| |
|
Streic ar lwyfan Mae brwydr criw o weithwyr a fu ar streic am ddwy flynedd yn awr yn destun drama ar lwyfan.
Bydd cyfle i weld cynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru o hanes streic 86 o weithwyr yn ffatri Friction Dynamex, Caernarfon, mewn theatrau ym Mangor ac yng Nghaerdydd Gorffennaf 13-16 ac Awst 4-6.
Yn 2001 aeth 86 o weithwyr Friction Dynamex ar streic dros eu hamodau gwaith. Cydiodd eu brwydr yn nghalon y gymuned gyfan.
Yr oedd Ian Rowlands, Cyfarwyddwr Artistig Llwyfan Gogledd Cymru, yn pasio'r streicwyr bob bore ar ei ffordd i'w waith ym Mangor, a theimlodd mor gryf dros y streicwyr penderfynodd osod hanes y frwydr ar lwyfan.
Mari Emlyn a Gwion Hallam sydd wedi sgriptio'r ddrama gyda chymorth gan Gwyneth Glyn.
Treuliodd Gwion a Mari oriau yng nghwmni'r streicwyr y tu allan i'r ffatri.
Bwriad gwreiddiol y cwmni oedd llwyfannu'r ddrama, sydd wedi ei galw yn Deinameit, yn Theatr Gwynedd yn unig, fel teyrnged i'r streicwyr.
Ond gan i'r cwmni deimlo fod yr hanes yn haeddu cynulleidfa ehangach penderfynwyd ar y perfformiad yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd.
Bydd Deinameit: Theatr Gwynedd, Bangor - Gorffennaf 13 i'r 16 Theatr y Sherman, Caerdydd - Awst 4 - 6
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|