| |
|
Drws Arall i'r Coed Dramâu byrion newydd gan ddramodwyr ifanc newydd sy'n cael eu disgrifio fel dramodwyr clasurol y dyfodol yw cynnwys cynhyrchiad nesaf Sgript Cymru.
A bydd y dramâu yn cael eu perfformio yn y fath fodd y gellir eu mwynhau gan rai nad ydynt yn deall Cymraeg.
Y dramodwyr ifanc sy'n gysylltiedig â Drws Arall i'r Coed ydi, Gwyneth Glyn, Eurgain Haf, Dyfrig Jones, Caryl Lewis a Manon Wyn sy'n cael eu disgrifio gan Sgript Cymru fel "dramodwyr clasuron dramâu'r dyfodol".
Disgrifiwyd eu dramâu fel rhai "am ddyheadau a pherthnasau".
"Cyd ddigwyddiad yw bod y dramodwyr wedi rhoi ffocws ar gwpl ym mhob un ddrama - yn eu cyflwyno mewn moment hanfodol sy'n llawn emosiwn," meddai llefarydd ar ran Sgript Cymru.
O lonyddwch i ffraeo Ond mae natur y dramâu yn amrywio: "Dwi'n mynd o un ddrama lonydd a dofn i un arall llawn ffraeo ac emosiwn. Mae'n brosiect cyffroes, ac yn sialens," meddai Nia Magdalen, un o'r actorion.
Ac meddai Judith Roberts sy'n cyfarwyddo; "'Swn i'n licio gwybod pa berthynas sy'n diddori aelodau gwahanol o'r gynulleidfa. Mae pawb yn mynd i gydio ac uniaethu ag un o'r cyplau yma yn y dramâu."
Bydd taith y cwmni yn cychwyn yng Nghaerdydd ar Chwefor 2 gan ymweld â Phwllheli, Rhosllannerchrugopg, Bangor, Aberystwyth ac Abertawe.
Helpu'r di-Gymraeg A chyda thri o'r perfformiadau - yn Y Stwit, Rhosllannerchrugog, Chwefror 11; Theatr Dylan Thomas, Abertawe, Chwefror 23 a Chapter, Caerdydd, Chwefror 25 - defnyddir uwchdeitlau, fel sy'n boblogaidd gydag operâu, i helpu'r di-Gymraeg fwynhau'r dramâu.
Canmolodd Sgript Cymru lwyddiant y cynllun uwchdeitlau mewn cynhyrchiad o Amdani! gan Bethan Gwanas.
Meddai Arwel Gruffydd, un arall o'r actorion: "Os ydi'r theatr yn bwysig, yna mae ysgrifennu newydd yn hanfodol. Allwn ni ddim dibynnu ar repertoire sy'n bodoli'n barod. Llais ar gyfer heddiw ydi rhain."
A hithau wedi bod yn ysgrifennu gyda dramodwyr a chyfarwyddwyr gorau Cymru adleisiodd Eurgain Haf eiriau Meic Povey:
"M elli di stiwio amdano fo am flynyddoedd, ac mi ddaw wedyn mewn fflach."
Manylion y daith: Caerdydd: Chapter. Chwefror 2-5 8pm. Tocynnau: 029 2030 4400
Pwllheli: Neuadd Dwyfor. Chwefror 8 a 9 7.30. 01758 704 088
Rhosllannerchrugog: Y Stiwt. Chwefror 11 & 12. 8.00. 01978 841 300Uwchdeitlau Saesneg, Chwefror 11.
Bangor: Theatr Gwynedd. Chwefror 15 & 16. 7.30. 01248 351 708.
Aberystwyth: Canolfan y Celfyddydau. Chwefror 17 & 18. 7.30. 01970 623 232.
Abertawe: Theatr Dylan Thomas. Chwefror 22 & 23. 7.30. 08700 131 812. Uwchdeitlau Saesneg: 23.
Caerdydd: Chapter. Chwefror 25 & 26. 8.00. 029 2030 4400. Uwchdeitlau Saesneg: 25.
Y dramodwyr: Gwyneth Glyn - Yn wreiddiol o Lanarmon, Eifionydd. Bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Eurgain Haf - o Benisa'r-waun, ger Caernarfon. Bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Dyfrig Jone - o Fangor. Bellach yn byw ym Methesda.
Caryl Lewis - l o Ddihewyd ger Aberaeron. Bellach yn byw yn Goginan ger Aberystwyth.
Manon Wyn - o Landwrog. Bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Yr actorion:Huw Davies, Arwel Gruffydd, Mali Tudno Jones, Nia Magdalen.
Cyfarwyddwr: Judith Roberts. Cynllunydd: Sean Crowley. Cynllunydd Goleuo: Elinor Higgins. Cyfansoddwr: Osian Gwynedd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|