedd - mae o'n llwyddo," meddai.
"Roedd Abertawe hefyd dan ei sang a phawb yn mwynhau . . . roedd rhywbeth yna at bawb," cytunodd Eiry Miles.
Mae Y Celfyddydau yn cael ei chyflwyno gan Beti George bob dydd Mercher a'i hailddarlledu bob Sul ar 91Èȱ¬ Radio Cymru.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|