|
Marat - Sade: dyddiadur actores Bath, cyllyll a chodi ofn
Bu Ann Barker, a chwaraeai ran Catherine a chwaraeai ran Charlotte Corday yn y ddrama, yn cadw dyddiadur yn arbennig ar gyfer 91Èȱ¬ Cymru'r Byd. Dyma ei hargraffiadau hi o'r cynhyrchiad anturus yng Ngharchar Biwmares.
Dydd Mercher, Ebrill 13: Draw â ni am Sir Fôn, gydag oes o ymarferion o'n blaenau...fel oes o garchar!
Roedd hi'n lwcus mod i wedi cofio gwisgo'n gynnes, gan fod carchar Biwmares yn oerach nag oeddwn i'n ei gofio.
Fel person ofnus, roedd hi'n anodd gen i gredu mai'r ffaith mai'r drysau agored oedd yr unig reswm ei bod hi mor anioddefol o oer yno.
Mae rhai o'r myfyrwyr eraill wedi bod yn tynnu nghoes i, gyda'u storiau a'u herthyglau ar hanes ysbrydion yn y carchar...eitha gwaith â nhw os bydda nhw'n cael eu dal yng nghwmni un o ysbrydion yr hen adeilad!
Mae'r capel ei hun yn anhygoel, ac mae'r syniad o lenwi'r ystafell gyda chynifer o gast, a chynulleidfa o 32 yn gyffrous dros ben.
Mae cael dweud wrth deulu a ffrindiau mod i'n treulio pob eiliad rydd sydd gen i yng ngharchar Biwmaris yn ymarfer fy rhan fel merch sydd 'off i phen' mewn ysbyty meddwl, sy'n chwarae rhan llofrudd yn y chwyldro Ffrengig yn dipyn o beth. Ymlaen â'r ymarfer...
Dydd Mercher, Ebrill 20: Ym Miwmaris am y pnawn, yn cael trefn ar gychwyn y cynhyrchiad. Mae'n syniad ffantastig, yn creu andros o argraff arna i wrth grwydro'r celloedd fel bydd y gynulleidfa yn ei wneud.
Mae crwydro'r carchar yn gyfle i fusnesu o gell i gell. Mae cael gweld a chlywed y "cleifion" yn eu cyflyrau meddwl ac yn eu trallod yn fy aflonyddu i.
Dwi'n trio meddwl sut effaith fydd y profiad yn ei gael ar y gynulleidfa fydd yn llwyr anymwybodol o strwythr y cynhyrchaid.
Mae'r actorion wedi gweithio'n arbennig o dda ar eu rhannau - mae'n gofyn am lawer o ddychymyg a byrfyfyrio. Mae gen i edmygedd mawr tuag atynt, mae ambell ymwelydd yn y carchar ei hun yn eithaf busneslyd ac am gael gwybod mwy am ein prosiect ni.
Dwi'n dal ddim yn siwr iawn sut mae nhw'n mynd i ffitio 32 o gynulleidfa a'r holl actorion i'r capel bychan... a'r bath !
Dydd Iau, Ebrill 21: Rhoi trefn ar ddiwedd y cynhrchiad oedd ffocws ymarfer heddiw.
Mae pawb yn cynnig pob math o syniadau - mae'n broses ofalus, ond mor allweddol yw penderfynu ar y syniad fydd yn creu'r effaith orau.
Nid cynhyrchaid arferol mo hwn ac mae na feddwl mawr wedi mynd iddo, nid yn unig ar ran y cyfarwyddwr, ond ar ran yr actorion yn ogystal.
Boddi De Sade yw'r nod gan y clefion yn y cynhyrchaid hwn, wedi iddynt droi arno mewn modd treisgar iawn.
Gyda chyn lleied o lwyfan, a chyn gymaint o actorion mae'n her i ddefnyddio pawb a phopeth i bwrpas effeithiol.
O'm safbwynt i, sydd yn chwarae rhan y lleian, Charlotte Corday, rwyf wedi bod â rhan allweddol yn natblygiad y blerwch a'r anhrefn, wrth imi ddatgelu'r gyllell finiog sydd wedi ei rhoi yn fy llaw gan De Sade ei hun.
Er i'r cyfan gael ei ymarfer gyda chyllell anweladwy, rwyf erbyn hyn yn fygythiad i'r 'bobl fawr' ac i staff yr ysbyty.
Ein bwriad yw "troi ar y rhai sy'n rhoi arf yn ein dwylo", gan wneud i'r gynulleidfa aros mewn ofn i weld beth ddaw o'r sefyllfa yr ydym wedi ein canfod ein hunain ynddi hi.
Dydd Sadwrn Ebrill 23: Tynnu lluniau heddiw, cyllyll a dillad llwyd; yn gyfle i ymarfer yn ysbryd y cyfan.
Da' ni'n dal i godi ofn ar ymwelwyr, mae hynny'n ddoniol erbyn hyn!
Maen nhw'n hoff o fusnesu ond os ydym yn eu croesawu i gael golwg ar y broses, maen nhw'n gweld y cyllyll a'r holl gyflyrau meddwl ac yn ffoi am y drws cyn i ni fedru dweud 'dewch i mewn.'
Dydd Sul Ebrill 24: Rhedeg reiat oedd ar dop yr agenda heddiw - hynny mewn modd trefnus ac effeithiol.
Sôn yr ydw i am ddiweddglo'r cyhyrchiad, ac mae'n dipyn o her i'w ymarfer.
