Gwledd gyda diwedd siomedig
Adolygiad Glyn Jones o ddrama gerdd newydd Tim Price, Greg Cullen a Jak Poore - Café Cariad.
"Epig o ddrama gerdd," oedd disgrifiad llyfryn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug o Café Cariad.
Roedd y llun bach del o hufen iâ ac awyrennau a'r sgwennu pinc ffansi yn awgrymu drama barbi dol ond fe'm synnwyd! Roedd y cynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn wledd i'r llygaid, i'r glust ac i'r galon.
Cariad mewn rhyfel
Stori am gariad yn nherfysg eithaf rhyfel ydyw. Mae Mussolini yn unben yn yr Eidal a theulu Bracco wedi'i hollti yn ei deyrngarwch i'r blaid ffasgaidd.
Mae Simonetta a'i brawd Giulio yn ffoi i Gymru i geisio lloches yng nghaffi eu hewythr - Café Cariad y teitl.
Daw y ddau yn rhan o'r gymuned Eidalaidd ac o'r gymdeithas Gymraeg yn Nowlais lle mae Giulio a gweinyddwraig y caffi, Rhiannon, yn syrthio mewn cariad.
Yna daw'r gorchymyn i fynd a phob gwryw Eidalaidd ymaith. Chwelir y gymuned glos yn ne Cymru a phan adunir hwy ar ddiwedd y rhyfel mae cymysgedd o ansicrwydd, tristwch a llawenydd
Effaith rhyfel ar y berthynas rhwng unigolion a chymunedau yw ffocws y ddrama ac fel pob drama gwerth ei halen mae'r berthynas a archwilir yn un amlochrog a chymhleth.
Nid Cymru yn erbyn yr Eidal yw hi o bell ffordd gan fod y gymdeithas Eidalaidd yn ne Cymru wedi ei hollti hefyd yn ei chefnogaeth i'r Eidal.
Yn yr un modd, y gymuned Gymraeg lle mae rhai yn cefnogi'r gymuned Eidalaidd, yn wir, yn ei charu. Mae eraill mor chwyrn yn eu herbyn nes fandaleiddio'r caffi.
Rhan o'r presennol
Eto'i gyd, nid drama hanesyddol mo hon.
Mae'r dramodwyr yn trin thema sydd yn gymaint rhan o'r presennol a'r dyfodol ac ydoedd o'r gorffennol Microcosm yw'r ddrama - o Ryfel y Degwm, i ryfel cartref Sbaen gan fod yna Guilio a Rhiannon, gannoedd ohonynt.
Ac yn y trydedd rhyfel byd, pan ddaw hwnnw, bydd yna Guilio a Rhiannon hefyd, a chariad yn blaguro rhwng dau sydd i fod yn elynion.
Godidog yw'r unig air i ddisgrifio'r defnydd a wneid o'r llwyfan. Roedd y caffi yn syml a chynnes yr olwg gan adlewyrchu agwedd y gymdeithas glos.
Roedd y clogwyni a gynrychiolai bentref Bardi yn yr Eidal yn fwy effeithiol. Roeddent yn erwin a bygythiol, yn union fel awyrgylch y wlad.
Roedd y modd y safai arweinydd yr S.S arnynt yn arddangos ei rym a'i farbareiddiwch, a'r modd y cuddiai'r crysau duon arnynt yn dangos nad oedd lle'n byd yn saff.
Yn llythrennol, roedd gan y clogwyni glustiau a llygada.
Eithafion
Crefftus oedd y defnydd o eithafion cyferbyniol. Dyna'r agoriad er enghraifft. Yr olygfa gyntaf yw priodas yng Nghymru, yr ail yw angladd yn yr Eidal.
Yn fwy effeithiol fyth cawn ein taro gan yr annisgwyl. Rhiannon yn gwrthod priodi gan mai gweithio yw ei dymuniad, nid cadw tÅ· a chael plant.
Yn yr ail olygfa, Simonetta yn gwrthod derbyn blodau gan ffasgydd, yn eu taflu, ac yna'n gwrthod ymddiheuro. Mae rhywbeth ar droed, a phe tynnid y theatr i lawr o'n cwmpas, ni fyddai'r gynulleidfa wedi medru a gadael.
