| |
|
Cysgod y Cryman - her yr addasu 'Pawb a'i berchenogaeth ei hunan ar y nofel hon . . .'
Dywedodd Sion Eirian ei fod "yn echrydu meddwl" beth fydd cynulleidfaoedd yn ei feddwl o'i addasiad llwyfan o Cysgod y Cryman.
Yr oedd y dramodydd yn siarad gyda Beti George ar y rhaglen Celfyddydau ddeuddydd cyn y perfformiad cyntaf o'r addasiad gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr Gwynedd ym Mangor lle mae'r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu.
Ond y mae'r fath boblogrwydd ac edmygedd o nofel yn dod a'i bwysau ychwanegol ar unrhyw un sy'n mynd ati i addasu a dehongli'r gwreiddiol ar gyfer y llwyfan.
Wedi'r cyfan, ers ei chyhoeddi yn 1953 enillodd Cysgod y Cryman le arbennig yng nghalonnau darllenwyr Cymraeg ac fe'i dewiswyd yn Nofel y Ganrif ar droad y Mileniwm.
Pawb yn berchen "Rwy'n echrydu meddwl beth fydd ambell un yn i ddweud neu'n dewis ei weld ar y llwyfan," meddai Sion Eirian.
"Mae pawb a'i berchenogaeth ei hunan ar y nofel hon ac mi fydd lot o'r gynulleidfa eisoes yn dod a'u cynhyrchiad parod yn eu pennau.
"Yr ydw i'n gobeithio y byddan nhw'n sylweddoli bod raid iddyn nhw ddisgwyl rhywbeth go wahanol ar y llwyfan [o gymharu â'r nofel ei hun] a'r hyn ydw i wedi ceisio'i wneud yw targedu y prif themâu sydd, efallai, yn mynd i fod yr un mor gryf drwy gael gwared a rhai o'r cymeriadau a'r digwyddiadau llai.
"Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gweld mewn cwmpawd dwy awr fod y llwyfaniad yma yn gallu crisialu ambell i beth ac ambell i densiwn yn ddigon llwyddiannus," meddai.
'Cymaint o straeon' Ond ar wahân i gysgod ei phoblogrwydd dywedodd Sion Eirian mai anhawster arall a'i hwynebai gyda Chysgod y Cryman oedd ei bod yn nofel mor "anferth ei rhychwant" a hynny'n gorfodi arno waith dethol chrynhoi hynod o anodd.
"Mae yma gymaint o fanylder cymeriadau a chymaint o is gymeriadau a chymaint o is straeon yn plethu mewn a mas drwy'r adeg," meddai.
"Os ydych chi'n ceisio talfyrru hyn i ddwy awr ar lwyfan mae'n golygu fod raid i chi gywasgu i ganolbwyntio ar y prif themâu a chymeriadau - mae fel rhoi rhywbeth trwy ridyll; chi'n gorfod colli'r glo mân i gyd i weld y prif dalpie.
"Felly, wrth golli'r glo mân roeddwn i'n ymwybodol fy mod i'n colli shwd gymaint o gyfoeth y cymeriadau ac is straeon a does dim dwywaith, dydych chi ddim yn gwneud teilyngdod a'r nofel.
"Ac yr ydych yn colli hefyd yr elfen hyfryd yna o Gymraeg disgrifiadol bendigedig Islwyn Ffowc Elis. Allwch chi byth roi hwnna ar lwyfan."
Heb os, o holl gynyrchiadau Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru hyd yn hyn, ynglŷn â hwn y mae'r disgwyliadau mwyaf a chyda hwn y bydd y trafod mwyaf - a gellir defnyddio y wefan hon i roi eich ymateb ac eangu'r drafodaeth honno trwy anfon eich sylwadau atom yn syth o'r ddalen hon.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru, ar y cyd â Gwasg Gomer, yn cyhoeddi addasiad llwyfan Sion Eirian o Cysgod y Cryman yn gyfrol a bydd ar werth ymhob canolfan ar y daith am £6.99 ac wedi'r daith o swyddfa'r Cwmni.
Cysylltiadau Perthnasol
Mwy am y daith
|
Elen Davies, tiwtor dosbarthiadau Cymraeg i oedoli Manteisiais ar y cyfle bod perfformiad llwyfan o'r nofel Cysgod y Cryman yn dod i Gaerfyrddin er mwyn cael fy nosbarth nos oedolion i ddod yn gyfarwydd ag un o glasuron yr iaith Gymraeg. Nid yw eu Cymraeg yn ddigonol eto i daclo'r nofel wreiddiol ond maent wedi darllen yr addasiad Saesneg er mwyn cyfarwyddo a'r stori cyn mynd i weld y perfformiad. Nid wyf wedi cael cyfle i drafod eu hymateb yn fanwl eto gan mai dim ond neithiwr oedd y perfformiad ond fe gawsont agoriad llygad i weld Y Lyric yng Nghaerfyrddin yn llawn i'r ymylon a gweld set mor drawiadol hebson am berfformiadau slic actorion. Rwy'n edrych ylaen i gael trafodaeth yn ein dosbarth nesaf a diolch i Theatr Cymru am gynnig y fath brofiad.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|