| |
|
Sion Blewyn Coch - y seicopath? Awdur yn ofni'r ofn dychryn
Ai 'seicopath' oedd Siôn Blewyn Coch?
Dyna awgrym awdur sioe lwyfan Llyfr Mawr y Plant sydd ar hyn o bryd ar daith o amgylch Cymru!
Yr oedd Gareth F Williams yn siarad gyda Dei Tomos ar ei raglen nos Sul pan ddywedodd mai Siôn oedd ei hoff gymeriad ef o'r llyfr - a hynny'n rhannol oherwydd yr ochr ddu a brawychus i'w gymeriad.
"Mae yna rywbeth am Siôn Blewyn Coch," meddai.
"Mae'n siŵr pe byddai yna ryw seicolegydd yn fy rhoi i ar ryw soffa yn rhywle fe fydda fo'n meddwl bod rhywbeth mawr yn bod arnaf i oherwydd beth sy'n apelio fwyaf am Siôn ydi ei fod yn gymeriad creulon, brwnt sy'n ffinio ar fod yn seicopath i fod yn gwbwl onast," ychwanegodd.
"Mae'n llarpio y cywennod ma ac yn eu hongian yn ei gegin - ond wrth gwrs llwynog ydi o. Natur y bwystfil fel petai.
"Ond roeddwn i wastad yn ffeindio Siôn yn fwy difyr na Wil Cwac Cwac oherwydd y tywyllwch yma ynddo fo," meddai.
"Ella bydd pobl yn gweld bai mawr arnaf i am hyn ond dwi'n tueddu i feddwl ein bod ni'n gwarchod gormod ar blant y dyddiau yma - Peidiwch a gwneud hyn a pheidiwch a gwneud y llall rhag ichi godi ofn arnyn nhw ond mae plant wrth eu boddau yn cael eu dychryn; does ond eisiau ichi edrych ar y math o ffilmiau y mae plant yn eu mwynhau.
"Maen nhw'n ddigon i godi gwallt pen rhywun ac mae plant wrth eu boddau Da chi'n cael ambell i eithriad efallai lle mae plentyn yn methu dweud y gwahaniaeth rhwng be sy'n gau a beth sy'n wir ond ar y cyfan mae plant yn hen ddigon call i wybod a dwi'n meddwl ein bod ni yn rhy dueddol o'u lapio nhw ormod mewn wadin," meddai.
Disgrifiodd y gwaith o addasu Llyfr Mawr y Plant ar gyfer y llwyfan fel "llafur cariad - yn bleser pur" .
"Pan oeddwn i'n fach mi wnes i ddysgu darllen gryn dipyn efo Llyfr Mawr y Plant a dysgu sut roedd dweud stori achos mae'r grefft o ddweud stori yn arbennig o wych ynddo ac rydw i'n cofio eistedd oriau efo Nain ac efo Mam yn mynd drwy'r straeon a doedd fiw iddyn nhw adael unrhyw beth allan - un gair hyd yn oed. Roeddwn i'n ei wybod o fel parot."
Tra'n sôn am Sion Blewyn Coch dywedodd i arch elyn y llwynog slei, Eban Jones, gael "dipyn o beth fyddai'r Saeson yn ei alw yn rough ride!"
|
|
|
|