Rhy 'chydig o Gymraeg
Adolygiad o Huw Alun Foulkes
Café Cariad. Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Trueni mai dim ond unwaith y flwyddyn y mae Cwmni Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio.
Dyma gwmni sy'n gosod safon ar lwyfannau yn ystod yr haf ac wedi imi fwynhau cynyrchiadau'r gorffennol, nid oedd unrhyw amheuaeth y byddwn am weld y cynhyrchiad diweddaraf a hynny am fwy nag un rheswm.
Yn bennaf oherwydd mai sioe gerdd oedd hi eleni a hynny gan dri sy'n sicr o'u crefft; Tim Price, Jak Poore a Greg Cullen a oedd hefyd yn cyfarwyddo.
Amau'r penderfyniad
Fodd bynnag, yr oeddwn yn cwestiynu'r dewis o lwyfannu sioe gerdd a hynny am mai actorion oedd cynifer o'r cast yn hytrach na pherfformwyr.
Ond cofiaf i rywun ddweud wrthyf flynyddoedd yn ôl y dylai pob actor gwerth ei halen fod â llais canu yn ogystal â'r ddawn i actio; felly, roeddwn yn gobeithio am berfformiadau clodwiw.
Wrth reswm, mae'r disgwyliadau'n uchel wrth wylio unrhyw gynhyrchiad gan gwmni sy'n perfformio dan yr "Cenedlaethol" a llwyddodd geiriau'r cyfarwyddwr i'm darbwyllo y byddai hwn yn gynhyrchiad o safon.
"Ni aeth yr un sioe heibio dros y pum mlynedd diwethaf lle nad wyf wedi meddwl ein bod yn ceisio gwneud gormod. Nid yw Café Cariad yn eithriad i hyn ac rwy'n gobeithio y byddwn... wedi llwyddo i gyflawni her anhygoel."
Cymru a'r Eidal
Dros y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cynyrchiadau gan y cwmni oedd yn mynd i'r afael â rhai o ddigwyddiadau mwyaf amlwg y byd gwleidyddol yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Dyma hefyd fan cychwyn Café Cariad a'r stori yn pendilio rhwng Cymru a'r Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Troi o amgylch teulu'r Bracco yng nghyfnod Mussolini mae'r sioe gyda dau o'r cymeriadau, Simonetta a Giulio, yn ffoi i Gymru, i fyw ac i weithio yn nghaffi eu hewythr.
Daw'r ddau yn rhan o'r gymuned Eidalaidd a datblyga'r plot yn sylweddol wrth inni archwilio eu perthynas â'i gilydd yn ogystal ag eraill.
Yn amlwg, mae'n stori am gariad, a hynny ar lefel bersonol a rhyngwladol ond hefyd mae'n gyforiog o themâu sy'n cynnwys ofn, realiti a'r gwrthgyferbyniad cyson rhwng uno ac ymwrthod.
Mae'r archwilio i ddarganfod y gwirionedd o fewn yr unigolion yn ffactor bwysig yn enwedig mewn cyfnod mor ansicr a diobaith.
Perthynas
Gellir dadlau mai'r berthynas rhwng Giulio a Rhiannon sy'n tanio'r digwyddiadau ymysg y cymeriadau ymylol eraill. Mae'r cyfochredd rhwng y Gymraes a'r Eidalwr yn atseinio hanfod y ddrama gan ddangos y niferus ddeuoliaethau a'r gwahaniaethau sydd rhwng y ddwy wlad, eu diwylliant a'u traddodiadau.
Hoffais yn fawr y defnydd o wisgoedd i gynrychioli hyn. 'Roedd pob Eidalwr â thinc o wyrddni yn eu dillad a'r Cymry'n cael eu harddangos drwy wisgo rhywbeth bach, syml a oedd yn goch. Gweledigaeth seml gan y cynllunydd gwisgoedd ond un effeithiol a thrawiadol.
Beth am y canu felly?
Roedd naw o ganeuon i gyd; rhai yn cael eu perfformio gan gymeriadau unigol, eraill gan y corws i gyd a rhaid cyfaddef i'r canu torfol ychwanegu llawer mwy o angerdd a theimlad na'r canu unigol.
Deuawd effeithiol
Fodd bynnag, uchafbwynt y canu oedd deuawd effeithiol rhwng Giulio a Rhiannon ar ddiwedd y ddrama - moment deimladwy iawn a diweddglo trawiadol.
Roedd nifer o leisiau blinedig - ond yr oeddwn yn gweld y ddrama ar ei noson olaf un.
Byddwn wedi cymeradwyo mwy o ganu torfol er mwyn ychwanegu at y syniad o weithio fel ensemble ymhellach.
Cafwyd dawns arbennig o effeithiol wrth i'r cymeriadau fynd i fwrlwm y gêm rygbi a hynny'n wrthgyferbyniad arbennig i'r digwyddiadau trist ac emosiynol.
Ond siom o'r mwyaf oedd clywed cyn lleied o Gymraeg. Gwn fod nifer o gyfleoedd i bobl ifainc Cymru weithio ym myd y theatr drwy gyfrwng yr iaith ond siawns gen i y byddai Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn gallu cynnwys mwy o Gymraeg mewn cynyrchiadau ac yn y ddrama arbennig hon byddai wedi cyfoethogi'r themâu.
Taro deuddeg
Ar wahan i hynny yr oedd hwn yn gyfanwaith oedd yn taro deuddeg yn ysbrydoli ac yn argyhoeddi ac nid oes dwywaith i'r actorion ifanc elwa'n fawr o weithio mewn ensemble a chyda cyfarwyddwr artistig heb ei ail.
Gyda chyfnod Greg Cullen yn gyfarwyddwr y cwmni yn dod i ben eleni - ac yntau wedi llwyddo i gyflawni 'her anhygoel' bob blwyddyn ers pum mlynedd - nid oes ond gobeithio y bydd ei olynydd yn llwyddo i'r un graddau.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.