| |
|
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol Cadeirydd cwmni theatr yn amddiffyn penderfyniad i gartrefu yng Nghaerfyrddin.
Mae cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru wedi amddiffyn penderfyniad y cwmni i gartrefu yng Nghaerfyrddin.
Fydd hynny ddim yn gwneud y cwmni yn llai cenedlaethol yn ôl Lyn T Jones a oedd yn cael ei holi ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun, Hydref 17, 2005.
Gwadodd hefyd y gallai perthynas agos a Choleg y Drindod a'r Cyngor Sir fod yn niweidiol i'r cwmni.
Yr oedd Mr Jones yn cael ei holi yn dilyn penderfyniad y cwmni i gartrefu o'r flwyddyn nesaf ymlaen mewn adeilad sy'n cael ei godi ar hyn o bryd ger Coleg y Drindod yn nhref Caerfyrddin a hynny gyda chefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin.
Rhy agos? Holodd Gwilym Owen tybed a oedd perygl i gwmni cenedlaethol fod yn "rhy agos" ei berthynas ag un awdurdod lleol.
Ond meddai Lyn Jones: "Beth sydd raid ichi gofio ydi mai cwmni teithio ydi Theatr Genedlaethol Cymru nid cwmni sy'n gweithio i theatr.
"Pe byddem ni'n glynu wrth theatr [ac] wrth awdurdod fe fyddwn i'n cytuno'n llwyr gan fod hanes dros y blynyddoedd yn profi fod perthynas rhwng cwmni theatr ac adeilad theatr yn gallu bod yn beryglus ac yn gallu'i glymu fe ac yn gallu peri edwino yn y diwedd," meddai.
Ond yn achos Theatr Genedlaethol Cymru dywedodd mai'r hyn "yr ydym yn sôn amdano" yw adeilad pwrpasol yn unig.
"Gweithdy syml lle mae cynhyrchion yn cael eu paratoi ac unwaith y mae'r cynhyrchiad yna yn barod mae o'n mynd allan i Gymru benbaladr - cwmni theatr cenedlaethol ydi o," meddai.
Ci a'i gynffon Cadarnhaodd mai Coleg y Drindod fydd piau'r adeilad ond gwrthododd awgrym gan Gwilym Owen y gallai hynny greu perthynas ci a'i gynffon gyda'r coleg yn ysgwyd y theatr.
"Dydi hynny ddim yn wir achos mae'r berthynas a'r bartneriaeth sydd rhyngom yn gwbl glir ac mae'r gefnogaeth rydym wedi gael o du'r coleg, o du'r awdurdod a phobl y sir wedi bod yn gwbl gryf," meddai gan bwysleisio y byddai annibyniaeth y cwmni yn sicrhau na fyddai'n mynd yn "rhy agos" at unrhyw sefydliad.
"Mae'r annibyniaeth yn llwyr yn nwylo'r cwmni o ran cynyrchiadau, o ran gweinyddiad, a'r unig beth sy'n digwydd yw ein bod ni fel unrhyw un arall yn talu les; yn talu beth bynnag ydi o i Goleg y Drindod am yr hawl i fod yno . . . ac fel unrhyw gwmni arall mae'n bosib adleoli," meddai.
Camddealltwriaeth Dywedodd hefyd fod camddealltwriaeth â thrigolion lleol wedi ei datrys a'u gwrthwynebiad i godi'r adeilad wedi peidio.
"Roedd yna gamddealltwriaeth wedi digwydd - roedden nhw'n meddwl fod yna theatr yn cael ei dodi yno ac mae theatr yn golygu fod yna bobl yn dod i mewn ac allan bob nos a bod yna sŵn traffig a phob math o bethau - ond dydi hynny ddim yn digwydd oherwydd mai gweithdy ydi o."
.Ychwanegodd i eraill gamddehongli'r gair 'gweithdy' i olygu gweithdy yn yr ystyr o le swnllyd gyda sŵn llifio a morthwylio.
"Ond dydi hynny ddim yn digwydd yno . . . ac mae pawb wedi deall y sefyllfa ac unrhyw wrthwynebiad wedi diflannu," meddai Lyn Jones.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|