| |
|
Y Pair - adolygiad Catrin Beard Helynt Rowan Williams yn profi pwynt y ddrama
Cafodd Catrin Beard brawf o pa mor berthnasol yw Y Pair i'n dyddiau ni o fod wedi ei gweld y diwrnod cyn y ffrae ynglŷn â sylwadau Archesgob Caergrawnt am gyfraith Sharia.
Catrin oedd yn adolygu'r ddrama ar raglen radio Dewi Llwyd fore Sul, 10 Ionawr 2008 ar ôl gweld perfformiad y noson gyntaf yn Theatr Gwynedd, Bangor.
"Y diwrnod ar ôl imi weld Y Pair yr oedd yr holl ffws yma am Rowan Williams yn codi . . . [a] beth mae Rowan Williams eisiau'i wneud ydi agor trafodaeth am rywbeth ac mae'n cael ei gondemnio heb i neb wrando ar ei ddadleuon o," meddai.
Tebyg i John Procter "Mae'r syniad yma eich bod chi'n gorfod glynu wrth rhyw wirionedd mae'r gymdeithas yn penderfynu arno fo [ac na] chewch chi ddim herio na chwestiynu - neu os ydy chi'n gwneud hynny eich bod yn cael eich camddeall a'ch camfarnu ac mae'r hyn sy'n digwydd i [Rowan Williams] yn debyg iawn i'r hyn sy'n digwydd i John Procter yn Y Pair," meddai.
Er bod y ddrama yn un hynod o hir yr oedd Catrin Beard yn hael ei chanmoliaeth i'r cynhyrchiad gan ddweud ei fod yn un gwerth yr aros amdano ac yn un gwerth eistedd drwyddo.
Canmol goleuo Am y cynhyrchiad e dywedodd:
"Fod y set a'r goleuo yn ddramatig iawn .
Yn hollol blaen yn adlewyrchu ein syniad ni o symlrwydd y cyfnod Piwritanaidd. Llawr pren a jyst wal uchel o bren oedd yn agor ar wahanol adegau i greu drysau gwahanol a'r goleuo wedyn yn hollol atmosfferig - lot fawr o olau cannwyll ac yn gosod cefnlen gwych i'r cynhyrchiad," meddai.
"Er mi fyddwn i'n dweud yn act pedwar bod y goleuo yn rhy dywyll yn y carchar," ychwanegodd.
Ymdeimlad o gyfnod "Mae'r cynhyrchiad yn syml iawn, yn glasurol iawn [gydag] ymdeimlad o gyfnod . . . a symlrwydd y cynhyrchiad yn tanlinellu symlrwydd y geiriau achos mae'n ddrama eiriol iawn ac mi roeddwn i'n hoff iawn o'r cyfieithiad," meddai.
"Dydw i ddim digon cyfarwydd efo geiriau'r ddrama wreiddiol [i wybod a] ydi o'n gyfieithiad gwych o'r geiriau ond yr oedd o'n llifo, yr oedd o'n clecian ac fe fyddwn i'n gobeithio ein bod yn mynd i weld cyhoeddi y fersiwn yma," meddai.
Am yr actio dywedodd:
"Y demtasiwn efo'r math yma o beth ydi i or ddramateiddio ac i fynd yn felodramatig a heipio ond yr oedd arddull y cyfarwyddo yn gwarchod rhag hynny . . . yr oedd yn gynnil iawn ac roedd y tensiwn yn adeiladu yn araf iawn.
"Roedd yna waith hir i gynnal tair awr o actio ar lwyfan ac yr oedd o'n ddisgybledig iawn.
Sefyll allan Dywedodd bod rhai perfformiadau yn sefyll allan:
"Yr oedd Owen Arwyn fel John Procter yn arbennig o dda. O'r diwedd Owen Arwyn yn cael cyfle i actio cymeriad aeddfed ac mi roedd o'n cynnal angerdd y dyn yma heb fynd dros ben llestri," meddai.
"Hefyd, ei wraig, (Catrin Powell) yn arbennig o dda. Cynildeb ei pherfformiad. Yr oedd hi'n hollol llonydd ar y llwyfan ac yr oeddech chi'n cael eich tynnu ati hi ac roedd hi'n urddasol dros ben.
"Hefyd roeddwn i'n hoff iawn o Betsan Llwyd fel gwraig ffyslyd dros ben ac roeddech chi'n gweld yr hysteria dan yr wyneb."
Barn Iwan Edgar
Ar y rhaglen hefyd yr oedd Iwan Edgar a fu'n adolygu'r ddrama i'r wefan hon.
Dywedodd iddo ef fod yn edrych ar ei wats ar ddiwedd yr hanner cyntaf ond i bethau fywiogi erbyn yr ail hanner.
"I mi roedd Dyfan Roberts yn serennu ac heb hwnnw fe fyddai wedi sagio dipyn yn yr ail hanner," meddai.
Anghytunodd Catrin Beard gan ddweud bod yr hanner cyntaf yn cynnal yn well na'r ail hanner!
Ychwanegodd mai rhy hir "i ni heddiw" yw y ddrama a thybiai y byddai Arthur Miller wedi sgrifennu drama ferrach pe byddai'n ei sgwennu heddiw.
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad Iwan Edgar a chael gwybod mwy am Y Pair a thaith Theatr Genedlaethol Cymru.
|
|
|
|