|
Y Bonc Fawr Meddwi ar sioe dafarn
Adolygiad Rhian Price o Y Bonc Fawr. Cwmni Theatr Bara Caws.
Clwb Wellmans, Llangefni nos Iau Tachwedd 3, 2005.
Mae unrhyw un sydd wedi gweld un o sioeau clybiau Cwmni Theatr Bara Caws yn gwybod yn union beth i'w ddisgwyl. Mae gan y rhai hynny na fu erioed ar eu cyfyl, hyd yn oed, ryw glem.
Testun gwawd Mae'n debyg y bydd sawl celpan i rai o ffigyrau amlyca'r genedl ac mi fyddwch yn siŵr o fod yn destun gwawd y cast os meiddiwch chi godi i fynd i'r bar neu'r tŷ bach yn nghanol y perfformiad.
Ac oni bai iddi fod yn sioe arbennig o wael mi fydd yna lot o chwerthin. A do, mi fu digon o hwnnw yng Nghlwb Wellmans Llangefni yn un o berfformiadau cyntaf y sioe ddiweddaraf, Y Bonc Fawr.
Braf oedd gweld y clwb dan ei sang ar nos Iau lawog, oer, a buan iawn y cynhesodd y gynulleidfa.
Gosodwyd cywair y noson o'r cychwyn cyntaf gyda chân gan bum aelod y cast yn rhestru rhai o'r bobl o fewn cymdeithas sy'n "ei chael hi'n galad".
Chwarelwr A'i chael hi'n galed ar sawl ystyr y mae prif gymeriad y sioe, y chwarelwr Richard Puw - Dic, bid siwr, i bawb sy'n ei nabod - sy'n cael ei bortreadu gyda'r arddeliad arferol gan Bryn Fôn.
Crafu byw ar drugaredd perchennog y chwarel mae Dic a'i ferch ddiniwed, Ffani (Awen Wyn Williams) ac mae Dic yn dyheu am rywfaint - unrhyw faint - o serch yn ei fywyd ers marwolaeth ei wraig.
Er mwyn gwella'u sefyllfa ariannol mae'n rhaid i Dic ennill ras geffylau ond, wrth reswm, mae sawl clwyd o'i flaen i'w neidio cyn y daw unrhyw newid ar ei fyd.
Dau fwci Yn sefyll yn ei ffordd y mae'r ddau fwci Gwyddelig, Pat a Shamus (ystrydebol tu hwnt, ond digri' iawn, iawn), gweinidog dieflig, a Camilla, nith perchennog y chwarel sy'n aros yn farus eiddgar i etifeddu'r cyfan.
Catrin Mara, Robin Griffith a Fraser Cains yw actorion eraill y cynhyrchiad ac fe gafwyd perfformiadau clodwiw gan bob un.
Uchelbwyntiau Heb ollwng y gath o'r cwd ac amharu ar fwynhad darllenwyr sydd eto i weld y sioe, mae'r uchelbwyntiau yn cynnwys y ras geffylau sy'n ffars lwyr ac yn hynod ddoniol, a'r ffordd y mae wynebau dau o'r actorion yn ymddangos yn annisgwyl ar y llwyfan wrth ymuno ag un o'r caneuon.
Mae ad-libio Bryn Fon hefyd yn wych er mae'n anodd dweud weithiau beth sy'n fyrfyfyr a beth oedd yn y sgript.
Rhaid canmol sgript Geraint Derbyshire - camp anodd, mae'n siwr, yw amrywio fformat cyfarwydd a ffeindio ffyrdd newydd o gyflwyno'r un hiwmor o flwyddyn i flwyddyn.
Mynd o chwith Un o elfennau doniolaf y sioe glybiau yw'r pethau hynny sy'n mynd o chwith - actorion yn chwerthin yn ystod perfformiad, mwstashis a wigiau'n gwrthod aros yn eu lle a thrafferthion wrth agor a chau drysau.