Rhaid aros tan wedi pump o'r gloch i ymarfer y rhan yma, pan fo ymwelwyr y carchar wedi mynd am adref, rhag i ni godi ofn mawr arnynt; mae'r sŵn yr ydym ni'n ei greu yn anhygoel a dweud y lleiaf.
Creu'r syniad o ryddhau cleifion eraill yw'r dasg, mae angen rhedeg o'r capel mewn cyffro a phanig llwyr, rhedeg drwy'r carchar gan daro drysau'n ffyrnig, canu'r gloch, gweiddi bod rhyddid i'w gael, a rhedeg gan sgrechian cymaint ag y gallwn ni am y drws ffrynt a'i gau yn glep ar ein holau, gan adael y gynulleidfa mewn anesmwythder llwyr.
Dydd Llun, Ebrill 25: Does dim llawer o amser i fynd bellach. Mae heddiw wedi bod yn gyfle i mi a Rhys sydd yn chwarae rhan Duperret, ymarfer y berthynas rhwng ein cymeriadau, Rhys fel gwarchodwr llawn atgasedd, a minnau fel claf, sydd wedi ymosod ar leian yn y gorffennol gan iddi gredu ei bod hi yn ferch i'r diafol.
Mae'n berthynas gymhleth iawn, ond mae'r profiad yn un arbennig iawn. Rwy'n perfformio yng nghysgod Rhys, sydd yn credu fod ganddo bob pŵer drostai nes mod i'n datgelu'r gyllell finiog sydd gen i.
Rwy'n treulio llawer iawn o amser yn ystod y cynhyrchiad yn edrych drwy'r ffenestr. Dydw i ddim yn rhan o'r corws, tydyn nhw ddim yn fy nabod i, rwy'n glaf peryg iawn, ac mae'n debyg fy mod i wedi ymarfer y ddrama ei hun ar wahân i bawb arall, mae ganddynt ofn mawr ohona i. Mae'r naws sy'n cael ei greu drwy berthynas cymeriadau yn y cynhyrchaid yn debygol o aflonyddu, ac er bod fy nghefn wedi troi oddi wrth y cyfan, mae'r teimlad o anhrefn a chyffro yn berwi yndda i fel actores, er fy mod yn ddigon diffrwyth a dideimlad fel claf.
Nos Fawrth, Ebrill 26: Yr ymarfer gwisg oedd heno, a dwi'n teimlo iddo fod yn un llwyddiannus dros ben.
Roeddwn i'n teimlo'n falch iawn o bawb oedd ar y 'llwyfan', am ein bod bob un wedi rhoi o'n gorau, a chan feddwl mai dyma'r tro cyntaf i ni gael rhediad iawn o'r cyfan gyda gwisgoedd, cyllyll, a bath llawn dŵr coch, roedd hi'n andros o deimlad anhygoel cael bod yn rhan o'r cyfan.
Mae yna sawl peth mae angen i ni weithio arno cyn perfformiad nos yfory, ond dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy.
Nos Fercher, Ebrill 27: Y perfformiad cyntaf. Er ychydig o broblemau technegol ar ddechrau'r cynhyrchiad, roedd y cyfan wedi llifo'n gyflym iawn.
Yn rhy gyflym efallai ond posib mai'r adrenalin ynom fel actorion oedd yn ein gwthio yn ein blaenau.
Y tro hwn roedd seti'r capel yn llawnach nag roeddem erioed wedi'u gweld nhw o'r blaen ac o wrando ar y cyfan, er yn edrych drwy'r ffenestr, roedd hwn yn berfformiad gwahanol i neithiwr.
Er inni dderbyn canmoliaeth, dwi'n teimlo fod y cyfan wedi fflio heibio heb i ni lwyr werthfawrogi'r cyfle mai dyma ein perfformiad cyntaf ni, ein cyfle cyntaf ni fel actorion i ddangos yr holl waith caled oedd wedi mynd i'r cyfan.
Posib ein bod yn canolbwyntio gormod ar cael y cyfan yn 'gywir' yn hytrach na chreu'r naws cywir. Gobeithio byddaf yn teimlo'n well ar ôl perfformiad nesaf.
Nos Iau, Ebrill 28:Perfformiad llawer gwell gyda phob un ohonom wedi rhoi mwy na chant y cant yr un i'r perfformiad yma, gyda'r bwriad o herio'r 'second night blues'.
Roeddwn wir yn teimlo'n falch o gael bod yn ran o dîm a weithiodd mor arbennig o galed i greu rhywbeth a wefreiddiodd y gynulleidfa.
Roeddwn wir wedi mynd i deimlad y cyfan fel claf heno, ac yn ymateb fel y byddai fy nghymeriad, Catherine, yn ymateb, a llwyddais i ddychryn yr actorion ac aelodau'r gynulleidfa gyda nghyllell finiog.
Roedd yr anhrefn yn amlycach tro hyn, ac hefyd y panig llwyr o'r eisiau rhyddid yn bob un ohonom ni yn enwedig tua'r diwedd.
"Dial da ni isho," a dyna'n wir gawsom ni, a gobeithio y bydd y wefr honno yn ein gyrru yn ein blaenau ar gyfer ein perfformaid olaf.
Bydd hi'n eithaf trist gadael Biwmaris am y tro olaf, ond bu'n brofiad fydd yn sicr yn aros yn y cof... ac yn un na fydd y gynulleidfa a'n cefnogodd ni yn ein anghofio'n sydyn iawn.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|