Llythyrau
Un effaith theatrig yr oeddwn yn arbennig o hoff ohono oedd yr olygfa lle gollyngwyd llu o bapurau o'r nenfwd i gynrychioli'r holl lythyrau a sgrifennwyd adeg y rhyfel, ond na chyrhaeddasant fyth ben eu taith. Roedd rhywbeth yn ingol o brydferth yn eu gwylio'n fflytran i'r gynulleidfa a thros y llwyfan.
Hefyd, y gêm rygbi, neu yn hytrach, y ddawns rygbi. Daeth hyn ag ychydig o hiwmor i'r ddrama, ynghyd â harddwch symudiad. Llwyddodd hefyd i ddal darn o ddiwylliant de Cymru'r cyfnod, rhywbeth y gellid fod wedi ei golli mewn drama ddwys am gariad a rhyfel.
Roedd yr actorion yn wych, pob un ohonynt.
Gallech weld, a chlywed, pwy oedd y Cymry, pwy oedd yr Eidalwyr, a phwy oedd y Gwyddelod hyd yn oed. Roedd yr acen ddeheuig gref, a'r gwisgoedd cyfnod, oll yn ychwanegu at realaeth y ddrama.
Roedd y ddau brif actor, Elin Phillips (Rhiannon) a Tomos Eames (Giulio) wedi llwyr ymgolli yn eu cymeriadau a heb amheuaeth yn y byd yn llwyddo i ymgorffori prif thema'r ddrama o fuddugoliaeth cariad dros ryfel, brawdgarwch dros wladgarwch, y dwyfol dros y dynol.
Yn y caneuon y gwelwyd hyn orau, yn enwedig y gân A New Land, a'r gân Eidalaidd ar alaw Ar Lan y Môr.
Rhan i bawb
Meddai'r cyfarwyddwr, Greg Cullen:
" . . . rydym wedi ceisio gwneud yn siŵr bod gan bod unigolyn rôl ddramatig a stori i'w dweud."
Llwyddodd yn rhannol. Roedd lle arbennig i fwy o gymeriadau yn y ddrama hon nac mewn dramâu cerdd arferol, ond gyda chast o 60, roedd yna ormod. Yn ddieithriad bron, mewn drama y mae llai yn fwy.
Nid oeddwn yn gwbl hapus gyda'r diwedd.
Gallech ei weld yn dod - ond bod rhywbeth arall a rhywbeth arall a rhywbeth arall yn dod cynt.
Dipyn o dôn gron. Nid oedd yn cynyddu mewn crescendo, ond yn hytrach, yn un digwyddiad dramatig ar ôl y llall.
Roedd y dramatig yn dod yn norm felly, ac o ganlyniad, nid oedd yr olygfa olaf ronyn yn fwy dramatig na'r golygfeydd a fu ynghynt.
Credaf hefyd i'r berthynas a ddatblygodd rhwng Simonetta a Rhiannon gymhlethu pethau'n ormodol.
Oedd, roedd yn realistig. Roedd y ddwy ferch yn rhan bwysig o fywyd Giulio a thrwy garu ei gilydd roeddent yn ei garu yntau.
Credaf i hyn fynd a ni i faes mwy astrus na genre y ddrama gerdd a golygai hefyd na allai'r ddrama orffen yn hapus a gobeithiol, fel y dylai drama gerdd orffen.
Roedd Rhiannon wedi drysu ac nid oes ond ansicrwydd rhyngddi hi a Giulio ar ddiwedd y ddrama.
Efallai bod y dramodydd yn ceisio dangos yr ansicrwydd a edy rhyfel ar ei ôl, wn i ddim, ond mae fel petai'n niweidio ei neges ei hun gan nad yw diweddu'r ddrama fel ag a wnaed yn caniatáu i gariad gael y llaw uchaf ar ryfel.
Cyn lleied o Gymraeg
Siom o'r mwyaf oedd clywed cyn lleied o Gymraeg yn y ddrama. Café Cariad oedd yr enw os cofiaf yn iawn, nid Love Café a byddai defnyddio mwy ar y Gymraeg a'r Eidaleg wedi atgyfnerthu neges y dramodwyr, fel y mae cariad yn uno ac yn torri ffiniau ieithyddol a chenedlaethol.
Na, ni fyddai pawb yn ei deall. Ond eto, ychydig sy'n deall Ave Maria a Deuawd y Blodau.
Ychydig fodd bynnag a wadai bod hud ac angerdd y caneuon hynny yn eu swyno.
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch