|
Pishyn Chwech Hanner dwsin o rai newydd
Adolygiad o Pishyn 6 - Cwmni Inc - gan Angharad Elen
Criw o gyw-sgwenwyr brwd a ddaeth at ei gilydd er mwyn ffurfio cwmni theatr yw Cwmni Inc, a dyma eu hoffrwm cyntaf - Pishyn 6.
Chwe drama fer gan chwe awdur newydd. Mae'n braf clywed am gwmnïau bychain fel hyn sy'n ffurfio oherwydd angerdd unigolion.
Fel Cwmni Bara Caws ar ddiwedd y 70au, a Chwmni 3D yn fwy diweddar, mae yna rywbeth ysbrydoledig am griw o sgwenwyr, actorion a chyfarwyddwyr yn cynhyrchu dramâu drwy rym eu hewyllys yn unig.
Cwrs sgriptio Sefydlwyd y cwmni yn sgil cwrs sgriptio o dan arweiniad Dewi Wyn Williams ym Mhrifysgol Caerdydd y llynedd.
Llwyddwyd i ddenu nifer o enwau cyfarwydd i gymryd rhan; Jâms Thomas, Valmai Jones, Janet Aethwy, Olwen Medi, Siân Rivers, Elin Wmffras, Meilir Siôn a Dafydd Emyr i enwi ond rhai, a hyfryd oedd gweld Neuadd Llanofer o dan ei sang.
Gwin a chwrw Yn hytrach na gosod rhesi o gadeiriau, penderfynodd y cwmni greu awyrgylch fwy hwyliog gan osod y seddi o amgylch byrddau a gwerthu gwin a chwrw i'w fwynhau yn ystod y perfformiadau. Roedd hi'n braf cael ymgom fer a chyfle i ail-lenwi gwydrau rhwng y dramâu.
Dêtio ar frys Drama gyntaf y noson oedd Ella Tro 'Ma gan Siwan Haf. Sgets fach ysgafn mewn gwirionedd sy'n gipolwg ar un cyfarfyddiad rhwng dau mewn sesiwn brys-ddetio.
Down i ddeall fod Branwen (Janet Aethwy) wedi hen arfer â'r math yma o beth a'i bod hi'n byw mewn gobaith mai'r person nesaf fydd Yr Un.
Dyma'r tro cyntaf i Siôn (Dyfan Dwyfor) fod mewn sesiwn brys-ddetio; o ganlyniad mae'n llawn nerfau ac yn rhoi ei droed ynddi yn dragywydd.
O bryd i'w gilydd, mae amser yn rhewi a daw cylch o olau ar y naill gymeriad er mwyn iddynt ddatgelu eu gwir deimladau. Does yna ddim datblygiad yn y cymeriadau yn ystod y ddrama a dyma, yn anad dim, sy'n ei gwneud yn sgets yn hytrach na drama â sylwedd iddi.
Er hynny, mae hi'n ddigon difyr ac yn ddewis da i ddechrau'r noson.
Salwch meddwl Colli 'Nabod gan Lowri Roberts ydy'r ddrama nesaf. Olwen Medi sy'n portreadu Anwen, dynes sy'n dioddef yn enbyd o salwch meddwl.
Mawredd y ddrama hon yw ei bod yn gwyrdroi ein disgwyliadau ac yn gwneud inni amau pwy sy'n wallgo mewn gwirionedd.
Mewn monolog farddonol ar ddechrau'r ddrama, galara Anwen ar ôl Hywel ei gŵr sydd wedi ei gadael am ddynes arall, Jody.
Ond down i ddeall yn raddol ei bod mewn ysbyty meddwl ac mai Jody yw'r nyrs greulon sydd yn edrych ar ei hôl (Siwan Bowen Davies).
Yn y ddrama hon mae ysgrifennu mwyaf disglair y noson, yn sicr, ond teimlaf fod yma le i ffrwyno a golygu y dweud.
Cyfrwng gweledol yw theatr, ac mae pob un o'r dramâu yn y casgliad hwn yn dueddol o fod yn rhy llafar o lawer. Byddai'n syniad i bob dramodydd gofio y gall y pethau nas dywedir yn aml iawn fod yn ddifyrrach na'r hyn a ddywedir.
Mam gaeth Rhodd Mam gan Huw Derfel oedd y trydydd offrwm. Gweithiai'r ddeinamig rhwng y cymeriadau yn dda, gyda Valmai Jones yn portreadu Mam ac Elin Wmffras yn portreadu Ruth, ei merch.
Mae Mam ynghlwm i'w chadair olwyn ac mae Ruth wedi ei hymrwymo i edrych ar ei hôl gan aberthu ei haddysg a'i bywyd cymdeithasol bron yn gyfangwbl.
