|
Canwr y Byd Caerdydd Dilyn yr ornest
gan Gwyn Griffiths Nid wyf na cherddor na mab i gerddor, ond ar brynhawn Sul cyntaf cystadleuaeth 91Èȱ¬ Canwr y Byd Caerdydd, a ninnau heb fod hanner ffordd drwy'r ail ddatganiad yng nghystadleuaeth Gwobr y Gân Rosenblatt, penderfynais mai yr enillydd fyddai Nicole Cabell, soprano 27 oed o Chicago.
Doedd y brif gystadleuaeth operatig ddim wedi cychwyn ond am wythnos gyfan bum yn canu clodydd yr Americanes hardd wrth unrhyw un - yn gerddorion proffesiynol a lleyg - oedd ddigon gwirion, neu foneddigaidd, i aros i wrando arna i.
Ac yr oeddwn i'n iawn, er na wnaeth hi ddim ennill Gwobr y Gân - yn lle y clywais hi'n canu gyntaf.
Yr oedd presenoldeb y ferch hardd hon â'i llais gyda'i amrywiaeth a'i ystod syfrdanol yn cyhoeddi bod yma gantores fydd yn swyno ac addurno llwyfannau opera'r byd cyn pen fawr o dro.
Mae ysbryd eisteddfodol feirniadol y Cymry yn amlwg yn yr ŵyl hon, oherwydd y mae'n gymaint o ŵyl ag o gystadleuaeth. Ac y mae gennym gymaint o hawl bod yn feirniaid a neb.
Neu o leiaf dyna ddywedais wrthyf fy hun o glywed y beirniad answyddogol, doeth, Humphrey Burton ar Radio 3, yn darogan mai y baswr o Georgia, Mikhail Kolelishvili, fyddai enillydd Gwobr y Gân.
Tipyn o ganwr, ond nid yn y gystadleuaeth arbennig honno.
Llais llesmeiriol Enillydd haeddiannol iawn y wobr, fel y gwyddom erbyn hyn, oedd y tenor swynol o Sais, Andrew Kennedy o Northumberland.
Cerddor hyd flaenau ei fysedd a chanddo lais llesmeiriol, yn arbennig ei nodau isaf. Bydd hwn yn sicr o ennill bri mewn neuaddau cyngerdd, a gyda'i bersonoliaeth annwyl a diymhongar mae'n sicr o yrfa lwyddiannus ym myd y opera hefyd.
A sôn am Mr Burton, ymffrostiai fod tri o'r pump yn y rownd derfynol am Wobr y Gân yn y traddodiad Eingl-Sacsonaidd ond fuaswn i ddim yn dweud bod y baritôn Quinn Kelsey o Hawaii na Nicole Cabell Sbaenaidd yr olwg er hwyrach o dras Affricanaidd a gynrychioliai'r Unol Daleithau, yn Eingl-Sacsonaidd iawn.
Nac ychwaith ei ffefryn am y wobr, Kolelishvili o Georgia.
Er bod yr enillydd, mae'n siŵr, yn Eingl-Sacsonaidd - oni bai ei fod yn ddisgynnydd o Frythoniaid yr Hen Ogledd.
A'r un modd y fezzo fendigedig o Seland Newydd, Wendy Dawn Thompson, a ddaeth, fel Nicole Cabell ac Andrew Kennedy, i rownd derfynol y ddwy gystadleuaeth. Roedd hi'n anffodus i fynd adref yn waglaw.
Pleidlais y bobl Tra 'mod i'n sôn am feirniaid answyddogol, y mae gwobr arall yn Canwr y Byd Caerdydd, Gwobr y Gynulleidfa a noddir gan y Bwrdd Croeso.
Wedi'r rownd ragarweiniol olaf gwahoddwyd y gynulleidfa yn Neuadd Dewi Sant, a'r gynulleidfa radio a theledu, i fwrw pleidlais o blaid y sawl a roddodd y pleser mwyaf iddyn nhw.
Rhyw wobr od, yn fy meddwl i; ond yr enillydd oedd Ha-Young Lee, y soprano o Corea.
Yn anarferol, ac am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth os yw fy nghof yn gywir, y pump aeth i rownd derfynol y brif gystadleuaeth oedd enillwyr y rowndiau rhagarweiniol.
Yr oedd llawer o'r farn fod y soprano o Corea, a roddodd berfformiad ardderchog yn yr olaf o'r rowndiau rhagarweiniol, yn anffodus na ddaeth i'r rownd derfynol.
Yr enillydd yn ei rownd hi ar y nos Iau oedd y tenor gyda'r llais rhamantus o Chile, Luis Olivares Sandoval.
Wel, fe gafodd Hayoung Lee wobr y gynulleidfa a bu'n ddigon grasol i roi cusan i bob un o'r beirniaid. Fe gawson nhw fwy na'u haeddiant!
Y noson olaf Roedd y noson olaf yn anfarwol.
Fe glywn lawer am Luis Olivares Sandoval, tenor arall yn nhraddodiad rhamantus De America, a Wendy Dawn Thompson o Seland Newydd.
Roedd y soprano o'r Eidal, Daria Masiero, hytrach yn ffodus i fod yno, ond fe gawsom ddigon o brawf i ni weld amryw fydd yn y to nesaf o sêr y neuadd gyngerdd a'r tai opera.
O Gymru, cafwyd perfformiadau da iawn gan Camilla Roberts er na chyrhaeddodd lwyfan terfynol yr un o'r ddwy gystadleuaeth. Ond wnaeth hi ddim drwg o gwbl i'w henw da.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
|