| |
|
Breuddwyd Branwen Newydd gychwyn ar daith o amgylch Cymru mae'r panto, Breuddwyd Branwen
Mae rhywbeth arbennig ynglŷn â'r modd y mae plant yn ymateb i gymeriadau pantomeim - fel pe bydde nhw'n gwybod yn reddfol pwy yw'r bobl dda a phwy yw'r cnafon drwg.
Doedd Efnisien (Huw Garmon) ddim wedi ymddangos yn iawn ar y llwyfan cyn i'r bwïan gychwyn. Cyn i'r mellt fflachio a'r mŵg ledu ar draws y llwyfan roedd disgyblion Rhydywaun a Bro Eirwg yn bonllefain am ei waed. A Matholwch (Llyr Williams) yn denu'r gymeradwyaeth fwyaf gwresog.
Brwd a chroch Yn y Coliseum, Aberdâr, roedd cynhyrchiad Cwmni Mega, Breuddwyd Branwen gan Arwel John, yn cychwyn taith ar hyd a lled Cymru ac yn sicr roedd y croeso i'r perfformiad cyntaf yn frwd a chroch.
Mae'r argoelion yn dda am daith lwyddiannus arall gan Ddafydd Hywel a'i griw.
Y Drudwy (Meleri Bryn) oedd prif gynheiliad y stori yn codi stêm y gynulleidfa'n egnïol gydag ystrywiau cyfarwydd.
Roedd hi'n gastio addas iawn i'r rhan; yn fywiog a sionc a rhyw dinc adarol priodol i'w llais.
Ac roedd hi'n fychan, yn enwedig ochr yn ochr â'r cawr camp a thrwsgl Bendigeidfran (Erfyl Ogwen Parry).
Fe wnaeth Arwel John waith da gyda'r stori, gan sicrhau y bydd y plant yn cael crap go lew ar y stori ond gan addasu tipyn ar y diwedd ac ar ambell fan arall.
Rhaid wrth dipyn o ramant a fedren ni ddim mynd oddi yno yn rhy ddigalon a thrist, fedren ni?
Jôcs cyfoes Ac ni fyddai unrhyw bantomeim yn bantomeim heb jôcs cyfoes - ac fe gawson ni dipyn o hwyl ar gorn Who Wants to be a Millionaire, Pobol y Cwm ac Aer Lingus.
Tara Bethan oedd Branwen, nid un o rannau amlycaf y stori ond fe wnaeth hi'n fawr o bob cyfle ac fe welsom ei hamrywiol ddoniau disglaer - canu, dawnsio ac action.
Ac y mae stori sy'n uno Cymru (neu Ynys y Cedyrn) ac Iwerddon (Yr Ynys Werdd) yn gyfle gwtch i ganu a dawnsio.
Rhaid sôn yn arbennig am y dawnswyr dan law coreograffydd ardderchog, Cathy Hurley. Campus.
Fel y dywedodd un o ddigyblion 14 oed Ysgol Gyfun Rhydywaun - roedd yn berfformiad "awesome".
Ni allai unrhyw adolygydd ddweud yn well. Pob hwyl i'r criw ar y daith. Gwyn GriffithsManylion y daith Holwch yn lleol i drefnu Tachwedd: 22 - 23: Theatr Elli, Llanelli. 10.00 ac 1.00 25 - 26: Theatr Dwyfor, Pwllheli. 10.00 ac 1.00. 30: Y Pafiliwn, Y Rhyl. 10.00 ac 1.00.
Rhagfyr 1: Y Stiwt, Rhosllannerchrugog. 10.00 ac 1.00. 2 - 3: Theatr Hafren, Y Drenewydd. 10.00 ac 1.00. 6 - 7: Theatr y Wein, Aberystwyth10.00 ac 1.00. 9 - 17: Theatr Gwynedd, Bangor. (Sioeau bore am 10.00 bob dydd ar wahân i Sadwrn 11 a Sul 12 am 2:00. Sioeau pnawn am 1.00 Rhagfyr 1 - 7 ac am 1.30 weddill yr ymweliad ar wahân i 7.00 Sadwrn 11.
Ionawr 10- 11: Neuadd y Gweithwyr, Coed Duon,10.00, 1.00. 15 (7.30), 17 - 21: Theatr y Muni, Pontypridd. 10:00, 1.00.
|
Osian Rwy'n mwynhau'r wefan, yn enwedig yr adolygiadau o sioeau theatr. Rwy'n sylwi nad ydych eto wedi adolygu'r panto Cymraeg, "Hela'r Twrch Trwyth" gan Gwmni Mega. Mae'r adolygiadau ac erthyglau ar y wefan yn creu archif ddifyr a phwysig o weithgareddau Cymraeg a Chymreig, tybed oes bwriad gennych adolygu'r sioe?
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|