Drwy lythyr gan yr ysbyty, datgelir, ychydig yn rhy hawdd efallai, nad oes dim yn bod ar Mam, sy'n cynddeiriogi Ruth i'r fath raddau ei bod yn bygwth ei gadael unwaith ac am byth.
Gwelwn ochr fregus Mam, sy'n ymbil arni i aros; does ganddi neb arall.
Dyma pryd mae'r ddrama wirioneddol yn dod yn fyw i mi. Mae Ruth yn cytuno ac mae pethau yn dychwelyd fel yr oeddan nhw, sy'n ychwanegu naws Beckettaidd i'r cwbl.
Mae'r actio yn fendigedig a heb fod dros ben llestri ond teimlaf y byddai wedi bod ar ei ennill pe bai'r awdur wedi hepgor y diweddglo cartwnaidd, lle mae Ruth yn taro'i mam dros ei phen gyda'r wok a roddodd yn anrheg iddi.
Rhwng clên a chiaidd Yn Pen-blwydd Hapus gan Glenys Llywelyn, cawn gipolwg o berthynas dreisiol rhwng gŵr a gwraig (Dafydd Emyr a Siân Rivers).
Mae hi'n ben-blwydd ar Eleri ond er bod Alun yn dod â choffi a sudd oren iddi yn y gwely, mae ei ymddygiad yn pendilio rhwng y clên a'r ciaidd.
Does dim byd newydd yma o ran syniadaeth, ond mae'r deialogi yn effeithiol a'r cyfarwyddo gan Morgan Hopkins yn gelfydd tu hwnt. Sylwebaeth sydd yma mewn gwirionedd a dim datblygiad pendant - byddai'n syniad i bob dramodydd ofyn iddyn nhw eu hunain, 'Pam fod y ddrama yma'n digwydd rŵan?'
Er hynny, mae'r ysgrifennu yma yn dangos addewid pendant.
Dau gariad Mae Yn ei Gôl gan William Rhys George yn bortread o ddirywiad perthynas rhwng dau gariad.
Tra bo Carl (Meilir Siôn) ynghlwm wrth ei liniadur byth a beunydd, bu Elin (Catrin Wyn Jones) yn cysgu gyda dynion am arian i fwydo ei obsesiwn â'i hymddangosiad.
Bu'n dweud celwydd wrth ei gŵr ei bod hi'n canu'r ffidil mewn cyngherddau, ond pan egyr Carl gas yr offeryn, mae'n dod o hyd i lond lle o niceri budron.
Yn anffodus, nid yw'r sefyllfa yn taro'n wir rywsut ac o'r herwydd dwi'n ei chael hi'n anodd credu gant y cant yn y cymeriadau. Serch hynny, mae yna ddeialogi celfydd yma ac actio da - gan Catrin Wyn Jones,yn arbennig.
Jôcs budron! Y ddrama olaf ar y fwydlen heno oedd Ar y Ddesg gan Huw Charles. Drama am ddyn unig mewn swyddfa sy'n ffantaseiddio ei fod yn bêl-droediwr, yn seren bop ac yn dduw rhyw, yn hytrach na gwneud unrhyw waith.
Ei ysgrifenyddes ddeniadol, Miss Parry (Rhiannydd Wynne) sy'n gorfod dygymod â'i lol siofinistaidd.
Mae'r ddrama yn troi i diriogaeth sgets yn sydyn iawn, sy'n llawn cyfeiriadaeth rywiol a jôcs budr.
Ceir perfformiad campus gan Jâms Thomas fel Mr Jones a sicrhaodd fod y gynulleidfa yn morio chwerthin drwyddi draw.
Teimlaf fod yma gyfle wedi ei golli i ddatblygu mwy ar unigedd Mr Jones ond gan mai llunio sgets oedd bwriad yr awdur yma, mae'r cymeriadau cartwnaidd a'r senario yn sicr yn llwyddiant.
Mae cyfrwng y ddrama fer yn un cyffrous iawn ac mae'n braf gweld fod mwy a mwy o ddramâu byrion yn cael eu hysgrifennu a'u perfformio yn y Gymraeg.
Edrychaf ymlaen yn arw at gynhyrchiad nesaf Cwmni Inc.
|
Huw Caerdydd Fel un a oedd yn gysylltiedig â'r dramau, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb a gefnogodd ein menter. Fe lwyddo' ni i werthu pob tocyn ar gyfer y ddwy noson, ac mae'r ymateb wedi ein ysgogi i barhau gyda'n prosiect nesaf.
Diolch yn fawr.
Huw Derfel
(ar ran Cwmni Inc)
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|