Talaith y De ddydd Sadwrn Awst 2 am 1.00.
Perfformiad mawreddog
Yn ychwanegol at hyn bydd Theatr Ieuenctid yr Urdd yn llwyfannu yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio gan y mudiad fel "perfformiad mawreddog" yn Theatr Donald Gordan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Caerdydd 2009.
Ysgrifennwyd y sioe honno, Ffawd gan Siwan Jones a Catrin Dafydd gyda phedwar cerddor ynghlwm â'r gerddoriaeth, Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, Eric Jones a Dyfan Jones.
Y Prifardd Tudur Dylan Jones sy'n gyfrifol am eiriau'r holl ganeuon.
Bydd yr Urdd yn cynnal clyweliadau i ddewis y cast a'r tîm cynhyrchu yn ystod Hydref 2008.
Cynnig profiad
Noddir Theatr Ieuenctid yr Urdd gan Goleg y Drindod, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth William Park Jones ac meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd;
''Mae'r Theatr yn cynnig profiadau penigamp i bobl ifanc ym mhob cwr o Gymru.''
Cwmni sydd wedi cael ail wynt ydi Theatr Genedlaethol yr Urdd ac wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2006 gyda thros gant o aelodau rhwng 14 a 19 oed ar hyd a lled Cymru.
Mae'r aelodau yn y tair 'talaith' yn cyfarfod yn achlysurol mewn digwyddiadau fel y cwrs preswyl yng Ngwersyll Glan-llyn dros y Pasg, 2008 lle'r oedd. Edd Holden yn gyfrifol am y weithdai hip hop, Eddie Ladd am ddawnsio, Siân Summers am berfformio a Robart Arwyn yn rhannu ei arbenigedd lleisiol â hwy.
Disgrifiodd Efa Gruffudd Jones y cwmni fel; "Meithrinfa i dalentau'r dyfodol."
"Mae'n wych bod cymaint o Gymry ifanc yn awyddus i fod yn rhan o'r Theatr, a gwn y cânt brofiadau arbennig wrth fod yn rhan ohono. Fe fyddan nhw'n elwa o brofiadau cymdeithasol ac artistig penigamp,'' meddai.