Bwriadol, dybiwn, yw rhai o'r elfennau hyn gan eu bod yn plesio'r dorf, ac mae rhywun yn cael argraff bendant fod yr actorion yn mwynhau eu hunain lawn gymaint a'r gynulleidfa.
Roedd y set yn gynnil ond effeithiol gyda'r rhan fwyaf o'r stori'n digwydd yng nghegin Dic a Ffani.
Gofod eithaf cyfyng oedd ar gael i'r actorion ond fe wnaethon nhw'r mwyaf ohono ac roedd y diffyg lle hwnnw yn sicr yn ychwanegu at ddoniolwch golygfa'r ras geffylau.
Prinder enwogion! Yr unig beth oedd yn groes i'm disgwyliadau, falle, oedd cyn lleied y jôcs am enwogion Cymru, er y bu'n amhosib gwrthsefyll y temtasiwn i roi swadan gyffredinol i gyflwynwyr Radio Cymru a chyfeirio o leiaf unwaith at un o gerddorion amlyca' Môn.
Fel arall, mi gefais yn union yr hyn yr oeddwn wedi ei ddisgwyl, sef reiat o sioe a berodd imi wenu wrth yrru gartre drwy'r glaw.
Gweddill y daith:
Nos Sad. 12 Tachwedd Clwb Rygbi Bethesda 7.30 Linda 01248 601526 neu Huw 01248 602480
Nos Fawrth 15 Tachwedd Gwesty Kinmel Manor, Abergele 7.30 Berwyn Roberts 01745 812672
Nos Ferch. 16 Tachwedd Gwesty Kinmel Manor, Abergele 7.30 Maldwyn 01745 860515 a Ioan 01745 860661
Nos Iau 17 Tachwedd Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog Glyn 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
Nos Wener 18 Tachwedd Clwb Rygbi Bro Ffestiniog 7.30 Glyn 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
Nos Sad. 19 Tachwedd Clwb Rygbi Bro Ffestiniog 7.30 Glyn 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
Nos Fawrth 22 Tachwedd Gwesty'r Eagles, Llanrwst 7.30 Menter Iaith Conwy 01492 642357 neu Siop Bys a Bawd,Llanrwst
Nos Ferch. 23 Tachwedd Gwesty'r Eagles, Llanrwst 7.30 01492 642357 neu Siop Bys a Bawd
Nos Iau 24 Tachwedd Clwb Chwaraeon Porthmadog 7.30 Robert 01766 514217 neu 07831101231
Nos Wener 25 Tachwedd Clwb Chwaraeon Porthmadog 7.30 Robert 01766 514217 neu 07831101231
Nos Lun 28 Tachwedd Clwb Pel-droed, Caernarfon 7.30 Huw 01286 675607 neu 07818651752
Nos Fawrth 29 Tachwedd Clwb Pel-droed, Caernarfon 7.30 Huw 01286 675607 neu 07818651752
Nos Ferch 30 Tachwedd Clwb Pel-droed, Caernarfon 7.30 Huw 01286 675607 neu 07818651752
Nos Wener 2 Rhagfyr Clwb Simdde Wen, Wylfa, Cemaes 7.30 Ian 07919205217
Nos Sad. 3 Rhagfyr Clwb Simdde Wen, Wylfa, Cemaes 7.30 Linda Brown, 01286 676335
Nos Lun 5 Rhagfyr Clwb Cymdeithasol Bangor 7.30 Linda Brown 01286 676335 neu Christine 01248 600580
Nos Fawrth 6 Rhagfyr Clwb Cymdeithasol Bangor 7.30 Linda Brown 01286 676335 neu Christine 01248 600580
Nos Ferch. 7 Rhagfyr Gwesty'r Marine, Criccieth 7.30 Chris 01766 522946
Nos Iau 8 Rhagfyr Gwesty'r Marine, Criccieth 7.30 Chris 01766 522946
Nos Wener 9 Rhagfyr Canolfan Gymdeithasol Machynlleth 7.30 Siwan Hywel 01654 703944
Nos Sad. 10 Rhagfyr (Y Drill Hall) .. .. 7.30 Cynllun Gweithredu Iaith
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|