|
Deinameit Cynhyrchiad Cwmni Llwyfan Gogledd Cymru. Sgript gan Mari Emlyn a Gwion Halam. Adolygiad gan Dafydd Meirion
Awst 2004
Rwyf wedi dilyn streic 'Ferodo' - a dyna ydy hi i bobol ardal Caernarfon - ers y dechrau. Ar y radio, ar y we ac mi fyddai'n cael peint bob nos Wener efo un o'r streicwyr.
Sut fyddai'r streic yn cael ei phortreadu ar lwyfan? Dyna oedd yn mynd drwy fy meddwl wrth yrru'r car am Theatr Gwynedd, Bangor, nos Fawrth - ail noson y perfformiad. Fyddai yna rhyw driciau arti-ffarti - 'ta fyddan nhw'n ei 'chwarae hi'n strêt'?
Set syml oedd ar y llwyfan. Roedden nhw wedi ail greu safle'r biced y tu allan i'r ffatri. Y fynedfa efo'r ynys fechan a'r bolard a choeden ar y dde.
Rhyw hanner awr wedi dechrau'r ddrama, daeth yr hen garafán i'r golwg - yr union garafán y bu'r streicwyr yn ei defnyddio i mochel rhag y glaw yn chwipio o'r Fenai.
Yn gefndir roedd cymylau yn araf symud yn yr awyr a phob hyn a hyn ceid lluniau o gyfnod y streic - y streicwyr, y gorymdeithio, y tribiwnlys, yr ymweliadau gan bwysigion.
Lleisiau'r streicwyr Rhwng golygfeydd ceid lleisiau'r streicwyr eu hunain yn sôn am y profiad o fod ar un o linellau piced hiraf Prydain, beth oedd bod heb arian, sut oedd hyn yn effeithio ar eu teuluoedd, a'r hyn oedden nhw'n feddwl o'r perchennog Americanaidd Craig Smith.
A thrwy'r ddrama ceid seiniau cyrn ceir yn canu eu cefnogaeth i'r streicwyr, a hwythau'n codi llaw i'w cydnabod.
Cadw'n go agos at yr hanes wnaeth y sgript. Yn ffodus, roedd dyfais gan y streicwyr eu hunain i ddangos treigl amser - bwrdd ac arno rifau'n dangos sawl diwrnod y buon nhw ar streic - ac roedd hwn yn cael ei ddefnyddio ar y llwyfan.
Pedwar actor oedd yna. Jac (Dyfan Roberts), hen lanc yn ei bumdegau, ar dân dros hawliau'r gweithwyr; yn simsanu dim yn ei argyhoeddiad nes marwolaeth ei fam ac yntau heb ddweud wrthi am ei frwydr.
Guto (Dyfrig Evans), bachgen ifanc, priod, yn poeni sut y byddai'n talu'r rhent ac yn prynu anrhegion i'r blant.
Lynda (Olwen Medi), oedd mi roedd yna ferched ar streic; hithau eto'n gadarn dros ei hawliau, er bod ei phriodas yn prysur ddadfeilio.
Ac Emrys (Dewi Rhys), streiciwr cadarn, er i yntau gloffi pan gafodd alwad ffôn bersonol gan Craig Smith yn ceisio'i berswadio i ddychwelyd i'r gwaith.
Y sgabs Ac mi roedd yna gymeriadau anweledig - y sgabs, y rhai oedd wedi mynd i weithio'n lle'r streicwyr.
Doedden nhw ddim i'w gweld, ond roedd yna fynych gyfeiriad atyn nhw, yn enwedig pan ddeallodd Emrys bod ei ferch yn mynd i briodi un ohonyn nhw.
Ac roedd eu dicter tuag at Craig Smith yn amlwg drwy'r ddrama - y dyn digyfaddawd oedd yn benderfynol o dorri cefn y gweithwyr a'u cael i weithio ar delerau salach.
Roedd y dwys a'r doniol yma. Ac mi roedd yna ddarnau dwys iawn ynghanol yr herian a'r hwyl. Jac ar ôl colli ei fam, Guto pan roedd rhai'n edliw iddo na allai fforddio anrhegion i'w blant.
Roedd yna dyndra, hefyd, ymysg y streicwyr. Rhai yn nogio, sefyllfa ariannol eraill yn wahanol.
Llawer o regi Cafwyd perfformiadau grymus gan y pedwar, er efallai bod Olwen Medi yn rhy hoff o weiddi.
Cafwyd llawer o regi (yn wir, mi roedd yna deimladau cryfion ymysg y streicwyr - tuag at y perchennog, y sgabs a'u sefyllfa), ac yn wir y rhegfeydd ddenodd fwyaf o chwerthin y gynulleidfa.
I Gaerdydd Wedi tridiau ym Mangor, mae Deinameit! yn symud i Gaerdydd. Sut ymateb gaiff hi'n fan'no gan rai sydd, efallai, ddim mor gyfarwydd â'r hanes?
Roedd sawl cyfeiriad at bobol leol yn y sgript - Anti Lw oedd yn pobi bara brith i'r streicwyr, Arwyn (tynnwr lluniau'r papur newydd lleol), Alun Gelli (un fu'n ddiwyd iawn yn codi arian i'r streicwyr). Fydd y sgript yn cael ei haddasu ar gyfer Caerdydd ynteu fydd trigolion y brifddinas yn colli rhywfaint o'r hwyl?
Gwerth ei gweld Mae'n ddrama gwerth ei gweld. Mae'n ddrama bwysig sy'n cofnodi cyfnod pwysig yn ein hanes. Efallai na chafodd hi mo'r un effaith ar y gymdogaeth ac a gafodd Streic y Penrhyn ar Ddyffryn Ogwen, ond os gall undeb y streicwyr gael y maen i'r wal gyda'r Llywodraeth yn Llundain a'u cael i newid y rheolau yngln â diswyddo gweithwyr, mi fydd ei heffaith i'w chlywed drwy wledydd Prydain.
Dyma ddechrau da gan gwmni newydd Llwyfan Gogledd Cymru. Roedd y theatr yn orlawn nos Fawrth ac mae'n siwr mai felly'r oedd hi ar y ddwy noson arall.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at berfformiadau eraill y cwmni - drama am drychineb glofa Gresford a hanes y Gwyddelod yn y Frongoch, gan fawr obeithio y byddan nhw o'r un safon â Deinameit! Ydy, maen nhw wedi dechrau efo bang!
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|