91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Golygfa o'r sioeTwm Siôn Cati
Gwell na Robin Hood!

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Twm Siôn Cati. Sioe haf Theatr Arad Goch i blant 7-11 oed. Caerdydd. Mehefin 20, 2008


  • Golygfa o'r sioeAr drothwy'r pedwar cant
    Wn i ddim a fydd yna gofio y flwyddyn nesaf ond yn 2009 bydd yn bedwar can mlynedd union ers marw Thomas Jones, neu Twm Siôn Cati.

    Ceir cyfeiriad yn rhaglen y sioe lwyfan Twm Siôn Cati fod tua 400 o flynyddoedd ers i Twm fod yn crwydro daear ardal Tregaron. Wel, 1609 oedd blwyddyn ei farw.

    Wn i ddim ai dyma gychwyn cyfres o ddigwyddiadau i nodi'r dyddiad hwnnw a dathlu ei fywyd.
    Os felly, mae'n gychwyn addawol a theilwng.

    Ar y rhaglen a'r tocyn mynediad i'r sioe yn theatr The Gate, Caerdydd, cyfeiriwyd ato fel The Welsh Robin Hood.

    Ond fe ddylid cofio bod Twn Siôn Cati yn berson go iawn o gig a gwaed. Yn fardd, mae o leiaf un cywydd o'i waith wedi goroesi.
    Yn ŵr o ddiwylliant ac, ar ôl ymbarchuso, yn ddyn o ddylanwad.
    Ffrwyth dychymyg a chwedl yw Robin Hood.

    Ond wna i ddim edliw'r ystryw marchnata bach yna. Mae hon yn sioe sy'n haeddu'r gynulleidfa orau bosib.

    Pwysodd sgript Jeremy Turner yn drwm ar y chwedlau am Twm, rai ohonynt yn cael eu hadrodd hyd yn oed heddiw yn ardal Tregaron.

    Y cast A sgript llawn asbri oedd hi gyda'r actorion, Ffion Wyn Bowen; Emyr Bell, Lowri Sion, Marc Roberts, Ioan Gwyn, yn hoelio sylw llond y theatr o blant bywiog Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd a'u cadw'n gwrando'n astud am awr gyfan.

    Mae chwedloniaeth Twm yn addas iawn i blant.
    Triciau direidus sydd yma; twyllo'r barus a'r drwg o'u harian a'u heiddo gan roi'r ysbail i'r tlawd.

    Mae'r straeon a ddefnyddiwyd yn y sioe yn ddieithriad yn ddoniol a da - fel honno pan fo Twm gerbron llys a'r lle'n mynd braidd yn afreolus.
    "Clear the court," meddai'r barnwr, ac wrth i'r dorf gael ei hel allan mae Twm yntau yn diflannu gyda nhw.

    Rhaid imi ddweud gair am gwmni Arad Goch, rhywbeth sy'n gyffredin i bob un o'r cwmnïau Theatr Mewn Addysg y caf y cyfle i'w gweld o dro i dro. Mae eu cyflwyniadau yn gyson ardderchog ac yn wir addysgiadol.

    Mae'n hyfryd gweld ar y llwyfan yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn digwydd tu cefn i'r llenni, yr actorion yn newid cymeriadau drwy fymryn o newid gwisg ac osgo.

    Gwych o beth i danio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc.

    Sylwais fod Arad Goch yn cynnal sesiynau gloywi iaith i ddisgyblion ysgol ac er yn rhwydd ac ystwyth yr oedd iaith y sioe hon o ansawdd hyfryd.

    Trueni na fyddai rhai o bobol S4C yn gweld y sioe hon er mwyn gweld nad oes raid defnyddio bratiaith er mwyn ystwythder.

    Braf, hefyd, gweld dawnsio gwerin a chanu gwerin o'r cyfnod.

    Llongyfarchiadau i'r cast bob un am berfformio caboledig a hwyliog.

    Roeddwn yn falch gweld y sioe'n cael ei llwyfannu yn The Gate, theatr a chanolfan gelfyddydol a diwylliannol yn Y Rhath.
    Gwneir llawer iawn o waith da yma ac y mae seddau'r theatr, sef galeri hen gapel, yn gyffyrddus. Gwers i rai o theatrau eraill Caerdydd!

    Dyma fanylion gweddill y daith wedi Caerdydd:
    Golygfa o'r sioe Mae Twm Siôn Cati ar daith o amgylch Cymru gyda pherfformiadau Cymraeg a Saesneg.
  • 20.6.08 Y Gate, Y Rhath, Caerdydd 10.30 ; 1pm (Cymraeg) Menter Caerdydd 02920 565658
  • 23.6.08 Neuadd Dwyfor Pwllheli 1.30pm (Cymraeg) 01758 704088
  • 24.6.08 Neuadd Dwyfor Pwllheli 10am (Cymraeg); 1.30pm (Cymraeg) 01758 704088
  • 25.6.08 Galeri Caernarfon 1pm (Cymraeg) 01286 685222
  • 26.6.08 Theatr Gwynedd Bangor 1.30pm (Cymraeg) 01248 351708
  • 27.6.08 Theatr Gwynedd Bangor 10.30am (Cymraeg) 01248 351708
  • 30.6.08 Theatr Felinfach 1.30pm (Cymraeg) 01570 470697
  • 01.7.08 Theatr Elli Llanelli 1.15pm (Cymraeg) 0845 22635 08/09/10
  • 02.7.08 Theatr Elli Llanelli 10am (Cymraeg); 1.15pm (Saesneg) 0845 22635 08/09/10
  • 04.7.08 Theatr John Ambrose Rhuthun 10am (Cymraeg); 1.30pm (Saesneg) 01678 540528

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý