|
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru Un o ddramâu enwocaf un o gewri'r theatr yw cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru.
Bydd Diweddgan gan y Gwyddel, Samuel Beckett yn cychwyn ar daith oamgylch Cymru Hydref 5, 2006.
Yn ddrama un act a lwyfannwyd gyntaf yn 1956 mae Diweddgan yn cael ei hystyried yn garreg filltir o bwys yn nhraddodiad y theatr absẃrd.
Dioddefaint ac ystyr bywyd Yn y Ffrangeg, dan y teitl, Fin de Partie, y'i hysgrifennwyd gan Beckett ac mae'n ymwneud â dioddefaint ac ystyr bywyd dyn.
Pedwar cymeriad sydd ynddi ac wedi eu lleoli mewn ystafell foel mae'r pedwar gydol yr amser mewn ofn a phryder bod rhyw newid ar ddod i'w bywyd di-werth.
Drwy gyfrwng iaith a dychymyg maent yn ceisio'n ofer am atebion.
Er mai'r diarhebol Waiting For Godot yw drama enwocaf Beckett y mae Diweddgan hefyd gyda'r pwysicaf o ddramâu y dramodydd unigryw hwn.
Tro cyntaf "Yng ngwaith Samuel Beckett ar gyfer y llwyfan ceir dylanwad y bwrlésg, y fodfil, y theatr gerdd, y theatr gomedi Ffrengig, a steil ffilmiau mud cymeriadau fel Buster Keaton a Charlie Chaplin," meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts.
"Dyma'r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru lwyfannu drama sy'n glasur Ewropeaidd a lle sy'n fwy teilwng i ddechrau nag wrth ddathlu genedigaeth Samuel Barclay Beckett union gan mlynedd yn ôl," ychwanegodd.
Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol newydd Cymru gyfieithodd Diweddgan i'r Gymraeg.
Isdeitlau "Ac am y tro cyntaf defnyddir isdeitlau Saesneg ar sgrîn wrth ochr y llwyfan mewn rhai perfformiadau yn ystod y daith bedair wythnos," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
"Mae hyn yn estyniad arbrofol i'r sesiynau arferol a gynhaliwyd cyn berfformiadau ar gyfer dysgwyr y Gymraeg ac fe fydd datblygu'r dechneg yma'n ddibynnol ar ymateb y dysgwyr i'r ddarpariaeth newydd," ychwanegodd.
Aelodau'r cast yw Arwel Gruffydd, Owen Arwyn, Lisabeth Miles a Trefor Selway.
Cyfarwyddwr Diweddgan yw Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts, a fu'n gyfrifol am ddau o gynyrchiadau eraill y cwmni.
Y daith
Bydd y perfformiad cyntaf yn Theatr Gwynedd, Bangor, Hydref 5.
Dyma fanylion y daith gyda phob perfformiad yn dechrau am 7.30: * - isdeitlo.
Theatr Gwynedd, Bangor. Hydref 5-7*.
Theatr Sherman, Caerdydd. Hydref 11-12*.
Theatr Hafren, Y Drenewydd. Hydref 19*.
Canolfan Gelfyddydau, Aberystwyth. Hydref 24.
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. Hydref 27-28*.
Theatr Lyric, Caerfyrddin. Hydref 31.
Theatr Mwldan, Aberteifi. Tachwedd 3 Tachwedd.
Bydd y daith yn cynnwys gweithdai arbennig ar gyfer myfyrwyr drama a dysgwyr y Gymraeg, yn ogystal â'r is-deitlo yn Theatr Gwynedd, Bangor; Theatr Sherman, Caerdydd; Theatr Hafren, Y Drenewydd a Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.
Samuel Beckett Er mai yn Nulyn y ganwyd Samuel Beckett yn ym Mharis y treuliodd lawer o'i fywyd gyda gyrfa hir, anniddig a ffrwythlon a arweiniodd at Wobr Llenyddiaeth Nobel ym 1969.
Bu farw ym Mharis ym 1989.
Cysylltiadau Perthnasol
Beckett yn Eisteddfod Abertawe 2006
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|